成人快手

Nifer 'digynsail' o sgamiau'n ymwneud 芒 coronafeirws

  • Cyhoeddwyd
Dynes h欧n ar gyfrifiadurFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae pryder y bydd twyllwyr yn manteisio wrth i fwy o bobl sy'n h欧n neu'n agored i niwed droi at y we

Mae'r awdurdodau yng Nghymru yn delio gyda nifer "digynsail" o sgamiau wrth i dwyllwyr geisio manteisio ar ymlediad coronafeirws, yn 么l asiantaeth Safonau Masnach.

Ymhlith y sgamiau'n ymwneud 芒 COVID-19 mae gwasanaethau siopa twyllodrus a thwyllwyr yn honni bod angen archwilio tanciau d诺r am y feirws er mwyn cael mynediad at dai.

Dywedodd Safonau Masnach Cymru bod mathau newydd o sgamiau - rhai wyneb yn wyneb ac ar-lein - yn ymddangos bob dydd.

Mae elusen Cymorth i Ddioddefwyr yn disgwyl y bydd achosion o droseddau ar y we yn cynyddu drwy gydol y cyfnod o ynysu cymdeithasol, gyda sgamwyr yn "manteisio ar ofnau pobl".

'Esgus gwneud cymwynas'

Mae Alison Farrar o Safonau Masnach Cymru'n dweud bod swyddogion yn delio gyda lefelau twyll sydd "heb eu gweld o'r blaen".

"Dechreuodd gyda phobl yn esgus gwneud cymwynas i rywun, cynnig gwneud eu siopa ond yn cymryd yr arian a pheidio dod yn 么l," meddai.

"Yna dechreuon ni weld y galwadau a'r e-byst, llythyron a negeseuon testun.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae twyllwyr yn manteisio ar y sefyllfa i gael arian a manylion banc pobl, medd Alison Farrar

"Mae pob un yn honni i fod yn rhywbeth i'w wneud 芒'r coronafeirws - un ai yn ceisio eich annog i hawlio arian yn 么l neu roi arian yn 么l.

"Yn y pen draw maen nhw'n gobeithio am eich manylion banc a'ch gwybodaeth bersonol. A'r nod ydy cymryd eich cynilion oes."

Cynnig nwyddau hanfodol

Un o'r pryderon mwyaf i'r heddlu ydy bod mwy o bobl yn dod i gysylltiad 芒 thwyllwyr, wrth i fwy o bobl h欧n ac agored i niwed droi at y we.

"Yr hyn 'dy ni'n ei weld ydy pobl yn ceisio manteisio ar y bobl sy'n agored i niwed," meddai Prif Gwnstabl Heddlu Gwent ac arweinydd dros Gymru ar droseddau seibr, Pam Kelly.

"Maen nhw'n rhoi llawer o gynigion y gallai fod llawer o bobl eu heisiau - er enghraifft, papur toiled neu hylif glanhau dwylo.

"Ond 'dy ni'n gweld bod pobl yn prynu'r eitemau ar y we, ond dydyn nhw byth yn dod i'r fei. Neu os ydyn nhw yna maen nhw'n rai ffug."

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gwent
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Prif Gwnstabl Heddlu Gwent, Pam Kelly'n annog dioddefwyr i beidio fod 芒 gormod o gywilydd i fynd at yr heddlu

Er ei bod yn ymwybodol y gallai pobl deimlo embaras o fod wedi rhoi arian i dwyllwyr, dywedodd Ms Kelly bod adrodd y sgamiau yn bwysig iawn.

"Mae'r gorau ohonom yn na茂f ac weithiau mae'r twyllwyr yn soffistigedig.

"Gwnewch yn si诺r eich bod yn adrodd y problemau yma i ni. Os nad ydych chi'n eu hadrodd yna fyddwn ni fyth yn gwybod gwir faint y broblem."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae pryder y bydd yna fwy o achosion o sgamio rhamant wrth i bobl dreulio fwy o amser ar-lein, medd Luke Seidel-Haas o Gymorth i Ddioddefwyr Cymru

Yn 么l Cymorth i Ddioddefwyr mae'n debygol y bydd sgamiau sydd ddim yn ymwneud 芒 coronafeirws, fel sgamiau rhamant, yn fwy cyffredin hefyd wrth i dwyllwyr "fanteisio ar ofnau pobl".

"Fel arfer, drwy sgamiau rhamant rydych chi'n gwneud ffrind ar y we, mae 'na gyfnod o greu perthynas... cyn iddyn nhw ddod atoch chi am arian," meddai Luke Seidel-Haas.

"Mae pobl yn barod iawn i greu cysylltiadau ar-lein ar hyn o bryd, gan nad ydyn nhw'n gallu gweld pobl wyneb yn wyneb.

"Gyda rhamant ar-lein efallai bod pobl yn siarad ar y we am gyfnod cyn cyfarfod wyneb yn wyneb - ond does ganddon ni ddim yr opsiwn yna ar hyn o bryd.

"O bosib mae pobl yn fwy agored i gredu bod pobl yn gyfeillgar."