成人快手

Ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch cerflun HM Stanley

  • Cyhoeddwyd
Cerflun HM Stanley yn NinbychFfynhonnell y llun, Alexandra Derwen
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r cerflun yn dangos HM Stanley'n paratoi i gyfarch yr anturiaethwr Dr Livingstone yn Affrica yn 1871

Mae cynghorwyr wedi pleidleisio dros roi cyfle i'r cyhoedd benderfynu be ddylid ei wneud ynghylch cerflun dadleuol yng nghanol tref Dinbych.

Mae dros 7,000 o bobl wedi arwyddo deiseb yn galw am gael gwared ar y cerflun o'r anturiaethwr Henry Morton Stanley yn sgil yr ymgyrchu diweddar dros gydraddoldeb i bobl o gefndir du, Asiaidd neu leiafrif ethnig (BAME).

Mewn ymateb i alw tebyg, fe benderfynodd cynghorwyr yn Llanelwy i gadw cerflun yn ei goffa yn fanno, ac i ychwanegu mwy o gyd-destun yn y geiriad sydd arno.

Dywed Cyngor Tref Dinbych fod aelodau wedi pleidleisio dros gynnig "i'r mater fynd i ymgynghoriad cyhoeddus pan fydd yn ddiogel gwneud hynny gan ystyried cyfyngiadau cyfredol Covid-19".

Cafodd y "gwrth-gynnig" hwnnw ei gefnogi mewn cyfarfod ar-lein o chwe phleidlais i bump, mewn ymateb i gynnig arall "yn gofyn am gael gwared 芒'r cerflun ar unwaith".

Bydd y cyngor yn cyhoeddi mwy o wybodaeth ynghylch yr ymgynghoriad cyhoeddus ar-lein ar 么l i'r cyfyngiadau cloi gael eu codi.

'Pleidlais ddemocrataidd'

"Mae'n rhaid iddo fod yn bleidlais ddemocrataidd i bobl Dinbych, boed y canlyniad yn un dymunol ai peidio," meddai maer Dinbych, y Cynghorydd Gaynor Wood-Tickle.

Roedd yna awgrym yn ystod y cyfarfod ar-lein i symud y cerflun i leoliad arall, fel amgueddfa, at ddibenion addysg.

Roedd yna sylw hefyd i farn cyfranwyr allanol, gan gynnwys hanesydd o'r Congo, Norbert Mbu-Mputu, sy'n dweud fod Stanley "yn ddyn ei gyfnod" na ddylid ei ystyried "yn ddihiryn".

Dywedodd y Cynghorydd Rob Parkes fod mwyafrif yr ebyst y mae wedi'u derbyn yn gwrthwynebu cadw'r cerflun.

"Mae llygaid y byd arnon ni ac mae'n hanfodol bwysig ein bod yn gwneud y penderfyniad cywir," meddai.

Ffynhonnell y llun, Llywelyn2000
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd obelisg er cof am HM Stanley'n aros yn Llanelwy ond gyda mwy o gyd-destun hanesyddol

Daeth penderfyniad Cyngor Tref Dinbych oriau wedi i gynghorwyr yn Llanelwy bleidleisio'n unfrydol i gadw obelisg yn coff谩u Stanley yn fanna wedi i ddeiseb yn gwerthwynebu'r cerflun ddenu 1,100 o enwau.

Ond fe wnaethon nhw gytuno i sefydlu gweithgor i ystyried addasu'r wybodaeth ar y gofeb.

Mae Esgob Llanelwy, Gregory Cameron, ymhlith y rhai sy'n dadlau o blaid cael gwared ar y ddau gerflun yn Sir Ddinbych.

Mae'n dweud fod Stanley - enw genedigol, John Rowlands - wedi "dangos dim parch at frodorion Affrica" wrth i Wlad Belg "gaethiwo poblogaeth gyfan" i gynhyrchu rwber.

Roedd yna wrthwynebiad o'r cychwyn pan osodwyr y cerflun tu allan i lyfrgell Dinbych yn 2011.

Fe wnaeth dros 50 o academyddion, awduron a ffigyrau amlwg arwyddo llythyr gan ddadlau fod Stanley'n euog o droseddau yn erbyn dynoliaeth, ac o gynorthwyo gwladychu a chaethwasiaeth yn Affrica.