成人快手

Dysgu Cymraeg yn y cyfnod clo

  • Cyhoeddwyd
Dysgwyr Cymraeg

Pobi bara, rhedeg 100k mewn mis, dysgu iaith - mae pobl wedi defnyddio cyfnod y locdown fel cyfle i wneud a dysgu pob math o bethau.

Mae miloedd yn fwy o ddysgwyr yn dysgu Cymraeg ar-lein yn ystod y pandemig, gyda phobl o bob rhan o Gymru a thu hwnt yn ymuno 芒 dosbarthiadau. Ond sut brofiad yw dysgu iaith pan yn gaeth i'r t欧?

Ffynhonnell y llun, Eduardo Castaneda Bracho

Mae Eduardo Castaneda Bracho yn wreiddiol o Wlad y Basg a bellach yn byw ac yn dysgu Cymraeg yn Sir G芒r.

Dw i wedi byw yn Llandeilo ers naw mlynedd. Mae tyfu fyny mewn cymuned dwyieithog wedi helpu fi i ddeall pwysigrwydd a gwerth siarad mwy nag un iaith - dw i'n credu bod siarad iaith yn caniat谩u ichi ddeall diwylliant gwlad a meddylfryd ei phobl. Dw i'n siarad Sbaeneg, Basg, ac Almaeneg yn rhugl a dw i'n gobeithio meistroli Cymraeg hefyd!

Penderfynais ddysgu Cymraeg ar 么l fy ymweliad cyntaf 芒 Chymru yn 2011. Fe wnes i syrthio mewn cariad 芒'r wlad a'i phobl. Dw i wedi trio dysgu lawer gwaith ar fy mhen fy hun ond mae hi'n anodd heb gefnogaeth tiwtor.

Pan glywais fod y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn cynnig cyrsiau ar-lein yn ystod y locdown, wnes i ymuno.

Roedd dysgu Cymraeg trwy gyfrifiadur yn teimlo'n rhyfedd ar y dechrau - ond yn fuan iawn dechreuais i fwynhau.

Mae ymarfer siarad yn ystod y cyfnod clo wedi bod yn heriol, ond gan 'mod i newydd ddechrau dysgu, byddwn i ddim wedi teimlo'n gyffyrddus beth bynnag yn siarad yn y byd go iawn.

Dw i'n edrych ymlaen yn fawr at y diwrnod pan mae'n saff i gymysgu'n gymdeithasol eto, ac i allu ymarfer fy Nghymraeg gyda fy ffrindiau sy'n siarad Cymraeg.

Ffynhonnell y llun, Nigel Blake
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Nigel a Celia

Mae Nigel Blake yn gyn-fynach gyda Urdd Sant Ffransis sy'n byw ym mhentref Plwmp gyda'i bartner Celia. Bu Nigel yn weithiwr cymdeithasol am flynyddoedd ac mae e a'i wraig yn rhan o'r ymdrech i gefnogi ffoaduriaid o Syria yn Aberteifi.

Symudodd Celia a fi i Gymru bron 12 blynedd yn 么l ar 么l ymddeol. Ar 么l symud penderfynon ni yn syth i ddechrau dysgu Cymraeg oherwydd roedd hi'n bwysig i ni ddysgu mwy am y diwylliant a'r iaith y wlad ro'n ni wedi symud i mewn i.

Ro'n ni'n lwcus achos roedd amser 'da ni wneud cwrs dwys dwywaith bob wythnos. Roedd y tiwtoriaid a'r pobl yn y dosbarth yn cyfrannu i'r profiad o ddysgu. Roedd hi'n brofiad cymdeithasol, rhannu hwyliau uchel ac amseroedd anodd.

Mae'r 'Cloi Mawr' wedi bod yn brofiad eitha afreal. Rwyf yn cydymdeimlo gyda phobl sy rhaid byw mewn amgylchiadau anodd heb lot o gefnogaeth.

Yma, 'dyn ni'n lwcus iawn, gyda digon o le ac amgylchoedd hyfryd. 'Dyn ni'n colli'r cyfle cwrdd 芒'n ffrindiau lleol ond mae darparwyr y cyrsiau Cymraeg wedi addasu yn gyflym iawn a darparu cyrsiau ar-lein trwy Zoom ac apiau eraill.

Bod yn onest, nawr dych chi'n gallu ffeindio cyfleodd sgwrsio Cymraeg bob dydd trwy'r dydd. Mae hi'n well nag o'r blaen! Dw i'n ceisio ymuno gyda dosbarthiadau dwywaith bob wythnos a rhyw fath o sgwrs ar-lein unwaith.

Dweud y gwir, dyn ni'n byw yn canol y byd, Plwmp yng Ngheredigion ble mae'r haul yn disgleirio bob dydd a llawer o'n cymdogion yn siarad Cymraeg (wel o leiaf y rhan olaf yn wir)!

Mae dysgu Cymraeg wedi bod yn brofiad trawiadol i ni. Mae hi wedi agor drws ar y gymdeithas Gymreig, 'dyn ni wedi gwneud ffrindiau trwy ddysgu a ffrindiau trwy gymdeithasu. Nawr 'dyn ni'n gallu mynd mas i ddigwyddiadau lleol sy'n digwydd trwy cyfrwng y Gymraeg.

Ffynhonnell y llun, Mark Adey

Mae Mark Adey yn athro ac wedi bod yn dysgu Cymraeg ers saith mlynedd.

Fe ddechreuais i ddysgu Cymraeg pan oedd fy merch i'n astudio Cymraeg lefel A ail iaith. Doedd hi ddim yn cael digon o brofiad o siarad yr iaith felly ymunais i 芒 hi gyda gwersi Cymraeg yn y nos.

Athro ydw i, felly roedd mynd yn 么l i ddosbarthiadau yn brofiad hollol gwahanol a rhyfedd i brofi y dosbarth o'r ochr arall fel myfyriwr! Roedd y profiad yn dipyn bach o sbardun i fi, cwrddais i 芒 phobl newydd ac ro'n i'n mwynhau y profiad o ddatblygu y hyder i ddefnyddio fy sgiliau newydd yn gymdeithasol gyda ffrindiau sy'n siaradwyr Cymraeg.

Yn ystod y cyfnod clo mae'r dysgu wedi mynd ymlaen! Mae'r brifysgol wedi bod yn gefnogol iawn a dw i wedi cael gwersi gyda fy ngr芒p fel arfer ar nos Lun, ond gyda ymbellhau cymdeithasol ar yr ap Zoom ac ati.

Gyda ein tiwtor Helen 'dyn ni wedi bod yn dilyn fanyleb y cwrs a hefyd 'dyn ni wedi cael yr amser mewn ystafelloedd breakout i siarad gyda'n gilydd.

Mae'n bwysig i gario ymlaen gyda'r pethau 'dyn ni'n arfer gwneud i gadw strwythur i'r wythnosau. Gyda fi yn aros adre dw i wedi colli y cyfleoedd i ddefnyddio fy Nghymraeg yn gymdeithasol ond dw i'n dal i siarad 芒 ffrindiau ar y ff么n, a hefyd dal yn cael y cyfleoedd i gwrdd 芒 fy nosbarth ac ymarfer fy Nghymraeg pob nos Lun.

Ond dw i'n edrych ymlaen at weld pobl yn y dosbarth, nid ar y sgrin.

Dw i'n teimlo dw i'n agos at gyrhaedd fy nod i fod yn rhugl yn yr iaith... Ond dal lot o amser i fynd! Weithiau mae pobl wedi dweud wrtha fi eu bod nhw'n teimlo y bydd hi'n rhy anodd i ddysgu, ond, byddwn i'n dweud ewch amdani achos mae'n bosib a mae lot o gefnogaeth ar gael i'ch helpu chi!

Dw i wedi mwynhau sut gymaint o bethau yn cynnwys gwirfoddoli yn Parti Ponti, Tafwyl ac Eisteddfodau. I fod yn Cymro mae wedi bod yn bwysig i fi i allu siarad yr iaith.

Ffynhonnell y llun, Judith Wainwright

Mae Judith Wainwright yn byw yng Nghwm Gwaun lle mae'n aelod brwdfrydig o Rocesi'r Fro.

Ar 么l i fi symud i ogledd Sir Benfro o Lundain, sylweddolais i pa mor bwysig yw'r iaith Gymraeg i bersonoliaeth a hunaniaeth yr ardal. Ro'n i a fy ng诺r diweddar wedi clywed pobl yn siarad Cymraeg o'r blaen yn ystod llawer o ymweliadau i'r ardal. Hefyd roedd fy ng诺r wedi dysgu'r Gymraeg yn yr ysgol fel plentyn yn Noc Penfro.

Ond roedd hi'n bwnc ysgol iddo fe, nid ei iaith cyntaf neu ran o'i blentyndod, heblaw am rhai caneuon a cherddi a oedd e'n gwybod ar galon. Ac roedd Gogledd y Sir yn bandit country i fachgen o Benfro.

I fi roedd y Gymraeg yn echreiddiad swynol, nes i fi glywed teuluoedd a phlant a ffermwyr a phawb yn y dafarn a'r siopau bach yn amlwg yn mwynhau eu hunain yn eu iaith naturiol. Chwarae teg i'r pobl yma; ro'n nhw'n gyfeillgar ac yn groesawus iawn i ni. Ond roedd hi'n amlwg bod sgwrsiau gwahanol yn digwydd yn y dwy iaith.

Felly cofrestron ni am gwrs yn Aberteifi ac ro'n ni'n ddigon lwcus i gael tiwtor gwych a gr诺p hyfryd o gyd-ddysgwyr bywiog hefyd.

I fi, mae dysgu o dan locdown wedi bod yn brofiad cymysg. Mae'r gwasanaethau yn Sir Benfro ac yng Ngheredigion wedi addasu'n dda ac yn gyflym i'r cyfyniadau gan ddarparu'r cyrsiau i gyd dros Zoom ac yn trefnu mwy o ddigwyddiadau ar Zoom hefyd, fel sesiynau dros goffi a gr诺p darllen.

Mae hynny'n wych ond dyw e ddim yn teimlo'r un peth 芒 chwrdd go iawn. Dw i'n edrych ymlaen i'r diwrnod pan fyddwn ni'n gallu dod at ein gilydd eto am y tro cyntaf - ac yn mynd i'r caffi ar 么l y dosbarth.

Nawr, ar 么l bron degawd, dw i wedi ennill cymaint fel canlyniad i dysgu'r Gymraeg. Mae'r profiad wedi agor drysau mewn sawl ffordd. Wedi cyrraedd lefel sylfaenol, ffeindiais i y gallwn i, i raddau, gael at holl byd llenyddiaeth, drama, comedi a cherddoriaeth Cymraeg yn ychwanegol 芒 ffeindio ffrindiau newydd.

Mwy o wybodaeth gan y

Hefyd o ddiddordeb