成人快手

System goleuadau traffig i lacio cyfyngiadau yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Canolfan arddioFfynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae canolfannau garddio eisoes wedi cael ailddechrau agor yng Nghymru ers dechrau'r wythnos

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi manylion y camau nesaf posib i'r cyfyngiadau teithio a chymdeithasu sy'n "rhoi iechyd pobl yn gyntaf".

Bydd system goleuadau traffig coch, oren a gwyrdd yn cael ei defnyddio i lacio'r cyfyngiadau mewn gwahanol feysydd, gan gynnwys cwrdd ag anwyliaid, dychwelyd i'r gwaith, siopa ac ailddechrau gwasanaethau cyhoeddus.

Bydd unrhyw newidiadau'n cael eu cyflwyno'n "bwyllog" ar sail y wyddoniaeth ddiweddaraf ac ar farn Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton.

O'r herwydd, yn wahanol i Loegr, dydy'r llywodraeth ddim yn awgrymu amserlen benodol.

'Nid argyfwng tymor byr'

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford: "Rydym yn symud nawr, yn ofalus ac yn bwyllog, i'r parth coch - y camau cyntaf i'r siwrne at adferiad.

"Byddwn yn monitro effaith y camau hynny'n ofalus iawn, a - cyn belled 芒 bod y feirws yn parhau dan reolaeth - fe wnawn ni symud i'r parth oren."

Ychwanegodd: "Am y pythefnos nesaf, o leiaf, rwyf yn annog pawb yng Nghymru i gadw at y cyngor: Aros Gartref, Diogelu ein Gwasanaeth Iechyd ac Achub Bywydau."

Coch, oren, gwyrdd

Mae'r system goleuadau traffig yn seiliedig ar y canlynol:

Cyfyngiadau caeth:

Ysgolion ar agor i ddisgyblion agored i niwed a phlant gweithwyr allweddol yn unig, cynghori pobl i aros gartref, gan adael y t欧 dim ond ar gyfer teithio hanfodol a gweithio gartref os yw hynny'n bosib.

Coch:

Galluogi ysgolion i reoli cynnydd mewn galw gan fwy o weithwyr allweddol a disgyblion agored i niwed yn dychwelyd; caniat谩u teithio lleol, gan gynnwys ar gyfer manwerthu clicio-a-chasglu; pobl yn cael darparu neu dderbyn gofal a chymorth i neu gan aelod o'r teulu neu ffrind o'r tu allan i'r cartref.

Oren:

Grwpiau blaenoriaeth o ddisgyblion i ddychwelyd i'r ysgol fesul camau; caniat谩u teithio ar gyfer hamdden a hefyd cyfarfod grwpiau bychain o deulu neu ffrindiau ar gyfer ymarfer corff; mynediad i fannau manwerthu a gwasanaethau nad sy'n hanfodol; mwy o bobl yn teithio i'r gwaith.

Gwyrdd:

Pob plentyn a myfyriwr yn gallu cael at addysg; teithio digyfyngiad yn amodol ar gamau diogelu parhaus; caniat谩u pob gweithgaredd chwaraeon, hamdden a diwylliannol a chymdeithasu gyda ffrindiau, gan gadw pellter corfforol.

Ffynhonnell y llun, Stu Forster

Mae Mr Drakeford a'i weinyddiaeth wedi bod dan bwysau i gyhoeddi'r camau nesaf yn fuan er mwyn aildanio'r economi ers i Boris Johnson lacio'r cyfyngiadau yn Lloegr.

Roedd cyhoeddiad Mr Johnson yn awgrymu amserlenni, gan gynnwys anelu at ailagor ysgolion o ddechrau Mehefin.

'Sgwrs sy'n parhau'

Mae Llywodraeth Cymru'n gwahodd y cyhoedd i rannu eu barn ynghylch blaenoriaethau'r camau nesaf "er mwyn osgoi ail don [o achosion coronafeirws], a allai fod yn fwy na'r un gyntaf".

Dywed eu datganiad: "Mae'n eithaf posibl y bydd Cymru yn 'goch' ar gyfer un math o weithgaredd, yn 'oren' ar gyfer un arall ac o dan gyfyngiadau symud o hyd ar gyfer trydydd un."

Ychwanegodd Mr Drakeford: "Mae'n hanfodol ein bod yn sylweddoli nad argyfwng tymor byr yw hwn. Hyd nes y ceir brechlyn neu driniaethau effeithiol, bydd raid inni fyw gyda'r clefyd yn ein cymdeithas a cheisio rheoli ei ledaeniad a lliniaru ei effeithiau.

Dywedodd hefyd fod ei lywodraeth yn dal "yn gryf o blaid gweithredu fel pedair gwlad", a bod y map ffordd yn cael ei gyhoeddi "nid fel y gair olaf, ond fel rhan o sgwrs sy'n parhau".

'Cul-de-sac, nid ffordd ymlaen'

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn Senedd Cymru wedi beirniadu cynllun Llywodraeth Cymru, a diffyg amserlen "i roi gobaith i bobl ar gyfer y dyfodol".

Dywedodd Paul Davies AS: "Yn hytrach na'r map ffordd tuag at adferiad y gofynnais amdano [ddechrau'r wythnos], yr hyn yw hwn mewn gwirionedd yw map ffordd i cul-de-sac.

"Mae angen i ni ddechrau datgloi cymdeithas ond mae'n ymddangos fod Mark Drakeford wedi colli ei allweddau."

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price fod y strategaeth yn denau o ran manylion, ac y dylai gweinidogion ddilyn yr un model a'r un a ddefnyddiwyd yn Seland Newydd er mwyn "cael gwared ar achosion newydd yn hytrach na'u rheoli nhw".

"Unwaith y bydd nifer yr achosion newydd dan reolaeth yn llwyddiannus yn genedlaethol, dylai Llywodraeth Cymru ystyried dull mwy lleol o ymateb, gyda'r gallu i ailgyflwyno cyfyngiadau yn gyflym pe bai unrhyw glystyrau newydd.

"Nid yw'n ymddangos bod unrhyw eglurder ar hyn yn y ddogfen hon."

Dywedodd Plaid Brexit bod Llafur Cymru yn "chwarae gemau" yn ystod pandemig, a bod angen "gweithio ar gynllun dros y DU i ymladd y feirws".

Dadansoddiad Golygydd Gwleidyddol 成人快手 Cymru, Felicity Evans

Pwyll yw thema dogfen Llywodraeth Cymru drwyddi draw - llacio araf a gofalus ar y cyfyngiadau, fydd angen dewisiadau anodd o ran blaenoriaethau.

Mae system dilyn ac olrhain effeithiol yn hanfodol, yn ogystal ag ufudd-dod parhaol aelodau'r cyhoedd.

Capasiti Llywodraeth Cymru i roi systemau cadarn ar waith fydd yn penderfynu'r amserlen.

Mae system goleuadau traffig coch, oren a gwyrdd yn cynnig rhestrau o lacio tebygol ar wahanol adegau - ond mae hynny'n ddibynnol ar y raddfa R, sy'n parhau'n ganolbwynt.

Tra bod y penderfyniadau llacio'n gymhleth ac yn plethu 芒'i gilydd, bydd rhaid dewis rhyngddyn nhw - a'r penderfyniadau sy'n cynnig y rhyddhad mwyaf o ran safon bywyd yn gyffredinol fydd yn cael y flaenoriaeth.

Ond mae'r neges yn glir y gallai "bywyd normal" fod flynyddoedd i ffwrdd.