Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Daw'r haint yn 么l trwy lacio cyfyngiadau'n rhy gyflym'
- Awdur, Steffan Messenger
- Swydd, Gohebydd 成人快手 Cymru
Bydd coronafeirws yn "dod yn 么l 芒 dialedd" os caiff mesurau'r cyfnod clo eu llacio'n rhy gyflym, yn 么l prif ymgynghorydd gwyddonol Llywodraeth Cymru dros iechyd.
Dywedodd Dr Rob Orford fod angen cymryd "camau gofalus iawn."
Hefyd fe ddywedodd y bydd cyfathrebu'r cynllun yn effeithiol i'r cyhoedd yn allweddol, ac y gallai plant fod ymhlith y cyntaf i weld newidiadau.
Byddai angen i fesurau gwyliadwriaeth fod ar waith hefyd i fonitro lledaeniad y clefyd.
'Cwestiynau allweddol'
"Mae'r risg o ail a thrydedd don [Covid-19] yno'n barhaol," meddai Dr Orford.
"Dy'n ni ddim yn gwybod yn union i ba raddau mae'r haint wedi lledu - dy'n ni ddim yn gwybod chwaith a oes risg is i bobl sydd wedi bod yn s芒l 芒 coronafeirws yn barod."
"Felly mae 'na rai cwestiynau allweddol y mae'n rhaid i ni eu hateb wrth i ni symud ymlaen yn araf bach.
"Os wnewn ni daflu'r drysau yn lled agored fe ddaw'r haint yn 么l 芒 dialedd."
- CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
- AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
- IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
- DYSGU: Sut i gadw'r plant yn brysur gartref
Pan ofynnwyd iddo a oedd yn addas i siarad am lacio cyfyngiadau cyn i strategaeth wyliadwriaeth gael ei chyhoeddi, dywedodd fod gwaith ar y ddwy elfen yn digwydd "law yn llaw".
"Ry'n ni'n gweithio'n agos iawn ar lefel y DU ac yn edrych dramor ar ymdrechion rhyngwladol fel y gallwn ni ddysgu gan eraill."
Byddai profion yn dod yn "bwysicach", meddai, ond nid oedd yn "ateb i bob problem." Mae defnyddio ap ff么n clyfar i gofnodi pobl 芒 symptomau yn cael ei dreialu ar Ynys Wyth ar hyn o bryd, ac hefyd yn cael ei ystyried ochr yn ochr 芒 "datblygiadau technolegol" eraill.
"O ran tracio, canfod ac ynysu pobl, mae'r fethodoleg wedi'i brofi ac ry'n ni wedi'i weld yn gweithio mewn mannau eraill ar draws y byd.
"Felly wrth i ni symud i'r cam nesaf bydd y tri maes yma yn dod yn bwysicach ac mae'n allweddol hefyd ein bod ni'n eu cyfathrebu'n effeithiol."
R么l plant
Ar yr awgrym o ail-agor ysgolion a meithrinfeydd, dywedodd Dr Orford fod mwy a mwy o dystiolaeth yn awgrymu bod y clefyd yn cael llai o ddylanwad ar bobl ifanc.
"Mae'n debyg y gallwch chi ddod i'r casgliad mai nhw fyddai'r gr诺p gorau i edrych arno i ddechrau."
Fodd bynnag, dywedodd fod llai o sicrwydd ynghylch r么l plant wrth drosglwyddo'r afiechyd.
"Rhaid i ni edrych yn ofalus ar yr hyn y mae gwledydd eraill yn ei wneud i sicrhau ein bod nid yn unig yn lleihau effaith uniongyrchol coronafeirws ar blant, ond hefyd yn meddwl am y niwed anuniongyrchol y bydd cau ysgolion yn ei gael ar eu dyfodol hefyd."
'Ffordd bell eto i fynd'
Mae anesthetydd ymgynghorol blaenllaw hefyd yn rhybuddio fod angen pwyllo wrth lacio'r cyfyngiadau i "warchod bywydau".
"Mae gofyn i ni fod yn eithriadol o bwyllog oherwydd dydyn ni ddim yn gwybod digon eto am y feirws yma," meddai'r Athro Judith Hall. "Mae gyda ni ffordd bell i fynd eto i fynd cyn ei drechu."
Mae'n rhybuddio rhag "bod yn rhy hunanfodlon... oherwydd mae'r raddfa heintio a nifer y cleifion sy'n cael gofal dwys yn dechrau lleihau."
Mae hi'n gobeithio y bydd pobl yn "synhwyrol" a "ddim yn rhuthro i gael part茂on" pan fydd y cyfyngiadau'n dechrau llacio "oherwydd dyna'r broblem."
"Mae pobl yn dweud fod ail benllanw'n rhwym o ddigwydd, ond gadewch i ni sicrhau ail benllanw fydd mor fach 芒 phosib."
Mae'r Athro Hall yn dadlau o blaid dilyn trywydd gwahanol i Loegr mewn ymateb i'r argyfwng gan fod y boblogaeth yn h欧n a'r wlad 芒 natur fwy gwledig.
Mae hefyd yn rhybuddio fod trin cleifion difrifol wael yn achosi niwed seicolegol "aruthrol" i gydweithwyr yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.