Rhieni 'angen parhau i frechu eu plant' yn ystod y pandemig

  • Awdur, Nia Cerys
  • Swydd, Gohebydd Newyddion 成人快手 Cymru

Mae 'na rybudd bod angen i rieni sicrhau bod eu plant yn parhau i gael brechiadau angenrheidiol yn ystod y pandemig coronafeirws, er mwyn atal heintiau eraill rhag lledaenu.

Mae'n gyfnod heriol i unrhyw riant newydd wrth gwrs - ac yn fwy fyth yng nghanol pandemig.

Yn y misoedd a'r blynyddoedd cynta' mae babanod a phlant i fod i gael eu brechu'n erbyn heintiau fel y frech goch, y p芒s, llid yr ymennydd a niwmonia.

Ond mae 'na bryder bod rhieni'n gyndyn o fynd i glinig efo'u plentyn oherwydd coronafeirws.

I geisio lleddfu'r pryderon, mae 'na drefniadau newydd wedi'u cyflwyno mewn rhai meddygfeydd, a chlinigau arbennig wedi'u sefydlu mewn rhai ardaloedd yn benodol ar gyfer merched beichiog a phlant.

'Hollol ddiogel'

Dywedodd Dr Phil White, cadeirydd pwyllgor meddygon y BMA yng Nghymru: "Mae 'na rai rhieni sy'n ofni dod 芒'u plant i'r feddygfa i gael eu brechu ond hoffwn i ddweud ei bod hi'n hollol ddiogel i ddod i'r feddygfa.

"Fydd dim cleifion eraill yna pan fydd eich plentyn yn dod i gael y brechiad.

"Mae'n hollol bwysig bod y plant yma'n dal i gael eu brechiadau llawn.

"'Dan ni'n gwneud yn sicr, pan mae'r plant yma'n dod am eu brechiadau, yn dod fesul un.

"Fydd yr ystafell ddisgwyl yn wag a dim ond y plentyn fydd yn cael ei weld ar yr adeg yna."

Yn 么l Dr Richard Roberts, pennaeth Rhaglen Brechiadau Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'n hanfodol bod rhaglenni brechu plant yn parhau.

"Mi welon ni yn y '70au efo'r p芒s - neu whooping cough - ostyngiad yn nifer y plant oedd yn cael eu brechu," meddai, "ac ar 么l hynny mi welon ni'r haint yn lledaenu a bron i 100 o blant yn marw o'r p芒s.

"Hefyd yn y '90au, a dechrau'r ganrif yma, roedd 'na lediad y frech goch a gostyngiad yn nifer y brechiadau hefyd. Lawr yn Abertawe, mi welon ni'r haint mewn dros 1,000 o bobl ac un farwolaeth mewn dyn ifanc.

"Felly 'dan ni'n gwybod pan mae nifer y plant sy'n cael eu brechu'n gostwng, mi allai'r heintiau yma ymledu a dod 'n么l."

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Ellen Vaughan Williams eu bod wedi penderfynu sefydlu clinig mewn ysgol

Un o'r ardaloedd sydd wedi sefydlu clinigau 'glan' yn y gymuned ydy Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, fel yr esbonia Ellen Vaughan Williams, sy'n Uwch Gydlynydd Clwstwr yn y gorllewin:

"Naethon ni drafod efo'r awdurdodau lleol er mwyn cael defnydd o'r ysgolion.

"Mae ysgolion wedi'u lleoli yng nghanol y gymuned ac oeddan ni'n meddwl fasa pobl yn teimlo'n fwy cyfforddus.

"Mae'r rhieni'n dod 芒'u plant yma un ar y tro felly does 'na ddim disgwyl iddyn nhw fod yn eistedd mewn man aros, dydyn nhw ddim yn cymysgu efo cleifion eraill.

"Mae'r ymateb wedi bod yn gadarnhaol iawn. Maen nhw wedi croesawu'r lleoliad ysgol achos maen nhw'n leoliadau mawr, mae'r maes parcio'n eang, a 'dan ni'n gofyn iddyn nhw aros yn y car tan bod ni'n barod.

"Cyn iddyn nhw gyrraedd, mae'r nyrsys yn llnau'r ardal i lawr. Felly 'da ni'n gwneud bob dim i sicrhau bod ni'n cadw at reolau'r llywodraeth."

Mae gan y bwrdd iechyd d卯m o nyrsys penodol yn gweithio ar y rhaglen imiwneiddio, yn adnabod pwy sydd angen cael eu brechu, ac yn cysylltu hefo nhw i gynnig apwyntiad ar amser penodol.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Bethany ei bod yn "well bod mewn ysgol na mynd i'r syrjeri"

Un aeth a'i phlentyn mis oed, Oliver i'r clinig ym Mhorthmadog oedd Bethany.

"Oedd o'n hawdd iawn a gwell bod yn fama na mynd i'r syrjeri ar y funud, efo popeth sy'n mynd ymlaen," meddai.

"'Dwi'n falch iawn bod hyn ar gael. Mae 'na lawer o le yn yr ysgol, dim gormod o bobl yn dod yn agos atoch chi."

Ychwanegodd Ellen Vaughan Williams: "'Dan ni'n defnyddio tua 16 lleoliad, rhan fwya'n ysgolion, ar draws ardal y gorllewin er mwyn trio cyrraedd pawb yn eu cymunedau.

"Hyd yma mae'r nifer wedi bod yn dda iawn. Gafon ni 50 plentyn wythnos ddiwetha' yn dod mewn diwrnod i gael eu himiwneiddio ac mae 'na 26 yma heddiw."

"Felly mae'r angen yn sicr yna ac mae'r neges yn dechrau mynd allan dwi'n meddwl pa mor bwysig ydy parhau efo'r gwasanaethau allweddol yma."