O Aberfan i Ddatganoli: Gyrfa wleidyddol Elystan Morgan
- Cyhoeddwyd
Wedi gyrfa mewn gwleidyddiaeth sydd wedi para dros hanner canrif, mae cyn aelod seneddol Ceredigion, yr Arglwydd Elystan Morgan, wedi ymddeol o D欧'r Arglwyddi.
O drychineb Aberfan a'r Arwisgo i Dryweryn a Datganoli mae'r gwleidydd a'r bargyfreithiwr o Geredigion wedi bod yn dyst i ddigwyddiadau hanesyddol a gwleidyddol mwyaf y genedl yn y cyfnod diweddar.
Mae'n eistedd yn yr ail d欧 ers 1981 a chyn hynny roedd yn aelod seneddol ar Geredigion rhwng 1966 a 1974. Roedd ei ddiwrnod olaf fel un o'r Arglwyddi ar 12 Chwefror 2020.
Dyma gipolwg ar rai o'r digwyddiadau cenedlaethol mae wedi bod yn eu canol.
Dyddiau cynnar Plaid Cymru
Fel aelod o'r Blaid Lafur mae'r Arglwydd Morgan yn cael ei adnabod ond dechreuodd ei yrfa gyda Plaid Cymru pan roedd Gwynfor Evans yn llywydd.
Safodd dros Blaid Cymru mewn etholiad bedair gwaith rhwng 1955 a 1964 ond wedi ei siomi gan fethiant y blaid i ennill tir ar y pryd, ymunodd 芒'r Blaid Lafur a dod yn aelod yng Ngheredigion yn 1966.
Mae wedi dweud ei fod wedi ymuno 芒 Phlaid Cymru am ei fod yn credu y gallai ennill "y fath gefnogaeth fwyafrifol yng Nghymru gan orfodi llywodraeth y dydd ... i ganiatau senedd i'r genedl. Erbyn canol y chwedegau roedd yn ymddangos yn hollol amlwg na fyddai hynny'n digwydd o fewn ein dyddiau ni."
Credai mai o fewn Llafur yr oedd "y gwaith mwyaf i'w wneud."
Aberfan, 1966
Roedd yr aelod seneddol newydd ymysg y rhai aeth i helpu i gloddio am oroeswyr yn nhrychineb Aberfan pan laddwyd 144 o bobl - y rhan fwyaf yn blant - wedi i dip glo syrthio ar ben ysgol a phentref Aberfan.
"Roedd na ap锚l i bobl fynd i Aberfan i helpu, ac mi wnes i ymateb i hynny, roedd gen i ddillad pysgota yn digwydd bod yn y b诺t - welingtons a hen ddillad," meddai.
"Rwy'n cofio bod na bobl o bob math yna, Saeson rhonc oedd 芒 dim cysylltiad 芒'r lle. Gl枚wyr oedd yna yn fwy na dim. Llawer ohonyn nhw yn dadau i'r plant a fu farw ond roedden nhw yn gweithio a gweithio, fel pobl mewn trance. Roedden ni i gyd yn gweithio chwarter awr, yna off am ddeg munud. Jyst yn rhawio pethau ma's o'r ffordd. Cymerodd hi wythnosau iddyn nhw i glirio popeth."
Tryweryn
Un o gyfnodau gwleidyddol mwyaf dadleuol a dylanwadol y ganrif ddiwethaf oedd boddi Cwm Tryweryn. Roedd Elystan Morgan ar y pryd yn dal yn aelod o Blaid Cymru, ond ddim yn aelod seneddol.
Fel cyfreithiwr, roedd yn amddiffyn dau oedd wedi ceisio rhwystro'r gwaith o foddi Cwm Tryweryn. Cafodd David Walters a David Pritchard ddirwy o 拢50 yr un.
Dywedodd Elystan Morgan ar raglen ddogfen am Dryweryn yn 2015 mai gwneud elw o werthu d诺r i ddiwydiannau ac awdurdodau eraill oedd wrth wraidd y cynllun, nid anghenion pobl gyffredin Lerpwl.
Arwisgo'r Tywysog Charles 1969
Roedd Elystan Morgan yn un o'r gwahoddedigion i seremoni arwisgo'r Tywysog Charles yn Dywysog Cymru yng Nghaernarfon yn 1969.
Dywedodd mewn rhaglen deledu gan y 成人快手 ei fod wedi penderfynu mynd i'r arwisgiad er gwaethaf iddo gael negeseuon yn bygwth ei fywyd. Ond roedd yn nerfus am y digwyddiad.
"Y cyfan fyddech chi ei angen fyddai bom morter wedi ei anelu'n dda 500 llath o'r castell..." meddai mewn cyfweliad gyda'r 成人快手 yn 2009.
"Roedd yr awyrgylch yn llawn tensiwn."
Datganoli 1979
Elystan Morgan oedd cadeirydd yr ymgyrch 'Ie' dros ddatganoli yn 1979 a disgrifiodd ganlyniad siomedig y refferendwm fel "gwawr greulon" ar ddydd G诺yl Ddewi 1979.
"Dyna'r ergyd mwya i mi o bell ffordd mewn bywyd cyhoeddus," meddai yn ddiweddarach wedi i bobl Cymru bleidleisio yn erbyn Cynulliad o bedwar i un.
"Roeddwn i'n meddwl y bydden ni'n colli, ond doeddwn i 'rioed wedi credu y bydden ni'n colli gyda'r fath sarhad.
"Ond dyna fe roedden ni'n meddwl y bydde'r dydd yn dod - y bydden ni'n troi o ludw oer yr aflwyddiant - a mi ddaeth y dydd hwnnw mewn hir a hwyr."
Llafur yn colli M么n
Yn etholiad cyffredinol 1979 roedd Cledwyn Hughes - yr Arglwydd Cledwyn o Benrhos yn ddiweddarach - wedi dal sedd Ynys M么n i'r Blaid Lafur ers 1951. Elystan Morgan oedd ymgeisydd newydd Llafur yno ond fe gollodd y sedd yn annisgwyl i Keith Best o'r Ceidwadwyr ar 么l 28 mlynedd.
Yn 么l rhai mae'n bosib mai ei weithgarwch gyda'r ymgyrch 'ie' oedd yn gyfrifol.
Mae'r patrwm o'r aelod cyfredol hir-dymor yn colli M么n i blaid wahanol wedi parhau yn yr etholaeth hyd heddiw gyda'r Ceidwadwr Virgina Crosby yn ennill yn 2019 wedi i Albert Owen ei dal i Lafur am 18 mlynedd.
Blynyddoedd Thatcher
Roedd Elystan Morgan wedi dod ar draws Margaret Thatcher gyntaf pan oedd yn aelod seneddol Llafur a hithau yn llefarydd yr wrthblaid ar addysg yn 1969.
Dywedodd mewn cyfweliad gyda 成人快手 Cymru ei fod yn credu ei bod hi'n "fenwy o allu aruthrol", "o argyhoeddiad absoliwt" ac o "benderfyniad di-ildio a hynny yng ngwyneb pob anhawster".
Ond "roedd y penderfyniad i fynd i ryfel yn ynysoedd y Falklands yn fy marn i yn un o'r penderfyniadau mwyaf anghyfrifol allwch chi feddwl amdano," meddai.
"Mae'r effaith gafodd hi ar Gymru yn aruthrol," meddai yn ddiweddarach.
"Dwi'n credu ei bod hi wedi gwneud buddugoliaeth refferendwm 1997 yn bosib. Roedden ni wedi colli yn 1979 o bedwar i un. Roedden ni'n genedl fach wan, lwfr, ond erbyn 1997 ar 么l blynyddoedd o Thatcheriaeth roedden ni'n bobl 芒 llawer mwy o ruddin inni a dwi'n credu mai hi wnaeth y fuddugoliaeth honno'n bosibl."
Mwy o bwerau i Gymru
Fel is-ysgrifennydd yn y Swyddfa Gartref yng nghyfnod Comisiwn Crowther, oedd yn cynghori ar gyfansoddiad y Deyrnas Gyfunol, teimlai Elystan Morgan ei fod wedi helpu i baratoi'r tir ar gyfer sefydlu cynulliad i Gymru yn nes ymlaen.
Ar 么l mynd yn 么l i D欧r Arglwyddi fel croes-feinciwr yn 2005 rhoddodd gryn sylw i Fesur Llywodraeth Cymru 2006, a arweiniodd at refferendwm arall ar bwerau deddfu i'r Cynulliad Cenedlaethol.
Wrth s么n am ei gyfraniad i'r ddadl am y mesur hwnnw dywedodd: "Pe tawn i ddim wedi gneud dim byd yn fy mywyd ond hynny mi fyddwn i'n gweud bod e'n cyfiawnhau'r hyn a nes i [gadael Plaid Cymru ac ymuno 芒 Llafur] ... costied a gostio."
Hefyd o ddiddordeb: