成人快手

Llywodraeth Cymru am helpu rhieni i drosglwyddo鈥檙 iaith i'w plant

  • Cyhoeddwyd
cymraeg

Mae angen gwybod am y math o gefnogaeth sydd ei angen ar rieni wrth geisio eu hannog i basio'r Gymraeg ymlaen i'w plant, yn 么l Gweinidog y Gymraeg.

Dydy rhyw 18% o blant o deuluoedd ble mae'r ddau riant yn siarad Cymraeg ddim yn medru'r iaith, yn 么l Cyfrifiad 2011.

Mae Eluned Morgan yn gwahodd teuluoedd i gynnig adborth ar gynlluniau'r llywodraeth i annog mwy o deuluoedd i ddefnyddio'r iaith.

Dywedodd y Farwnes Morgan nad oedd hi eisiau rheoli pa ieithoedd mae pobl yn eu siarad yn y cartref, ond ei bod hi eisiau helpu mwy o bobl i siarad Cymraeg.

Mae'r gwrthbleidiau wedi croesawu'r cynlluniau, fydd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus tan fis Mai.

Roedd Cyfrifiad 2011, hefyd yn dangos fod o leiaf 51% o'r plant o deuluoedd ble mae un rhiant yn siarad Cymraeg ddim yn siarad yr iaith.

Ffynhonnell y llun, Astud
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Daeth y Farwnes Eluned Morgan yn Weinidog y Gymraeg yn 2017

Wrth lansio ymgynghoriad ar y mater dywedodd Eluned Morgan: "Defnydd iaith rhwng rhieni a'u plant - neu 'trosglwyddo' iaith fel mae'n cael ei alw - yw un o elfennau pwysicaf cynllunio ieithyddol.

"Mae yna waith wedi digwydd i gefnogi'r defnydd o'r Gymraeg mewn teuluoedd ers 20 mlynedd a mwy.

"A nawr mae'n bryd i ni gymryd y cam nesaf fel rhan o'n taith tuag at ddyblu'r defnydd o'r Gymraeg a chyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050."

Mae'r polisi drafft yn canolbwyntio ar bedwar amcan:

  • Ysbrydoli plant a phobl ifanc i siarad Cymraeg gyda'u plant nhw yn y dyfodol;

  • Ailgynnau sgiliau Cymraeg pobl sydd efallai heb ddefnyddio'r Gymraeg ers gadael yr ysgol i siarad Cymraeg gyda'u plant;

  • Cefnogi ac annog y defnydd o'r Gymraeg mewn teuluoedd lle nad yw pawb yn siarad Cymraeg;

  • Cefnogi teuluoedd Cymraeg eu hiaith i siarad Cymraeg gyda'u plant.

'Clywed gan y rhai sy'n ddihyder'

Mae'r llywodraeth yn gwahodd aelodau'r cyhoedd i tan 5 Mai, gyda'r bwriad wedyn o gyhoeddi polisi terfynol cyn diwedd y flwyddyn.

"Rwy'n arbennig o awyddus i glywed barn rhieni sy'n ddihyder yn eu sgiliau Cymraeg er mwyn deall yn well beth fyddai o help iddyn nhw," meddai Ms Morgan.

"Dwi am glywed gan rieni a gafodd addysg Gymraeg ond sydd ddim erbyn hyn yn defnyddio'r iaith, neu oedd ddim efallai yn siarad Cymraeg yn gymdeithasol tra eu bod nhw yn yr ysgol.

"Mae yna rieni hefyd sy'n gallu siarad Cymraeg ond sydd ddim yn ystyried bod siarad Cymraeg gyda'u plant yn opsiwn iddyn nhw.

"Mae angen i ni gefnogi'r holl rieni hyn i siarad mwy o Gymraeg gyda'u plant."

Wrth ymateb i ddatganiad y gweinidog dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar y Gymraeg, Sian Gwenllian ei bod hi'n "cytuno'n llwyr fod trosglwyddo iaith yn un o elfennau pwysicaf cynllunio ieithyddol", a'i bod hi'n "falch iawn" bod y llywodraeth yn rhoi sylw i'r agwedd yma.

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar y pwnc, Suzy Davies ei bod hi'n croesawu'r ymgynghoriad ond ei bod hi hefyd yn croesawu'r gydnabyddiaeth taw "mater personol iawn yw dewis iaith, yn arbennig tu fewn y teulu".