成人快手

Caerdydd yn mynnu ymddiheuriad wedi cyhuddiad hiliaeth

  • Cyhoeddwyd
Cefnogwyr Caerdydd yn ReadingFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency

Mae Clwb P锚l-droed Caerdydd wedi mynnu ymddiheuriad gan Reading wedi i rai o gefnogwyr yr Adar Gleision gael eu cyhuddo o hiliaeth yn ystod g锚m gwpan.

Cafwyd canlyniad cyfartal rhwng y ddau d卯m yn eu gornest yng Nghwpan FA Lloegr ddydd Sadwrn.

Wedi hynny daeth i'r amlwg fod Heddlu Thames Valley yn ymchwilio i honiadau bod rhai o gefnogwyr Caerdydd wedi gweiddi sloganau hiliol yn ystod y g锚m, ac fe gafodd pedwar o bobl eu harestio.

Ond mae Caerdydd bellach wedi dweud bod cefnogwyr o'r ddwy ochr wedi canu caneuon "gwrth-Gymreig a gwrth-Saesnig", gan gwestiynu'r modd y gwnaeth stiwardiaid Reading ddelio 芒'r mater.

'Siomedig iawn'

Yn ystod y g锚m fe wnaeth y canu yn stadiwm arwain at gyhoeddiad yn cael ei wneud dros yr uchelseinydd tuag at gefnogwyr Caerdydd.

Mewn datganiad ddydd Llun dywedodd y clwb eu bod wedi cynnal trafodaethau gyda Reading a lluoedd heddlu Thames Valley a De Cymru, a bod ganddyn nhw "ddarlun clir" bellach o beth ddigwyddodd.

"Rydyn ni'n deall fod y pedwar cefnogwr Caerdydd gafodd eu harestio a'u rhyddhau cyn yr ymchwiliad wedi cael eu cyhuddo yn ystod y g锚m o ddefnyddio beth allai gael ei ystyried fel iaith ddiangen," meddai'r clwb.

"Roedd modd clywed yr iaith yma yn dod o gefnogwyr y ddau glwb, ac o natur gwrth-Gymreig a gwrth-Saesnig.

"Rydyn ni'n siomedig iawn bod Clwb P锚l-droed Reading wedi dewis labelu'r ymddygiad yma fel un hiliol a homoffobig (ble does dim tystiolaeth wedi bod).

"Rydyn ni hefyd yn cwestiynu'r camau a gymeron nhw ar y dydd, ac yn croesawu ymchwiliad i'r mater er budd y ddau glwb ac i b锚l-droed ym Mhrydain."

Ychwanegodd prif weithredwr Caerdydd, Ken Choo, fod y clwb yn "parchu pobl o bob cefndir" ac yn cynrychioli dinas amlddiwylliannol fodern, amrywiol a chroesawgar".

"Roedd y cyhoeddiad gafodd ei wneud yn Reading ar y penwythnos yn niweidiol a sarhaus, a bydden ni'n croesawu ymddiheuriad cyhoeddus ganddyn nhw i'n cefnogwyr," meddai.

"Rydw i'n edrych ymlaen at ganlyniad ymchwiliad yr heddlu, pan rydw i'n hyderus y bydd enw da ein clwb a'n cefnogwyr yn cael ei adfer yn llawn."

Mae Clwb P锚l-droed Reading wedi cael cais am sylw.