Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Rhwystrau rhieni plant byddar: Cost cyfathrebu'n 拢6,000
Mae rhieni plant byddar yng Nghymru yn wynebu rhwystrau wrth ddysgu i gyfathrebu gyda'u plant, yn 么l adroddiad.
Mae'r ddarpariaeth dysgu iaith arwyddo yng Nghymru yn gymysg, yn 么l yr adolygiad.
Yn 么l Cymdeithas Genedlaethol Plant Byddar mae angen gweithredu ar frys gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael 芒'r broblem.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod "cefnogi pobl yn y gymuned fyddar yn hynod bwysig".
'Methu credu bod dim ar gael'
Doedd gan Ros a Josh Hannam ddim profiad o fywyd yn y gymuned fyddar cyn i'w merch, Lola, gael ei geni'n fyddar ychydig dros flwyddyn yn 么l.
Cafodd y cwpl o Sir Fynwy wybod y byddai'n rhaid iddyn nhw dalu 拢6,000 i ddysgu iaith arwyddo i lefel uchel.
Dywedodd Mrs Hannam: "Mae'r disgwyliad bod rhaid i deulu gasglu miloedd o bunnoedd er mwyn dysgu iaith er mwyn cysylltu gyda'u plentyn yn warthus.
"Do'n i methu credu bod dim byd ar gael, oherwydd mae'n teimlo fel rhywbeth mor amlwg sydd ei angen."
Daeth yr adroddiad, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, i'r casgliad bod anghysondeb yn y ddarpariaeth i ddysgu iaith arwyddo.
Ychwanegodd fod rhwystrau i rieni, a bod toriadau i gyllid addysg bellach yn golygu bod llai o gyrsiau ar gael.
Mae'r llywodraeth yn cynnig cyllid ar gyfer rhai cyrsiau iaith arwyddo, ond mae sawl ardal sydd ddim yn cynnig unrhyw beth, yn cynnwys cynghorau M么n, Conwy, Caerffili a Merthyr Tudful.
Weithiau mae rhieni'n cael eu cyfeirio at gynghorau eraill sydd 芒 darpariaeth.
Fe drefnodd Mr a Mrs Hannam gyngerdd er mwyn casglu'r arian i ddysgu iaith arwyddo, a byddan nhw'n dechrau yn fuan.
Cafodd Lola mewnblaniad yn ei chlust ond nid yw'n glir faint mae hi'n gallu ei glywed.
Ychwanegodd Mrs Hannam: "Yr oll mae rhiant eisiau ydy bod plentyn yn cael bywyd hapus, llwyddiannus a llawn.
"Mae angen iddi deimlo ei bod hi'n ffitio mewn ac mae'n bwysig bod ganddi bob siawns o wneud hynny, yn beth bynnag mae hi'n dewis ei wneud."
'Sgil hanfodol'
Dywedodd Cymdeithas Genedlaethol Plant Byddar bod angen dynodi iaith arwyddo yn "sgil cyfathrebu hanfodol" er mwyn sicrhau bod cyfleoedd gwell i ddysgu'r iaith.
"Beth sydd ei angen nawr yw cynllun clir a chyflawn er mwyn mynd i'r afael 芒 phob un o'r rhwystrau a gwneud dysgu iaith arwyddo yn realiti yng Nghymru," meddai Debbie Thomas o'r gymdeithas.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod "cynnig iaith arwyddo a chefnogi pobl yn y gymuned fyddar yn hynod bwysig".
Ychwanegodd llefarydd: "Rydyn ni'n croesawu'r adroddiad annibynnol a byddwn yn ystyried yr argymhellion yn fanwl."