成人快手

'Mae goryfed yn ffordd o fyw yng Nghymru'

  • Cyhoeddwyd
Ffion DafisFfynhonnell y llun, S4C

Pan wnaeth Ffion Dafis geisio rhoi'r gorau i alcohol yn ddiweddar, un o'r problemau annisgwyl iddi wynebu oedd pobl yn ei hannog - i ailddechrau yfed.

Os ydi hynny'n syndod, mae'r gyflwynwraig ac actores yn meddwl ei fod yn adlewyrchu agwedd y Cymry tuag at alcohol - ac mae'n bryd newid.

"O ni'n cael pwysau mawr pan o ni ddim yn yfed - i yfed," meddai. "Gei di gymaint o bobl yn dweud 'duwcs, cyma un'. Achos dwi'n meddwl bod pobl yn ofni pobl sydd ddim yn yfed achos mae gen ti ofn colli rheolaeth pan ti'n gwybod bod rhywun efo rheolaeth lwyr yn dy gwmni di... ac yn mynd i gofio bob dim.

"Roedd hwnna yn un o'r petha wnaeth fy synnu i fwyaf pan o'n i ddim yn yfed - agwedd pobl tuag atat ti pan ti ddim yn yfed. A dwi'n meddwl bod honna yn sicr angen newid.

"Fasa ti ddim yn fforsio rhywun i smocio, dim ond achos bod chdi'n smocio.

"Mae pobl yn meddwl fod ganddyn nhw'r hawl i wneud y penderfyniad drosot ti - fasa ni'm yn neud hynny mewn unrhyw beth arall mewn bywyd."

Mae Ffion Dafis yn gobeithio bydd ei rhaglen Drych: Ffion Dafis - Un Bach Arall, ar S4C nos Sul 19 Ionawr, yn sbarduno sgwrs agored am agwedd y Cymry tuag at alcohol.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ffion Dafis yn sgwrsio gyda Angharad Griffiths yn rhaglen Drych, am ei phenderfyniad i roi'r gorau i alcohol wedi i gyfnodau o oryfed gael effaith ddinistriol ar ei hiechyd meddwl.

Fe ysgrifennodd Ffion am ei pherthynas gymhleth ei hun gydag alcohol mewn dwy ysgrif yn ei chyfrol Syllu ar Walia a gyhoeddwyd yn 2017 cyn ei roi .

Yn yr ysgrif gyntaf mae hi'n s么n am ei phenderfyniad i roi'r gorau i alcohol ar 么l blynyddoedd o oryfed oherwydd yr effaith ar ei hiechyd a'i bywyd.

Yn yr ail ddarn, mae hi'n dweud iddi lwyddo i fod yn sych am bron i naw mis, cyn ailddechrau yfed eto er iddi fwynhau bod yn ddialcohol.

Ymateb gan bobl sy'n diodde'n gudd

A'r ymateb i'r ysgrifau wnaeth iddi sylweddoli cymaint o broblem ydi alcohol yng Nghymru, arweiniodd yn ei dro at y rhaglen deledu, meddai.

"Ges i gymaint o bobl yn Facebookio neu e-bostio i ddweud 'fi ydi hwnna neu honna', neu 'dwi r诺an wedi dechrau siarad efo fy mrawd, neu bartner am y ffaith mod i yn yfed gormod.'

"Neshi feddwl 'mae lot o bobl yn diodde' yn gudd ac yn wirioneddol poeni am faint maen nhw'n yfed ac os ydi'r rhaglen yn cael y bobl yna i feddwl 'be am i ni drafod hynny, oes rhywbeth alla i wneud am y peth?' mae o wedi llwyddo."

Ond mae hi'n ofni na fydd hynny yn debygol o ddigwydd - a bod hynny'n dweud cyfrolau:

"Dyla ni fod yn cael y sgwrs yna ond da ni'n embarrassed i gychwyn y drafodaeth. Mae lot sydd ddim isho'r sgwrs achos maen nhw'n gorfod edrych ar eu hunain sy'n golygu gorfod gwneud penderfyniad i newid ffordd o fyw. Mae'r goryfed yma yn ffordd o fyw yng Nghymru."

Felly ydi alcohol yn rhan bwysicach o fywyd y Cymry na chenhedloedd eraill? Ydi, yn 么l Ffion Dafis.

"Argian fawr 'da ni'n lot gwaeth. O fod wedi trafaelio lot yn ddiweddar - dydi pobl ddim yn yfed fel ni, dydi nhw ddim.

"Mae gen i ffrindiau sydd ddim yn byw yng Nghymru a ddim yn Gymry Cymraeg, a pan maen nhw'n dod drosodd i Gymru maen nhw'n cael sioc ar faint yda ni'n yfed a bod o'n rhan mor greiddiol o'n bywydau ni."

Dyna sy'n gwneud bod yn llwyrymwrthodwr mor anodd yng Nghymru, meddai.

Alcohol yn rhan ganolog o gymdeithasu

Mae Ffion Dafis yn rhestru'r cyfnodau dros y degawdau pan oedd alcohol yn rhan annatod iddi hi - fel cymaint o Gymry eraill - o fwynhau'r bywyd Cymraeg: yfed dan oed mewn gigs a'r Eisteddfod; r么l ganolog alcohol o'r diwrnod cyntaf tan yr olaf tra'n fyfyriwr ym Mangor; nosweithiau meddw tra'n cymdeithasu yng Nghaerdydd; priodasau a nosweithiau eraill o ddathlu lle roedd alcohol yn ganolog i'r hwyl.

"Neshi roi gorau i smygu 20 mlynedd yn 么l - a ro' ni'n ysmygwr trwm," meddai. "Yn gymdeithasol doedd hynny'n teimlo fel dim byd, ges i ddim problem o fath yn y byd.

"Ond mae alcohol yn rhywbeth hollol wahanol pan mae'n dod i daclo fo, achos mae'n rhan greiddiol o'n cymdeithasu ni.

"Lle mae'n mynd yn beryg ydi pan mae alcohol yn dod yn rhan o dy gymeriad di a dwi yn cael trafferth efo hynny achos dwi wastad wedi bod yn un hwyliog ac mae mwy o alcohol yn gwneud rhywun yn fwy hwyliog.

Ffynhonnell y llun, S4C

"Fi ydi un o'r olaf i adael unrhyw barti, fi ydi'r un ar fy nhraed tan berfeddion, yr olaf i fynd i'n ngwely bob tro ac mae hwnna wedi bod yn rhan ohona i ac mae newid hwnna yn golygu newid dy gymeriad, a be' mae pobl yn disgwyl ohonot ti.

"Mae hwnna yn gallu unnervio chdi... ond wedi dweud hynny yn y cyfnodau pan ro' ni yn ddialcohol neshi fynd i 'Steddfod, neshi fynd i hen night, neshi fynd i briodasau, part茂on pen-blwydd a neshi c么pio efo hynny a mwynhau, felly dwi'm yn cweit yn deall pam neshi fynd yn 么l i'r lle dwi'n yfed gormodedd."

Cyfnod sych arall?

Yn ystod y rhaglen deledu, bydd Ffion yn sgwrsio ag unigolion sy'n agored am effaith ddinistriol y cyffur arnyn nhw a'u teuluoedd. Mae hi hefyd yn cyfarfod arbenigwyr meddygol i drafod effeithiau goryfed ar y meddwl a'r corff.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y cynhyrchydd a'r cyfarwyddwr theatr Iola Ynyr yn trafod sut wnaeth alcohol effeithio ei bywyd hi a'i theulu cyn iddi gael help

Yn rhannol oherwydd y rhaglen ac yn rhannol gan ei bod yn cael cyfnodau o bryd i'w gilydd pan mae'n cael llond bol o effeithiau goryfed, fe benderfynodd Ffion Dafis roi'r gorau i alcohol unwaith eto.

"O'n i wedi meddwl stopio yfed eto dechrau'r flwyddyn, ond dwi heb gyrraedd y lle yna eto," meddai.

"O'n i wedi meddwl ei wneud o, ond nes i ffeindio esgus drwy fynd i noson y Fari Lwyd yn Ninas Mawddwy nos Sadwrn diwetha' a phenderfynu 'mae hwn yn hwyl, mae pawb o'n nghwmpas i yn cael hwyl ac mae rhywbeth Cymreig traddodiadol hyfryd am hyn, felly fasa gwydriad o win coch yn gweddu i'r dim'.

"Wrth gwrs roedd rhaid i mi adael y car a chael tacsi adra' sef y stori arferol, so dwi yn 么l r诺an ac yn teimlo yn siomedig yn fi fy hun.

"Ond dwi wedi penderfynu peidio rhoi gormod o bwysa achos dwi yn teimlo bod yna gyfnod sych arall ar ei ffordd."

  • DRYCH: Ffion Dafis - Un Bach Arall?, 9.00 nos Sul 19 Ionawr

Hefyd o ddiddordeb: