成人快手

Dirwy o 拢40,000 am lygru d诺r afon gyda chemegau

  • Cyhoeddwyd
Afon LliwFfynhonnell y llun, Cyfoeth Naturiol Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd sawl rhywogaeth o gysod ac anifeiliaid di-asgwrn-cefn eu lladd ar 么l i'r calch gael ei ollwng i'r d诺r

Mae cwmni d诺r wedi cael dirwy o 拢40,000 ar 么l i 500 o bysgod gael eu lladd mewn afon yn Abertawe.

Yn Llys Ynadon Abertawe fe gyfaddefodd D诺r Cymru eu bod nhw wedi caniat谩u i'r afon gael ei llygru.

Cafodd slyri calch ei ollwng ar ddamwain i ddraen oedd yn arwain at Afon Lliw.

Ymhlith y pysgod a gafodd eu lladd oedd brithyllod, llysywod pendoll, crethyll a sawl math o anifail di-asgwrn-cefn gan gynnwys 200 perdys d诺r croyw, cl锚r Mai a phryfed pric.

Digwyddodd yn safle trin d诺r Felindre, sydd wedi ei leoli y tu allan i Abertawe, yng Ngorffennaf 2018.

Cafodd y cwmni hefyd orchymyn i dalu costau o bron i 拢9,000.

Ffynhonnell y llun, Cyfoeth Naturiol Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd 1.2 cilomedr o'r afon ei llygru gan y cemegion

Felindre yw un o'r gweithiau trin d诺r mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu d诺r ar gyfer bron i 400,000 o gwsmeriaid yn Abertawe, Pen-y-bont ar Ogwr a Chaerdydd.

Roedd y llygredd wedi effeithio ar gyfanswm o dri chwarter milltir (1.2 cilomedr) o'r afon, a'r disgwyl ydy y bydd yn cymryd rhwng tair a phedair blynedd i boblogaethau pysgod gael eu hadfer.

Dywedodd Chris Palmer, uwch swyddog gyda Chyfoeth Naturiol Cymru: "Mae ein hafonydd yn bwysig i'n bywyd gwyllt, ein heconomi, ein hiechyd a'n lles ac rydym wedi ymrwymo i osgoi digwyddiadau llygru beth bynnag fo'u tarddiad.

"Er gwaethaf ymdrechion D诺r Cymru i atal y gollyngiad, aeth cryn dipyn o lygredd i'r afon, ac fe effeithiodd hynny'n sylweddol ar bysgod a bywyd gwyllt arall.

"Byddwn yn parhau i weithio gyda'r cwmni er mwyn lleihau'r perygl y bydd hyn yn digwydd eto, a gwella ei berfformiad amgylcheddol er mwyn lleihau nifer y digwyddiadau llygru yn y dyfodol."