成人快手

Ateb y Galw: Yr actor a chanwr Dyfrig Evans

  • Cyhoeddwyd
Dyfrig EvansFfynhonnell y llun, Dyfrig Evans

Yr actor a chanwr Dyfrig Evans sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma, ar 么l iddo gael ei enwebu gan Michelle Thomas yr wythnos diwethaf.

Mae Dyfrig yn adnabyddus i nifer fel actor - o Rownd a Rownd i Darren Drws Nesa' - ac fel canwr ar ei ben ei hun, ac yn y band Topper, sydd wedi bod yn recordio eto yn ddiweddar, ar 么l saib o tua 15 mlynedd.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Gwrando ar Super Trooper gan Abba, yn gorwedd o dan cabinet chwarae recordiau yn nh欧 Mam a Dad ym Mhenygroes. Dwi'n cofio rhoi'n nwylo fi yn erbyn y pren o danno fo a theimlo'r dirgryniadau. 'Swn i 'di bod tua 2 oed.

Ma' Mam a Dad dal yn fy atgoffa fi ma dyna o'n i'n ei 'neud - cuddiad o dan y cwpwrdd - un o'r rhai pren mawr 'na o'dd gan bobl yn y 70au. A dwi'n cofio'n hwyrach wedyn, dysgu fy hun sut i roi'r record yn iawn arno fo i'w chwarae fo.

Ffynhonnell y llun, Michael Ochs Archives
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r band o Sweden yn chwarae rhan fawr yn atgof gynta' Dyfrig

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Olivia Newton-John yn y ffilm Grease.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Anghofio'r geiriau yng Ngh芒n i Gymru pan o'n i'n canu'n fyw - G'na dy orau oedd y g芒n.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?

Yn gwylio Kylie Minogue yn canu Locomotion yn Glastonbury eleni - dwi'n ffan mawr o Kylie.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Ar wah芒n i smocio a cha'l peint... dwi'm yn cysgu digon.

O archif Ateb y Galw:

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Ar ben Yr Wyddfa - achos dwi'n cael gweld mwy o ngwlad. Dwi'n trio mynd i fyny unwaith y flwyddyn yn ystod yr haf.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Pan 'nath Stadiwm y Milenwm agor, o'dd 'na gig, ac o'n i 'di sgwennu c芒n i Patrick Jones, brawd Nicky Wire o'r Manics. O'n i ar ochr y llwyfan, a James Dean Bradfield yn siarad efo fi a gofyn i mi os o'n i'n mynd 'mlaen nesa'. Wedyn es i ar y llwyfan i chwara', ac o'dd Ioan Gruffudd a Matthew Rhys yn barddoni dros y g芒n o'n i 'di 'sgwennu.

Honna o'dd y noson ora' erioed!

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Gwirion ond cariadus.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Fy hoff ffilm ydi trilogy Back to the Future - alla i eu gwylio nhw drosodd a throsodd. Mae o fel theme park o ffilm.

Ffynhonnell y llun, Ilya S. Savenok
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae hi bellach dros 30 mlynedd ers i ffilm gynta'r drioleg gael ei rhyddhau - dydi amser yn hedfan?!

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Richard Burton - 'swn i wrth fy modd yn cael peint efo fo, i ddallt ei feddwl o.

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dwi'n licio Abba - ffan mawr. Wrth fy modd!

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Rhoi cwtsh i'r plant.

Beth yw dy hoff g芒n a pham?

Dwi 'di bod yn meddwl am hwn... 'Swn i'n d'eud ma' Wuthering Heights, Kate Bush ydi o, ond dwi'm yn gw'bod pam. Mae o jest yn g'neud 'wbath i mi. O ran fformiwla c芒n... waw...

Ffynhonnell y llun, Jean-Louis URLI
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Kate Bush yn ei chanol hi yn perfformio yn 1979, flwyddyn ar 么l rhyddhau Wuthering Heights, ei sengl mwyaf llwyddiannus

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Dwi bendant isho st锚c fillet a cr猫me br没l茅e, felly i gychwyn... ella glasied o win coch ma'n si诺r!

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Teigr y gath, dwi'n meddwl - ma' hi'n andros o gath ffyni!

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Aeron Pughe

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap 成人快手 Cymru Fyw