'Argyfwng' gwasanaeth deintyddol y GIG

Ffynhonnell y llun, PA

Mae ymchwil newydd gan y Gymdeithas Ddeintyddol Brydeinig (BDA) yn dangos "argyfwng" yn y gwasanaethau deintyddol ar draws Cymru.

Bellach dim ond un o bob chwe deintyddfa sy'n medru derbyn cleifion sy'n oedolion ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, a dim ond 27% sy'n derbyn cleifion newydd sy'n blant.

Mae amrywiaeth eang o ardal i ardal hefyd - yn ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda (Siroedd Caerfyrddin, Penfro a Cheredigion) does yr un ddeintyddfa yn derbyn oedolion newydd a dim ond un yn derbyn plant.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod "newidiadau sylweddol" yn cael eu gwneud fel rhan o ad-drefnu'r system.

Dangosodd dadansoddiad yn 2012 gan y Democratiaid Rhyddfrydol fod 37% o oedolion yn medru cael apwyntiad deintydd ar y GIG. Ond erbyn 2017 roedd y ffigwr yna wedi haneru ac mae'n dal i ddisgyn.

Mae bron hanner y deintyddfeydd nawr yn dweud eu bod yn derbyn ceisiadau yn ddyddiol gan ddarpar gleifion newydd. Dywedodd un yn ardal Caerdydd a'r Fro eu bod yn derbyn 60 galwad bob dydd gan ddarpar gleifion.

Fe ddywed yr adroddiad bod Cymru a Lloegr wedi gweithredu yr un system sy'n seiliedig ar dargedau ar gyfer deintyddiaeth o fewn i'r GIG. Yn 么l y BDA, mae'r system yma yn ddiwerth bellach ac yn creu problemau y ddwy ochr i'r ffin.

O dan y system, rhaid i ddeintyddion gyrraedd 95% o'u targedau cytundebol neu wynebu gorfod dychwelyd arian i'r Byrddau Iechyd.

Os yw hynny'n digwydd yn rheolaidd, mae gwerth y cytundeb yn cael ei gwtogi gan gyfyngu ar faint o waith GIG y mae'r deintyddion yn medru ei wneud.

System wedi torri

Mae ymchwil y BDA yn dangos nad yw'r arian sy'n cael ei dalu n么l yn cael ei ailfuddsoddi yn y gwasanaethau deintyddol.

Mae Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad wedi cefnogi galwadau'r BDA am ddiwygio'r system.

Cadeirydd pwyllgor Cymru o'r BDA yw Tom Bysouth, a dywedodd: "I ormod o deuluoedd yng Nghymru, mae deintyddiaeth o dan y GIG yn ddim ond syniad da yn hytrach na rhywbeth y gallan nhw ddibynnu arno.

"Mae cleifion GIG yn cael eu gadael heb ddewis ond i deithio'n bell, neu beidio derbyn y gofal y maen nhw ei angen.

"Wrth galon y broblem mae cytundeb GIG sydd wedi torri, ac yn arwain at argyfwng recriwtio a chadw deintyddion, ac ar yr un pryd yn tynnu cyllid i ffwrdd o'n gwasanaethau rheng flaen.

"Mae consensws cynyddol yn y Cynulliad sy'n cydnabod yr angen i newid. Gobeithio bydd casgliadau'r ymchwil yma yn sbarduno Llywodraeth Cymru a'r Byrddau Iechyd i greu system sy'n gweithio i gleifion."

'Newidiadau sylweddol'

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei fod yn "siomedig bod y BDA wedi methu ag adnabod y newidiadau sylweddol rydyn ni'n eu gwneud fel rhan o'n had-drefnu o gytundebau deintyddol".

Ychwanegodd y llefarydd bod y BDA yn rhan o'r broses, a bod y newidiadau wedi eu croesawu gan y 94 o ddeintyddfeydd sy'n rhan o'r cynllun yn barod.

Dywedodd hefyd bod dros 35,000 yn fwy o gleifion yn derbyn gofal deintyddol gan y Gwasanaeth Iechyd nag oedd pum mlynedd yn 么l, a bod y llywodraeth yn gweithio tuag at roi gofal i bawb sydd ei eisiau.