成人快手

Pen-blwydd yn 70: Oriel atgofion Heather Jones

  • Cyhoeddwyd
Heather Jones

Mae'r gantores Heather Jones wedi arloesi a chwarae rhan amlwg yn y s卯n gerddorol yng Nghymru ers dros hanner canrif ac mae'n dathlu ei phen-blwydd yn 70 oed ar 12 Mehefin 2019.

I ddathlu ei charreg filltir gofynnodd Cymru Fyw iddi hel atgofion drwy gasglu lluniau arwyddocaol o'i bywyd a'i gyrfa.

Ffynhonnell y llun, William Morris-Jones
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Aberaeron a'r Harbourmaster, 1932

Y gwreiddiau teuluol

Mae'r llun yma o Aberaeron yn 1932 wedi ei dynnu gan fy nhad-cu, William Morris-Jones.

Mae'n bwysig i fi achos roedd yn Gymro Cymraeg yn byw yn Aberaeron fel dyn ifanc ond roedd rhaid iddo adael i chwilio am waith.

Ges i'r fraint o ganu yn yr Harbourmaster yn ddiweddar a hefyd yn y Neuadd Goffa. Roedd fy nheulu yn byw drws nesa' tan y chwedegau. Atgofion melys.

Ffynhonnell y llun, Heather Jones
Disgrifiad o鈥檙 llun,

St Brioc Rd, Y Mynydd Bychan, Caerdydd

Cartref cynta'

Dyma lle ges i fy ngeni, 3 St Brioc Road, Heath, Caerdydd - lawr st芒r, yn y room ffrynt! Wnes i fyw yma am ugain mlynedd - ugain mlynedd hapusa fy mywyd. Dyddiau diniwed yn chwarae ar y stryd, 'Mob, Mob' (chwarae cuddio), rounders, cynnal jumble sales a chwarae gyda fy ffrindiau sy'n dal yn glos hyd heddiw - Sue a Pamela.

Un teulu hapus - roedd tad-cu Sue (Dat) yn siarad Cymraeg ac yn helpu ni gyda'r iaith.

Ffynhonnell y llun, Heather Jones
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Heather Jones yn y m么r yn flwydd a hanner

Cariad at y m么r, 1951

Heather Jones yn y d诺r! Dyma fi yn mwynhau y traeth a lan y m么r. Roedd Mam a Dad wastad yn mynd 芒 ni (fi a'm brodyr Malcolm (Mac) a Gareth) ar wyliau, fel arfer yng Nghymru - Y Bermo, Aberaeron, Borth, Porth Einion, Aberporth, Harlech, Beddgelert a Prestatyn. Mewn caraf谩n oedden ni fel arfer ac roedden ni'n caru'r m么r a'r traeth. Dwi'n nofio yn aml nawr.

Dwi'n cofio mynd gyda fy nhad i Cold Knap (ger y Barri) yn hwyr yn y nos - fe yn nofio yn y m么r oer a fi yn edrych ar 么l ei ddillad ar y traeth. Roedd yn rhy oer i mi! Roedd Dad a fi yn glos iawn - bu farw yn 1977.

Dechrau ar y teledu

Dyma fy rhaglen deledu gyntaf yn 1966, rhaglen wych o'r enw Hob y Deri Dando. Roedd fy ffrind gorau o Ysgol Cathays, Barbara, yn eistedd drws nesaf imi. Yn drist iawn roedd hi wedi marw 20 mlynedd yn 么l yn 50 oed ond mae gen i atgofion ffantastig llawn o hwyl a mitching off!

Mae ffrind arall i mi, Meinir Evans (Meinir Ffransis nawr), merch Gwynfor Evans, yn eistedd tu 么l i mi.

Ffynhonnell y llun, Anona James
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Heather Jones a'r ddiweddar Mari Griffith yn canu yn 1966

Gadael coleg a dechrau canu o ddifri

Fi a Mari Griffith yn 1968 mewn cyngerdd ym Mhontrhydfendigaid. Mae hi'n edrych yn gorjys a dwi'n edrych fel plentyn bach!

Ond roedd y gwaith yn dechre dod i mewn yn gyson a wnes i adael coleg y flwyddyn ar 么l hyn i ddilyn bywyd cantores broffesiynol.

Ffynhonnell y llun, Anne James
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Heather gyda Meic Stevens a'i g诺r cyntaf, Geraint Jarman - aelodau'r Bara Menyn

Blwyddyn Bara Menyn

Llun o fi, Geraint Jarman a Meic Stevens yn canu fel Bara Menyn yn Neuadd y Brangwyn yn 1969.

Dim ond blwyddyn o gigs a gwaith teledu wnaethon ni ond roedd yn flwyddyn ffantastig ac yn gyfeillgarwch sy'n parhau hyd at heddiw.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ffilmiodd Heather gyda'i merch, Lisa Jarman, ym Mharc y Rhath ar gyfer y gyfres Gwrando Ar Fy Ngh芒n

Cyfres fy hun

Yn 1972 ar 么l dipyn o waith ar 成人快手 ac HTV ges i'r fraint o gael cyfres fy hun o'r enw Gwrando Ar Fy Ngh芒n.

Roedd yn gyffrous iawn i ferch 22 oed. Chwech o raglenni a rhai caneuon gyda gr诺p trydan ar ffilm.

Roedd Colleen, y wraig wardr么b, wedi gwneud c么t i fy merch Lisa Grug i matchio un fi! Roedd yn hyfryd i gael cyfres - yn Gymraeg. Roedd fy nhad mor browd achos oedd e a'i frawd ddim yn siarad Cymraeg ac yn colli fe yn fawr.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Heather ar raglen Ryan a Ronnie yn y saithdegau

Ryan a Ronnie

Roeddwn i'n gweithio gyda Ryan a Ronnie yn aml, ar y teledu ac mewn cyngherddau. Rwy'n cofio mynd yn Jag Ryan i Ogledd Cymru - very posh!

Roedden yn ffrindiau da i mi, a'r Hennessys hefyd. Fi oedd yr unig ferch weithiau ond roeddent yn hapus i edrych ar 么l fi.

Ffynhonnell y llun, Heather Jones

Teithio gyda Hin Deg, 1980-2010

Fi, Mike Lease a Jane Ridout - aelodau'r gr诺p gwerin Hin Deg. Dyma oedd fy ngr诺p cyntaf oedd yn rili broffesiynol. Gawson ni lwyth o gigs, teledu a gwyliau yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Iwerddon.

Roedden ni'n teithio llawer i Canada a'r USA - roedd yr un olaf yn Disney World - ffab!

Roedd Mike a Jane yn gerddorion ffantastig ac yn ffrindiau da. Rwy'n falch ein bod ni wedi gwneud un CD i gofio y dyddiau hapus yma gyda nhw.

Ffynhonnell y llun, Heather Jones
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Priodas Heather a Dave Coates yn 1987

Priodi Dave

Priodas Dave a fi yn 1987. Roedd Dave yn ddrymiwr yn un o'n grwpiau i ac roedd rhaid i mi roi lifft iddo i'r gigs yn fy Renault 4 pinc!

Daeth cariad yn gyflym iawn. Mae'n dal i ddrymio heddiw mewn sawl gr诺p. Mae gennym ni fab, Sam, a merch, Megan Fflur. Atgofion melys.

Ffynhonnell y llun, Heather Jones

Y teulu a fy Mam hyfryd

Dyma'r holl deulu yn Neuadd Christchurch yn agos i Barc y Rhath i ddathlu pen-blwydd Mam yn 90 yn 2008.

Mae'r plant i gyd yna gan gynnwys fy mrodyr a'u plant nhw. Mam oedd fy ffrind gorau ac roedd hi wedi marw yn 98 oed! Cafodd fywyd llawn a hapus ar 么l cwrdd 芒 fy nhad, yn fam hyfryd a mam-gu ffyddlon a ffab.

Roedd hi'n golled fawr ac roedd rhaid i ni golli St Brioc Road ar 么l 70 o flynyddoedd. Roedd yn drist iawn ond dwi'n mynd n么l yn aml i weld cymydog. Mae fy mrodyr i wedi symud i ffwrdd ond dwi'n falch mod i wedi aros yng Nghymru.

Ffynhonnell y llun, John Morgan

Y fenyw hyderus sy'n 70!

Mae'r fenyw hyderus yn y llun yma wedi dod trwy lawer o 'ups 'n downs' ond yn dal i fynd, a nawr dwi'n 70.

Dwi'n dal i ganu ond yn ymlacio mwy - mae hi'n amser i'r genhedlaeth nesaf nawr :).

Hefyd o ddiddordeb: