³ÉÈË¿ìÊÖ

Cloriau cŵl merched y chwyldro

  • Cyhoeddwyd

Edrychwch nôl ar ffasiynau'r chwedegau a'r saithdegau yng Nghymru mewn casgliad o gloriau mae label recordiau Sain wedi eu canfod wrth ymchwilio ar gyfer CD newydd.

Mae yn gasgliad o leisiau merched byd canu pop a gwerin Cymru rhwng 1965 a 1975 pan roedd llawer iawn o grwpiau newydd Cymru yn ferched.

"Rhain oedd arwresau'r cyfnod," meddai Gwenan Gibbard ac Elin Evans sydd wedi dod â'r casgliad at ei gilydd.

"Roedd 'na rywbeth yn y dŵr yng nghanol y 60au a merched ifanc yn darganfod eu llais a'u lle o fewn y byd adloniant poblogaidd - merched â chyfoeth traddodiad cerddorol eisteddfod, ysgol Sul, cyngerdd a noson lawen yn eu gwaed - yn mentro rhoi eu stamp unigryw eu hunain ar ganu Cymraeg gan ymuno yn y chwyldro cerddorol Cymreig…"

Ffynhonnell y llun, Dryw
Disgrifiad o’r llun,

Cân am brofiad personol o golli partner yw 'Bydd hon yn ddigon' gan y ddiweddar Ann Morris o Gwm Tawe

Ffynhonnell y llun, Sain
Disgrifiad o’r llun,

Chwech o ddisgyblion Ysgol Glan Clwyd oedd Sidan - Caryl Parry Jones yw'r aelod yn y canol!

Ffynhonnell y llun, Dryw
Disgrifiad o’r llun,

Beth ddigwyddodd i Janet Humphreys o ardal Groesffordd ger Conwy? Cyhoeddodd un record yn 1972 ond hyd yma does dim cofnod arall o'i chanu

Ffynhonnell y llun, Cambrian
Disgrifiad o’r llun,

Aeth Evelyn Bridger o Sir Fôn i frig y siartiau yn Singapore cyn dod nôl i Gymru a recordio fersiwn Gymraeg o'r gân Penblwydd Hapus

Ffynhonnell y llun, Cambrian
Disgrifiad o’r llun,

Y Perlau oedd Rosalind, Dawn a Llinos, band arall o Lambed. Roedden nhw'n canu mewn nosweithiau llawen a chyngherddau drwy Gymru a thu hwnt a dringodd y gân 'Cariad' i frig y siartiau pop yn 1968

Ffynhonnell y llun, Cambrian
Disgrifiad o’r llun,

Wedi'r Perlau aeth Rosalind Lloyd i ganu ar ei phen ei hun ar raglenni fel Disc a Dawn ac 'Opportunity Knocks'. Hi hefyd oedd Miss Asbri 1970 a'r beirniaid oedd Huw Jones, Sulwyn Thomas a Meinir Lloyd sydd hefyd yn y casgliad yn canu Watshia Di Dy Hun. (Y wobr oedd noson allan efo Hywel Gwynfryn)

Ffynhonnell y llun, Cambrian
Disgrifiad o’r llun,

Mae cân boblogaidd Meinir Lloyd o Gyffylliog ger Rhuthun, Watshia Di Dy Hun, wedi cael bywyd newydd bron i hanner canrif yn ddiweddarach ar Radio Cymru

Ffynhonnell y llun, Cambrian
Disgrifiad o’r llun,

Ann, Kitty a Susan, dwy chwaer a ffrind a fagwyd yn sŵn yr afon Tawela, ym mhentref Silian, Ceredigion, oedd Tannau Tawela oedd yn hoff o gerddoriaeth calypso

Ffynhonnell y llun, Cambrian
Disgrifiad o’r llun,

Yn 1970, roedd Y Melinwyr, criw o ferched o ardal Bancyfelin, Caerfyrddin, yn canu mewn cyngherddau ac ar raglenni teledu ac yn crwydro'r wlad gyda'u canu harmoni clos

Ffynhonnell y llun, Dryw
Disgrifiad o’r llun,

Tair merch ysgol o Lambed oedd Y Tlysau a dewisiwyd eu henw gan y cyhoedd wedi i gynhyrchydd y ³ÉÈË¿ìÊÖ eu clywed yn perfformio mewn cyngerdd lleol

Ffynhonnell y llun, Sain
Disgrifiad o’r llun,

Merch ifanc o Ddyffryn Ardudwy oedd Gwenann a oedd yn canu ar raglenni Disc a Dawn a rhaglen Iris Williams

Ffynhonnell y llun, Sain
Disgrifiad o’r llun,

Recordiodd Doreen Davies ei record gyntaf i label Cambrian yn 1969, a hithau'n dal yn ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Aberaeron

Ffynhonnell y llun, Cambrian
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Y Diliau, sef Gaynor, Mair a Meleri, yn enw amlwg ar y sîn yng Nghymru am flynyddoedd a ryddhaodd y record gyntaf yn y 60au ar label Qualiton

Ffynhonnell y llun, Teldisc
Disgrifiad o’r llun,

Daeth llais Heather Jones o Gaerdydd yn un o leisiau mwyaf economig ei chyfnod

Ffynhonnell y llun, Teldisc
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Helen Wyn o fangor yn 20 oed yn 1964 a'i fersiynau Cymraeg o ganeuon pop yn boblogaidd iawn yn neuaddau dawnsio'r cyfnod

Ffynhonnell y llun, Sain
Disgrifiad o’r llun,

Roedd llais hiraethus Eirlys Parri o LÅ·n wedi gwneud ei farc erbyn dechrau'r 70au