Ateb y Galw: Y cyflwynydd Alun Elidyr

Ffynhonnell y llun, Alun Elidyr

Y cyflwynydd Alun Elidyr sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddo gael ei enwebu gan Daloni Metcalfe yr wythnos diwethaf.

Mae Alun yn ffermio yn Caecoch yn Rhydymain ger Dolgellau, ac yn cyd-gyflwyno Ffermio ar S4C.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Arogleuon sy'n allweddol fan hyn. Yn gynta', mwg o getyn fy nhaid, John Edwards, tra bydda fo'n eistedd yn ei gornel ger y Rayburn. Ac mae gen i frith gof am ogle mwg glo o'r tr锚n o Rhiwabon i'r Bermo, fydde'n rhedeg drwy dir gwaelod ffarm Caecoch.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

'Sgen i ddim cof ffansio neb tan i mi gyrraedd Ysgol y Gader, ond dwi wedi edmygu llawer o bobl ers hynny, o bell ac agos.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Mae o'n digwydd wrth i mi 'sgwennu hwn, gyda Chymry niferus wedi pleidleisio i anfon cynrychiolwyr Plaid Brexit i Ewrop, yng nghanol difaterwch cyffredinol gan y rhelyw o'r boblogaeth.

Ffynhonnell y llun, S4C

Disgrifiad o'r llun, Alun gyda'i gyd-gyflwynwyr Ffermio, Meinir Howells a Daloni Metcalfe

Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?

Ar glywed am ddwy golled greulon yn ddiweddar. Rhydian Edwards, g诺r camera ar Ffermio, oedd yn methu dygymod yn y byd hwn. A Marion, mam y brodyr Emyr ar 么l cystudd diangen o greulon. Teimlo i'r byw.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Argol, oes, nifer. Y gwaethaf ohonynt ydi edrych yn 么l a difaru am weithredoedd na fedraf eu newid - rhan o fod yn virgo mae'n bosib - a cholli 'nhymer am fanion bethau. Siarad yn rhy uchel wedi meddwi. Byta gormod o siocled.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Pan ddaw ymwelwyr o dramor i aros, i Gastell Carreg Cennen yr awn ni 芒 nhw, oherwydd fod y lleoliad a'r hanes yn fodd i esbonio'r natur Gymreig, er fod Trefdraeth hefyd yn agos at fy nghalon, yn ogystal 芒 phrom Aberystwyth, fy ail gartre ers amser coleg.

Ar ben Foelfach, adre yn Caecoch, mi fedra i weld y ddwy Aran, Llyn Tegid, Arenig, Y Dduallt, Yr Obell, a Chader Idris - golygfa wna i byth flino arni.

Ffynhonnell y llun, Phil Jones

Disgrifiad o'r llun, Castell Carreg Cennen brydferth yn yr heulwen

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Anodd dewis un, ond pan o'n i'n ddeugain, ugain mlynedd yn 么l, mi drefnodd Catrin barti penblwydd i mi yn Nanteos, heb i mi ddeall dim, gyda ffrindiau hen a newydd yn cyrraedd drwy'r nos. O'n i'n gobsmacked!

Fel arall, mae yna nifer o gynulliadau byrfyfyr bythgofiadwy gyda chymdogion, sy'n digwydd funud ola' yn nh欧 hwn a'r llall, gyda chriw o bob oed, ac mae nhw fel aur.

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Eiddil, cydwybodol ac eangfrydig.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Heb ddarogan tranc y llyfr, mae rhan fwya' o 'narllen i'r dyddiau yma arlein. Felly mae f'ateb yn edrych n么l rhywfaint at adeg wnes i wirioni ar nofel Robin Llywelyn - Seren Wen ar Gefndir Gwyn - a'r anfarwol Lonesome Dove, clasur gowbois Larry Mc Murtry.

Ac fel ffilm, anghofia i fyth Babbette's Feast gan Gabriel Axen, na chlasuron fy ieuenctid, Apocalypse Now, Blood Simple a Deer Hunter.

Ar nodyn 'sgafnach, peidiwch 芒 cholli The Hateful Eight gan Tarantino - gwell purdan na chapel!

O archif Ateb y Galw:

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Fy nhad, Thomas Edwards, adawodd ni'n ddirybudd. Mae gen i gymaint i'w ofyn iddo fo.

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Roedd fy rhieni am i mi fod yn bregethwr, a dwi'n berson ofnadwy o nerfus.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Dymuno'n dda i'r genhedlaeth nesa', gyda gw锚n gobeithio.

Beth yw dy hoff g芒n a pham?

Fossil Scale, Georgia Ruth... mae'r fideo mor swrreal 芒'r g芒n.

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Corgimwch Bae Ceredigion, wedi'u dal gan Len Walters o Landudoch neu Sion Williams Porth Colmon.

Cig eidion Dexter gan fy nghymydog Kevin Dolfeili, gyda salad gwyrdd Barbara Frost, a vinaigrette

Affogato... neu falle crymbl riwbob Leri'r Eagles, Llanuwchllyn.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Trump.