Codi ymwybyddiaeth yngl欧n 芒'r system Ateb Tawel 999
- Cyhoeddwyd
Ar ddiwrnod lansio ymgyrch codi ymwybyddiaeth o wasanaeth sy'n rhoi gwybod i'r heddlu pan fo person mewn argyfwng ond yn methu siarad, dywed Cymorth i Fenywod Cymru eu bod yn gobeithio y bydd mwy o fywydau yn cael eu hachub.
Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu sy'n lansio'r ymgyrch 'Cael Eich Clywed' gyda chymorth teulu menyw a gafodd ei llofruddio, Kerry Power yn ogystal 芒 Chymorth i Fenywod, Cymorth i Fenywod Cymru, a Chyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Heddlu.
Mae'r system Ateb Tawel yn galluogi rhywun sy'n ffonio 999 o ff么n symudol, ond sydd 芒 gormod o ofn gwneud s诺n neu siarad, i wasgu 55 er mwyn rhoi gwybod i'r heddlu ei fod mewn argyfwng gwirioneddol.
Mae'r system yn bodoli ers cryn amser ond mae'n ymddangos nad yw'r cyhoedd yn ymwybodol ohoni.
Mae'r wythnos hon yn Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Stelcio.
Dywedodd Tina Reece, Pennaeth Ymgysylltu 芒 Chymorth i Fenywod Cymru: "Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o godi ymwybyddiaeth o'r ymgyrch "Cael Eich Clywed", gan roi gwybod i unigolion am yr opsiwn i wasgu 55, i hysbysu'r heddlu eich bod mewn argyfwng go iawn ond ei bod yn rhy beryglus i siarad.
"Trwy godi ymwybyddiaeth o'r ymgyrch hon, gobeithiwn y bydd mwy o oroeswyr yn gallu derbyn y cymorth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt a gobeithio y bydd mwy o fywydau'n cael eu hachub. "
Cyn ei llofruddiaeth, mae'n debyg bod Kerry Power wedi credu pe byddai'n gwneud galwad 999 fud na fyddai angen iddi siarad na gwneud s诺n er mwyn i'r heddlu anfon cymorth.
Ond yn anffodus cafodd ei galwad ei therfynu ac ni aeth trwodd i ystafell reoli'r heddlu, gan nad oedd hi'n gwybod bod angen defnyddio'r system Ateb Tawel.
Mae'r heddlu'n pwysleisio na fyddant yn dod i leoliad yn awtomatig wedi galwad 999 fud.
Mae angen i alwyr, medd llefarydd, wrando ac ymateb i gwestiynau a chyfarwyddiadau, trwy beswch neu daro'r set llaw neu wasgu 55.
'Gallai achub bywyd'
Dywedodd Cyfarwyddwr Rhanbarthol yr IOPC, Catrin Evans: "Mae'n well siarad gyda pherson o'r heddlu sy'n delio 芒 galwadau os yn bosibl, hyd yn oed trwy sibrwd, ond os ydych chi'n creu perygl i chi'ch hun neu rywun arall trwy wneud s诺n, mae yna rywbeth y gallwch chi ei wneud.
"Gallwch gael eich clywed trwy besychu, taro'r set law neu ar 么l cael eich ysgogi gan y system awtomataidd, gwasgu 55.
"Rydyn ni wedi canfod o'n hymchwiliad i gyswllt yr heddlu gyda Kerry bod yna ddiffyg ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd o'r system Ateb Tawel, ac rydym yn awyddus i rannu'r wybodaeth bwysig yma mor eang 芒 phosibl. Gallai o bosibl achub bywyd."
Gwnaeth Kerry ei galwad 999 fud yn oriau m芒n 14 Rhagfyr 2013 pan oedd ei chyn bartner yn ei stelcio, gan dorri i mewn i'w chartref.
Gan iddi beidio ymateb i gyfarwyddiadau'r cysylltydd BT cafodd ei galwad ei throsglwyddo i'r system Ateb Tawel. Gan iddi beidio gwasgu 55, cafodd yr alwad ei therfynu ac ni chafodd Heddlu Dyfnaint a Chernyw wybod am alwad Kerry.
Ffoniodd ei chyn bartner David Wilder yr heddlu yn hwyrach y bore hwnnw i ddweud ei fod wedi ei chrogi'n farw.
Cafodd ei garcharu, wedi iddo ei gael yn euog o lofruddiaeth, yn 2014.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2019