成人快手

Elusennau yn galw am wella gwasanaethau trais domestig

  • Cyhoeddwyd
dioddefwr trais domestigFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae angen gwasanaethau arbenigol ymhob ardal, gwersi ar berthnasau iach mewn ysgolion a strategaethau lleol i fynd i'r afael 芒 thrais domestig.

Dyna farn NSPCC Cymru, Cymorth i Ferched Cymru a Plant yng Nghymru sy'n galw am wella'r gwasanaeth ar hyd y wlad.

Yn 2017-18 fe gafodd 1,065 o bobl ifanc dan 16 eu cefnogi mewn llochesau yng Nghymru, tra bod 332 wedi derbyn cwnsela gan Childline yn dilyn trais domestig.

Dywedodd Vivienne Laing o NSPCC Cymru fod dioddef trais domestig fel plentyn yn gallu achosi "problemau tymor hir" i'r unigolyn.

Stori Rory

Ar 么l ceisio crogi ei bartner a'i lysferch, roedd g诺r yn aros am y cyfle i geisio lladd ei lysfab.

Rory, 20 oed o Gaerdydd oedd y llysfab hwnnw a dywedodd mai dyma oedd y diweddglo i ddegawd o drais a chamdriniaeth a arweiniodd ato'n ceisio lladd ei hun.

"Ar y dechrau roeddwn i'n clywed synau uchel fel petai stwff yn cael ei daflu o gwmpas, ond fe aeth y trais yn fwy difrifol," meddai.

"Des i ddeall ei fod yn ei treisio hi (ei fam) rhan fwyaf o nosweithiau, ac roeddwn i yn ei chlywed yn galw am help."

Ar 么l cael ei guro mor wael fel ei fod wedi gorfod methu wythnos o ysgol, dywedodd Rory ei fod wedi dechrau teimlo fel bod rhaid iddo geisio lladd ei hun.

Fe geisiodd e ladd ei hun dwywaith.

Mae Rory bellach yn derbyn cefnogaeth er mwyn delio ag effaith y trais domestig.

Ychwanegodd Ms Laing: "Mae hi'n hanfodol fod plant a phobl ifanc yn dysgu am berthnasau iach mewn ysgolion ac yn gwybod at bwy i droi os ydyn nhw angen help."

Dywedodd Gwendolyn Sterk o Gymorth i Ferched Cymru "fod plant sy'n dystion i drais domestig yn ei brofi".

Yn 么l AS Canol Cymru David Melding, sy'n cadeirio pwyllgor plant a phobl ifanc y Cynulliad, mae penderfyniad Rory i rannu ei brofiadau wedi rhoi egni newydd i'r ymgyrch i amddiffyn plant rhag trais domestig.