Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Tua 200 o bobl yn protestio yn erbyn toriadau sir Conwy
Mae tua 200 o bobl wedi bod yn dangos eu cefnogaeth i athrawon sir Conwy yn sgil toriadau i'r sector addysg yno.
Yn y dyddiau diwethaf, mae Cyngor Sir Conwy wedi cadarnhau y byddan nhw'n gwneud toriadau i'w holl wasanaethau, mewn ymgais i fynd i'r afael 芒 diffyg ariannol o 拢15.7m.
Bydd y gyllideb addysg yn cael ei thorri 3.2% a bydd cynnydd o 9.6% i'r dreth cyngor hefyd.
Fis diwethaf fe anfonodd penaethiaid ysgolion uwchradd Sir Conwy lythyr ar y cyd at rieni yn dweud bod yr ysgolion "ar ben eu tennyn" a bod y sefyllfa ariannol yn "argyfyngus".
'Penderfyniad anodd iawn'
Roedd athrawon, rhieni a disgyblion y sir wedi ymgynnull mewn protest tu allan i bencadlys newydd y cyngor ym Mae Colwyn ddydd Sadwrn.
Dywedodd Garffild Lloyd Lewis, y cynghorydd sy'n gyfrifol am addysg a sgiliau ar gabinet y cyngor sir, ei fod yn deall pryderon athrawon a rhieni ond fod yr awdurdod lleol mewn sefyllfa amhosib.
"'Da ni 'di llwyddo i warchod addysg gymaint 芒 fedrwn ni," meddai Mr Lewis, gan ychwanegu mai'r bwriad yn wreiddiol oedd torri 4% ar y cyllid addysg.
"Mae'r ffigwr [toriad i'r gyllideb addysg] lawr i ryw 3.2% - dal ddim yn hawdd, dwi'n gw'bod.
"Mi fydd hyn yn anodd i ysgolion - mae wedi bod yn benderfyniad anodd iawn."
Mewn datganiad yngl欧n 芒'r gyllideb dywedodd Cyngor Conwy bod y flwyddyn nesaf yn un o'r cyllidebau anoddaf erioed i'r awdurdod.