Penaethiaid pryderus yn anfon llythyr at rieni Conwy
- Cyhoeddwyd
Mae penaethiaid ysgolion uwchradd Sir Conwy wedi ysgrifennu llythyr ar y cyd at rieni yn rhybuddio am sgil effeithiau toriadau i gyllid ysgolion ar addysg eu plant.
Mae'r llythyr yn dweud bod ysgolion yn wynebu toriadau ariannol o rhwng 3.6% a 4% ond fod hynny yn golygu 7.6% mewn termau real o ganlyniad i chwyddiant.
Mae hynny gyfystyr 芒 拢200,000 mewn rhai ysgolion.
Yn y llythyr mae'r penaethiaid yn dweud bod yr ysgolion "ar ben eu tennyn" a bod y sefyllfa ariannol yn "argyfyngus".
Mae'r llythyr hefyd yn rhybuddio y dylai rhieni ddisgwyl:
Dosbarthiadau mwy o faint a llai o athrawon ac Uwch Arweinwyr;
Adeiladau'r ysgol yn dirywio;
Llai o gymorth ar gyfer anghenion ychwanegol;
Toriadau i wasanaethau bugeiliol gan gynnwys cymorthyddion a staff cefnogi;
Offer cyfrifiadurol sydd wedi dyddio;
Llai o deithiau a gweithgareddau 么l-ysgol a fu'n gymorthdaledig neu'n rhad ac am ddim yn y gorffennol;
Her sylweddol i dwf addysg cyfrwng Cymraeg a chwrdd 芒 Miliwn o Siaradwyr Cymraeg;
Ffrydiau cyllid ychwanegol fel grantiau yn cael eu defnyddio i gefnogi darpariaeth craidd ysgolion.
Mae'r llythyr yn cyfeirio at bryderon penaethiaid o ran colli swyddi ac "nad yw'n bosibl gwneud arbedion a fydd yn gwneud i fyny am y diffyg enfawr yn yr arian sy'n cael ei ddyrannu i ni".
"Mae'n teimlo'n annheg iawn ar ein dysgwyr a'n staff. Yn y pen draw, y plant o fewn ein cymunedau sy'n dioddef - mae nhw'n haeddu gwell," meddai.
Mae'r penaethiaid hefyd yn annog rhieni i lob茂o eu ACau a chynghorwyr lleol, neu ychwanegu enwau at ddeiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i warchod cyllid ysgolion.
'Toriadau'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: ""Mae gwasanaethau addysg ar gyfer disgyblion hyd at 16 oed yn cael eu darparu o gronfa graidd y llywodraethau lleol, yn dibynnu ar eu hanghenion a'u blaenoriaethau.
"Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu cyllid eleni i sicrhau nad yw ddim un llywodraeth leol yn wynebu gostyngiad yn eu cyllid o fwy na 0.3%.
"Mae Conwy yn un o bum awdurdod lleol fydd yn derbyn cyfran o 拢3.5m yn ychwanegol y flwyddyn nesaf.
"Mae hyn yn erbyn agenda llymder Llywodraeth y DU, fydd yn arwain at doriad o fwy na 拢1bn i gyllid cyfan Gymru.
"Byddwn yn parhau i alw am adnoddau ychwanegol i wario ar ein gwasanaethau cyhoeddus, sy'n cynnwys ysgolion," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2018