成人快手

Wylfa: Tony ac Aloma yn gorfod newid cynlluniau gwesty

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Tony ac Aloma yn gorfod ailfeddwl cynlluniau gwesty newydd

Mae'r ddeuawd Tony ac Aloma wedi dweud eu bod yn gorfod ailfeddwl beth i'w wneud gyda'u gwesty newydd ar Ynys M么n yn sgil amheuaeth am ddyfodol Wylfa Newydd.

Cyhoeddodd cwmni Hitachi yn gynharach ym mis Ionawr fod datblygwyr wedi atal yr holl waith ar y cynllun gwerth 拢12bn.

Mae'r ddeuawd - ynghyd 芒 g诺r Aloma, Roy - hefyd yn adnabyddus fel perchnogion Gwesty'r Gresham yn Blackpool.

Ond ar 么l 30 o flynyddoedd yn diddanu ymwelwyr y dref yng ngogledd Lloegr, maen nhw wedi penderfynu gwerthu'r gwesty er mwyn paratoi at ymddeol.

Dywedodd Aloma Jones mai'r bwriad oedd "prynu rhywle llai n么l ar yr ynys", gyda'r gobaith o ddenu gweithwyr oedd angen llety wrth i'r gwaith o adeiladu'r atomfa newydd fynd yn ei flaen.

"'Da ni wedi prynu gwesty'r Trees yma'n Amlwch bron i dair blynedd yn 么l r诺an," meddai Aloma wrth Cymru Fyw.

"Wrth gwrs y bwriad oedd denu contractors oedd yn mynd i ddod i'r ynys yn eu miloedd ar gyfer y gwaith o adeiladu Wylfa."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Aloma Jones a'i g诺r Roy eisoes wedi dechrau ar y gwaith o adnewyddu gwesty'r Trees yn Amlwch

Roedd disgwyl i 9,000 o weithwyr adeiladu'r atomfa, ac i gannoedd o swyddi parhaol gael eu creu, pe bai'r safle'n weithredol erbyn canol y 2020au.

"Mae o'n siom mawr iawn i ni na fydd hyn yn digwydd r诺an, a dwi'n si诺r fod 'na nifer fawr iawn, fel ni, oedd yn gobeithio elwa o'r datblygiad," meddai Aloma.

"Mae 'na bobl wedi rhoi popeth sydd ganddyn nhw mewn busnesau efo'r addewid bod Wylfa yn mynd i ddod ag arian i'r ynys."

Eglurodd Aloma fod y gwesty newydd yn agos iawn at ei chalon, gan iddi dderbyn ei haddysg yn Ysgol Syr Thomas Jones, sydd drws nesa' i'r Trees.

Bu hefyd yn canu ym mar cefn y gwesty efo Tony, ac yno wnaeth hi gyfarfod Roy ar eu d锚t cyntaf dros 40 mlynedd yn 么l.

Gan eu bod nawr yn gobeithio apelio at ymwelwyr, eglurodd Aloma fod gwaith gwario a buddsoddi cyn bod y gwesty yn addas ar gyfer pobl sydd eisiau dod i Amlwch ar eu gwyliau.

"Mae'r holiday-makers 'ma angen rhyw bethau fel Jacuzzis a hot tubs a ballu, felly mae'n rhaid i ni wneud y lle i fod yn fwy upmarket nag oedden ni wedi meddwl er mwyn gallu cynnal y lle.

"Ond 'da ni'n lwcus ein bod mewn sefyllfa i allu gwneud hynny, mi fydd 'na bobl sydd methu gwneud hynny.

"Dwi jyst yn gobeithio nad ydy Hitachi wedi rhoi two point rhywbeth billion ar un ochr, a dweud dim ots.

"Yndi maen nhw'n dweud full stop r诺an, ond dwi'n gobeithio'n fawr nad full stop fydd o, ond comma fydd hyn, ac y gwneith hwn ddigwydd."

"Falla' y bydd 'na dipyn o flynyddoedd, 'da ni jyst ddim yn gwybod pa bryd. Ond dwi'n gobeithio y daw 'na rywbeth i'r hogiau' bach 'ma gael dyfodol ar yr ynys."