Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Dadlau'n parhau am gynllun tai gwyliau moethus Pen Ll欧n
- Awdur, Dafydd Gwynn
- Swydd, Gohebydd 成人快手 Cymru
Mae Cyngor Gwynedd yn mynnu i swyddogion cynllunio "ddelio'n briodol" 芒 chais i adeiladu 35 o unedau gwyliau moethus ar hen safle gwesty Plas Pistyll ym Mhen Ll欧n.
Daw hyn ar 么l i bentrefwyr Pistyll, rhwng Nefyn a Llithfaen, gyhuddo'r cyngor o fynd ati'n "slei" i ganiat谩u'r datblygiad.
Ddydd Iau fe wnaeth un o bwyllgorau craffu'r cyngor ystyried y broses cynllunio gyda thrafod di-flewyn-ar-dafod gan gynghorwyr.
Yn wreiddiol yn 2011 fe gafodd y datblygiad ei groesawu'n lleol, ond yna ei feirniadu'n hallt wrth i'r cynlluniau gael eu haddasu.
Cafodd y newidiadau eu caniat谩u gan swyddogion.
Roedd rhai o aelodau'r pwyllgor craffu cymunedau yn dadlau nad oedd digon o ymgynghori, ac y dylai'r newidiadau fod wedi'u cyfeirio yn 么l i'r pwyllgor cynllunio.
Yn sail i'r trafod ddydd Iau oedd adroddiad mewnol gan Gyngor Gwynedd.
Mae'r adroddiad yn dweud i'r swyddogion ddilyn y canllawiau'n gywir, ac mae awgrym nad oedd "aelodau lleol a chynghorau cymuned yn llawn werthfawrogi pwysigrwydd eu r么l yn y broses gynllunio".
Cafodd hyn ei wrthod gan y cynghorydd Aled Jones, sy'n cynrychioli Pistyll.
Un llythyr dderbyniodd, meddai, a hwnnw yn s么n am "f芒n newidiadau".
Yn 么l Mr Jones "y teimlad oedd bod yr adroddiad yma wedi'i wneud gan yr adran oedd wedi defnyddio'r hawliau dirprwyedig".
"'Da ni'n teimlo bod yna gais rhywsut yn yr adroddiad i roi bai ar bawb arall, ac nad oedden nhw'u hunain ar fai.
"Eto, 'da ni'n teimlo bod nhw wedi gor-ymestyn yr hawliau dirprwyedig i raddau."
Un arall oedd yn llafar yn y cyfarfod oedd y Cynghorydd Gruffydd Williams o Nefyn, sy'n dadlau na wnaeth y swyddogion cynllunio ddefnyddio'r "egwyddor o roi barn" yn gywir.
"Mi ddylsan nhw fod wedi sylweddoli fod y newidiadau yn sylweddol. O'r herwydd, mi ddylsa fod wedi mynd yn 么l i'r pwyllgor cynllunio yn syth."
Rhagor o drafod
Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, aelod o gabinet Gwynedd 芒 chyfrifoldeb am gynllunio, fod swyddogion wedi "delio'n briodol" 芒'r cais, gan fynnu nad oes lle yn yr achos yma i feirniadu'r drefn.
"Mae swyddogion cynllunio y sir yma'n delio hefo oddeutu 1,000 o geisiadau mewn blwyddyn.
"Mae'r drefn ddirprwyo yno i wneud yn si诺r mae'r materion mawr, cynhennus sydd yn mynd i bwyllgor."
Ar ei gwefan mae'r cwmni datblygu, Natural Retreats, yn ei ddisgrifio fel "cyfle unigryw i brynu eiddo mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol".
Mae'r tai ar werth yn costio hyd at 拢750,000 yr un.
Penderfynu trafod y sefyllfa ymhellach yn y flwyddyn newydd wnaeth y pwyllgor, a hynny mewn cyfarfod ar 7 Chwefror.