成人快手

Pryder dros doriadau posib i gynllun trwytho iaith

  • Cyhoeddwyd
Spin the wheel yn Gymraeg
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'n nod i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050

Mae undeb addysg ac ymgyrchwyr iaith wedi mynegi siom a phryder y gallai toriadau y mae Cyngor Gwynedd yn eu hystyried i'r drefn o drwytho plant yn y Gymraeg ar 么l symud i'r ardal fod yn niweidiol i'r gwasanaeth.

Mae'r cyngor yn ymgynghori gyda chanolfannau iaith y sir ac undebau yngl欧n ag ailstrwythuro "oherwydd toriad mewn grant cenedlaethol... gan Lywodraeth Cymru a chynnydd mewn costau".

Yn 么l undeb UCAC byddai "unrhyw un o'r opsiynau" dan ystyriaeth "yn cael effaith negyddol ar safon y dysgu" a'r niferoedd sy'n gallu manteisio ar y gwasanaeth, ac mae Cymdeithas yr Iaith wedi ysgrifennu at gynghorwyr yn eu rhybuddio bod toriadau arfaethedig i gyllideb y canolfannau "yn fygythiad i hyfywedd y Gymraeg yn lleol ac yn genedlaethol".

Ond mae'r cyngor yn dweud eu bod yn bwriadu sicrhau na fydd yna effaith ar niferoedd y disgyblion sy'n elwa o'r gwasanaeth.

'Gwasanaeth euraidd'

Nod y canolfannau iaith - pedair canolfan gynradd yng Nghaernarfon, Dolgellau, Llangybi a Phenrhyndeudraeth a chanolfan uwchradd ym Mhorthmadog - yw ymdrochi disgyblion sy'n newydd i'r sir yn y Gymraeg a'u helpu i ddod yn rhan o gymuned ddwyieithog.

Dywed y cyngor eu bod yn wynebu toriad o 拢61,000 yn y Grant Gwella Addysg y mae'n ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru. Mae hefyd yn rhagweld cynnydd o 拢35,000 mewn costau.

Ond mae UCAC wedi mynegi siom nad yw'r ymgynghoriad "yn cynnig unrhyw opsiwn i gadw'r gwasanaeth euraidd yma fel y mae".

Ar hyn o bryd, mae un athro i bob wyth disgybl - y gymhareb sy'n cael ei hargymell gan arbenigwyr iaith oherwydd natur dwys y cwrs - ond mae'r undeb yn dweud bod "rhan fwyaf o'r cynigion yn golygu dyblu nifer y disgyblion i bob athro".

Dywedodd swyddog maes UCAC yn y gogledd, Ioan Rhys Jones eu bod yn poeni y gallai'r newidiadau wneud hi'n "llawer anoddach trosglwyddo'r iaith yn effeithiol... a rhwystro plant Gwynedd rhag derbyn addysg Gymraeg a theimlo'n rhan o'r gymuned ddwyieithog ehangach".

Ychwanegodd Mr Jones bod UCAC yn "gresynu" nad oes gan y cyngor yr "ewyllys" i sicrhau dyfodol y gwasanaeth.

"Pa obaith sydd gennym o gyrraedd nod Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr erbyn 2050 pan na allwn sicrhau bod siaradwyr Cymraeg newydd yn ymuno ag addysg Gymraeg - a hynny yng nghadarnleoedd yr iaith yng nghymunedau Gwynedd?"

'Annheg ac anghynaliadwy'

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Toni Schiavone y byddai "baich ychwanegol annheg ac anghynaliadwy ar athrawon" heb y canolfannau iaith

Mewn llythyr at gynghorwyr yn disgrifio canolfannau iaith Gwynedd fel yr "un llwyddiant yng Nghymru sydd wedi bod o ran cymhathu plant mewnfudwyr", dywedodd Toni Schiavone o Gymdeithas yr Iaith bod cynghorau Sir G芒r a Cheredigon yn ceisio cyrraedd yr un safon "ond nawr dyma Wynedd yn tanseilio ei chanolfannau ei hun".

Dywedodd: "Os na ellir Cymreigio'r mewnfudwyr cyn eu derbyn at yr ysgolion cymunedol, [mae'n] gosod baich ychwanegol annheg ac anghynaliadwy ar athrawon.

"Byddai'r toriadau arfaethedig yn peryglu iaith ysgolion a chymunedau Gwynedd am arbedion honedig o 拢96,000 - sef 拢1,800 yr wythnos, neu 1.4 ceiniog y pen i bobl Gwynedd. Ydych chi wir am ganiat谩u effaith andwyol ar effeithiolrwydd gwasanaeth y sir am arbedion fel hyn?"

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd eu bod yn "ymgynghori ar ailstrwythuro gwasanaeth canolfannau iaith y sir" oherwydd toriadau i gyllidebau a chynnydd mewn costau.

"Fel cyngor rydym o'r farn fod y gwasanaeth yn un allweddol i bolisi iaith addysg yng Ngwynedd, a'n bwriad ydy fod y ddarpariaeth yn parhau i fod ar gael i blant Gwynedd.

"Tra nad oes penderfyniad wedi ei gymryd ar hyn o bryd, rydym yn parhau i gynnal ymgynghoriad gyda staff a'r undebau."

Mae cais wedi ei roi i Lywodraeth Cymru am ymateb.