成人快手

10 tip ar gyfer rhieni prysur

  • Cyhoeddwyd

Sut mae delio gyda gofynion gwaith a bywyd? Mae Cymru Fyw wedi siarad 芒'r annogydd Rosie Sweetman yngl欧n ag ymdopi gyda'r straen pan mae bywyd yn brysur.

Mae Rosie yn byw yng Nghaerdydd, yn fam i ddau o blant ac hefyd yn rhedeg ei busnes ei hun yn cynnig hyfforddiant ac anogaeth.

Yma mae hi'n rhannu rhai egwyddorion i helpu rhieni prysur i ymdopi.

Ffynhonnell y llun, Rosie Sweetman
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yr annogydd busnes Rosie Sweetman

1. 'Dyw beth sy'n gweithio un diwrnod ddim o hyd yn gweithio y diwrnod wedyn. Fel mam i ddau o blant, dw i'n gwybod nad yw be' sy'n gweithio un munud o hyd yn gweithio'r munud nesaf!

2. Pan chi'n canfod rhywbeth sy'n gweithio, ymlaciwch a joiwch y foment (ffiw!)

3. Mae'n un cawl mawr! Mae'r syniad o falans gwaith / bywyd yn awgrymu dewis syml rhwng ddau beth - amser gwaith neu amser bywyd? Mae'n helpu fi i feddwl amdano fel un cawl mawr, er enghraifft, dw i'n gallu gweithio tra fod fy merch yn ei gwers gymnasteg ar ddydd Sul, sy'n golygu fy mod yn gweithio ar benwythnos - ond mae hynny'n galluogi fi i gasglu'r plant ar ddydd Gwener.

Mae fel cawl yn y ffaith eich bod chi eisiau'r blend gorau o gynhwysion yn hytrach na thrio cyflawni rhyw falans 'perffaith' rhwng bywyd a gwaith.

Ffynhonnell y llun, PeopleImages
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Teimlo'r straen ar adeg prysur

4. I aros gyda'r syniad o gawl... be' fyddai'n creu cawl da i chi? Ystyriwch be' mae llwyddiant yn ei olygu i chi - wneith hyn eich helpu chi i weithio tuag at eich targed neu'ch g么l. I helpu i wneud hyn, gwnewch restr o'r pethau pwysig yn eich bywyd - teulu, gwaith, perthynas ac ati.

Rhowch sg么r rhwng 0 a 10 i bob elfen ar y rhestr, gyda 10 fel sg么r uchaf ar gyfer elfen sy'n gweithio'n dda. Sut fyddai 10 yn edrych ar gyfer popeth arall ar y rhestr? Beth fyddai'n helpu chi i symud tuag at y sg么r uchaf?

5. Weithiau mae ymdopi gyda phopeth yn llethol... archebu'r twrci, Brexit, creu gwisg sioe Nadolig, angen cwblhau dogfen waith... Un techneg ymarferol dw i'n ei ddefnyddio yw'r cylch pryder.

Pan mae rhywbeth yn eich poeni, ystyriwch ble mae'n eistedd ar y cylch pryder. Ydy e'n rhywbeth chi'n gallu newid (cylch rheolaeth)? Ydy e'n rhywbeth chi'n gallu dylanwadu arno? Neu os ydy e yn y cylch pryder, ydy chi'n gallu gadael fynd ohono?

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cylch pryder

6.Beth yw'ch pwerau arbennig chi? Beth sy'n gwneud i chi deimlo'n gryf ac yn egn茂ol? Sut allwch chi dynnu'r pwerau 'ma i mewn i'ch bywyd bob dydd?

7. Ar y llaw arall mae gan bawb wendidau - y pethau hynny sy'n cymryd deg gwaith yn hirach i chi wneud (trefnu gwaith papur i fi!) Rhannwch y dasg yn ddarnau llai neu cyfnewidiwch gyda rhywun sy' 芒'r p诺er i wneud y dasg yn gyflym.

8. Mae gwybod be' sy'n bwysig i chi yn help er mwyn gwneud penderfyniadau. Beth yw'ch opsiynau? Beth yw'r manteision a'r anfanteision?

9. A beth neu bwy sy'n gallu'ch helpu chi? Mae p诺er y gymuned yn hynod bwysig ac yn gallu cynnwys pob math o bobl - ffrindiau sy'n rhieni, teulu, cymdogion a phobl chi'n eu cyfarfod drwy waith neu yn y gymuned.

10. Cofiwch - chi'n gwneud eich gorau! Mae bywyd modern yn brysur ac weithiau mae angen cofio bod yn garedig i'ch hunain.

Hefyd o ddiddordeb