成人快手

Eisteddfod Caerdydd wedi gwneud colled o 拢290,000

  • Cyhoeddwyd
Maes
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r Eisteddfod yn honni bod tua hanner miliwn o ymwelwyr wedi mynychu'r Brifwyl eleni

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi bod Prifwyl Caerdydd eleni wedi gwneud colled ariannol o bron i 拢300,000.

Dywedodd y sefydliad eu bod wedi gwneud "diffyg ariannol gweithredol o 拢290,139" ac mai'r Eisteddfod fydd yn ysgwyddo'r golled yma.

Dyma oedd y tro cyntaf i'r Eisteddfod gynnal g诺yl heb faes, ac mae'r trefnwyr yn dweud mai costau diogelwch sydd wedi arwain at y diffyg.

Dywedodd prif weithredwr yr Eisteddfod bod Prifwyl Bae Caerdydd yn "fuddsoddiad sydd wedi, ac sy'n parhau i newid agweddau pobl y brifddinas a thu hwnt tuag at yr iaith".

'Hanner miliwn o ymwelwyr'

Dywedodd yr Eisteddfod mewn datganiad bod "diogelwch ymwelwyr yn hollbwysig" a gan nad oedd maes traddodiadol "bu'n rhaid buddsoddi'n helaeth mewn swyddogion ac elfennau diogelwch eraill".

Ychwanegodd yr Eisteddfod bod Prifwyl Caerdydd wedi denu "mwy o ymwelwyr nag erioed o'r blaen".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Betsan Moses bod "cynnal Eisteddfod arbrofol yn heriol ac yn risg"

Mae'r sefydliad yn honni bod amcangyfrifon yn awgrymu bod tua hanner miliwn o ymwelwyr wedi mynychu'r Brifwyl eleni, ble mai tua 150,000 sy'n ymweld fel arfer.

Daeth y cyhoeddiad am y ffigyrau yng nghyfarfod Cyngor yr Eisteddfod yn Aberystwyth ddydd Sadwrn.

'Buddsoddiad strategol'

Dywedodd prif weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses: "Drwy gynnig mynediad i ran helaeth o'r maes yn rhad ac am ddim, roedd eleni'n fuddsoddiad strategol yn yr iaith gennym ni, ac fe ddaeth yr ymwelwyr cyfarwydd a newydd i gefnogi.

"Am gost o lai na 拢1 ychwanegol i'r Eisteddfod am bob ymwelydd newydd, llwyddwyd i ddenu cannoedd o filoedd o bobl i brofi g诺yl sy'n ddathliad eclectig a chyfoes o'n hiaith a'n diwylliant."

Ychwanegodd Ms Moses bod "cynnal Eisteddfod arbrofol yn heriol ac yn risg".

"Mae hwn yn fuddsoddiad sydd wedi, ac sy'n parhau i newid agweddau pobl y brifddinas a thu hwnt tuag at yr iaith," meddai.

'Amhosib efelychu'

Mae hi'n amhosib efelychu Eisteddfod Caerdydd mewn ardaloedd eraill ar hyn o bryd yn 么l aelodau o Gyngor yr Eisteddfod.

Ychwanegodd aelodau fod dim amheuaeth iddi fod yn Eisteddfod lwyddiannus, ond bod rhaid edrych eto ar fodel ariannol y brifwyl os am gael maes agored eto.

Yn amddiffyn y golled, dywedodd Eifion Lloyd Jones bod "cannoedd ar filoedd o wahaniaeth rhwng y gwariant a'r incwm. Yn y diwedd mae 拢290,139 yn swm isel iawn."

"Mae'r posibiliadau o ran Eisteddfodau tebyg i Gaerdydd yn y dyfodol yn gwbl ddibynnol ar gael gwell nawdd gan y Llywodraeth," meddai.

Dywedodd Trystan Lewis, cadeirydd Eisteddfod Sir Conwy, "nad oes pwrpas codi gobeithion Caernarfon ar gyfer maes agored yn 2021."