成人快手

Liam Williams yn gefnwr i herio De Affrica

  • Cyhoeddwyd
Liam WilliamsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth Liam Williams ennill ei 50fed cap yn erbyn Tonga

Bydd Liam Williams yn dechrau yn safle'r cefnwr, gyda Gareth Anscombe yn faswr, wrth i Gymru wneud 14 newid i herio De Affrica yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.

Williams yw'r unig chwaraewr i gadw ei le o'r 15 ddechreuodd yn erbyn Tonga, ond mae'n symud o'r asgell oherwydd yr anaf i Leigh Halfpenny.

Oni bai am hynny, dyma'r un t卯m drechodd Awstralia yn y brifddinas bythefnos yn 么l.

Mae Cymru'n anelu i ennill pob un o'u gemau yng Nghyfres yr Hydref am y tro cyntaf, yn dilyn y buddugoliaethau yn erbyn Yr Alban, Awstralia a Tonga.

Dyma hefyd fyddai eu nawfed fuddugoliaeth yn olynol.

Does dim newid i d卯m De Affrica o'r 15 wnaeth guro'r Alban 26-20 ddydd Sadwrn.

Cefnogi Gareth Thomas

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cadarnhau y bydd y t卯m yn gwisgo careiau lliwiau'r enfys ddydd Sadwrn i "ddangos cefnogaeth" i Gareth Thomas.

Fe wnaeth llanc 16 oed ymosod ar y cyn-gapten yng Nghaerdydd dros y penwythnos, ac yn 么l Thomas roedd hynny oherwydd ei rywioldeb.

Mae t卯m cenedlaethol Ffrainc eisoes wedi dweud y byddan nhw'n gwisgo careiau lliwiau'r enfys ar gyfer eu g锚m yn erbyn Ffiji nos Sadwrn.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd ymgyrch careiau lliwiau'r enfys ei lansio gan elusen Stonewall

T卯m Cymru:

Liam Williams; George North, Jonathan Davies, Hadleigh Parkes, Josh Adams; Gareth Anscombe, Gareth Davies; Nicky Smith, Ken Owens, Tomas Francis, Adam Beard, Alun Wyn Jones (c), Dan Lydiate, Justin Tipuric, Ross Moriarty

Eilyddion: Elliot Dee, Rob Evans, Dillon Lewis, Cory Hill, Ellis Jenkins, Tomos Williams, Dan Biggar, Owen Watkin.

T卯m De Affrica:

Willie le Roux; Sbu Nkosi, Jesse Kriel, Damian de Allende, Aphiwe Dyantyi; Handr茅 Pollard, Embrose Papier; Steven Kitshoff, Malcolm Marx, Frans Malherbe, RG Snyman, Franco Mostert, Siya Koli (c), Pieter-Steph du Toit, Duane Vermeulen.

Eilyddion: Bongi Mbonambi, Thomas du Toit, Vincent Koch, Eben Etzebeth, Francois Louw, Ivan van Zyl, Elton Jantjies, Cheslin Kolbe.