成人快手

Agor Canolfan S4C yng Nghaerfyrddin, Yr Egin yn swyddogol

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Cipolwg ar adeilad yr Egin

Mae adeilad a menter newydd Yr Egin yng Nghaerfyrddin yn bwysig wrth sicrhau dyfodol yr iaith yn y sir drwy roi statws iddi yn yr ardal, yn 么l arbenigwr iaith.

Daeth sylwadau cyn-brif weithredwr Bwrdd yr Iaith, Meirion Prys Jones, wrth i adeilad Yr Egin agor yn swyddogol yng Nghaerfyrddin ddydd Iau.

Mae 拢6m o arian cyhoeddus wedi ei wario ar godi'r adeilad ac mae S4C wedi adleoli rhwng 50 a 55 o swyddi i'r ganolfan newydd o'i phencadlys blaenorol yng Nghaerdydd.

Yn 么l S4C a Phrifysgol Y Drindod Dewi Sant, nod yr adeilad yw trawsnewid y diwydiannau creadigol yn y de orllewin a thu hwnt.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Carwyn Jones yn annerch yn ystod agoriad swyddogol Yr Egin

"Mae'n du hwnt o brysur yma," meddai Carys Ifan, Cyfarwyddwr Canolfan S4C Yr Egin.

"I ystyried mai dim ond wyth wythnos sydd ers i ni gael yr allweddi gan yr adeiladwyr mae'r ffaith bod cynifer o bobl wedi ymgartrefu i weithio o'r adeilad.

"Mae cymaint o blant a phobl ifanc wedi bod drwy'r drysau'n barod heb s么n am dros y pythefnos nesa' gyda g诺yl agor Yr Egin, 'y ni'n agor y drysau ac yn edrych ymlaen at wahodd y gynulleidfa mewn yma."

Ychwanegodd: "Mae creu hwb greadigol ac amlygu'r cwmn茂au a'r tenantiaid sydd yn gweithio'n yr ardal yma yn hynod bwysig fel rhan o'r weledigaeth yna."

Dywedodd y prif weinidog Carwyn Jones fod ei lywodraeth yn "falch o gefnogi'r prosiect hwn a fydd yn helpu i sefydlu canolfan arloesol i'r diwydiannau creadigol yng Nghaerfyrddin.

"Mae'r Egin yn ategu'n berffaith weledigaeth Llywodraeth ac S4C o dyfu ein diwydiant creadigol wrth ddatblygu ar yr un pryd yr economi leol."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae gwagle ar hyd llawr gwaelod Yr Egin ar gyfer cyfarfodydd

Ar lawr gwaelod yr adeilad mae yna gaffi a llefydd cyfarfod ac mae swyddfeydd ar y llawr cyntaf.

Un o'r bobl sydd wedi symud eu swyddfa i'r Egin yn barod ydy Owain Glyn Saunders Jones o gwmni Atebol, ac mae ei swyddfa ochr yn ochr 芒 swyddfeydd cwmn茂au eraill.

"Ni'n falch i fod yng Nghaerfyrddin ac yn rhan o'r Egin. Mae'n le cyffrous iawn. Ni'n gwmni sydd wedi ei leoli yn wreiddiol yng nghefn gwlad, yng Ngheredigion, ni'n gwmni cyhoeddi cynnwys.

"Mae'r adeilad yn siarad drosti ei hun, mae bwrlwm i'w gael o ran Yr Egin fi'n credu, ac mae gweledigaeth ffantastig wedi ei greu o ran S4C a hefyd Prifysgol y Drindod Dewi Sant, ac 'ry ni'n falch iawn o fod yn rhan o'r cyfnod cyffrous yma."

'Pwysig' o ran dyfodol yr iaith

Fe gyhoeddodd S4C yn 2014 y byddan nhw'n adleoli eu pencadlys i Gaerfyrddin.

Ar y pryd dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol y Drindod Dewi Sant, Yr Athro Medwin Hughes, fod y cyhoeddiad yn "newyddion pwysig iawn yn natblygiad a pharhad yr iaith Gymraeg ar draws y rhanbarth".

Ac mae Mr Prys Jones yn cytuno: "Os ma' rhywun yn edrych ar yr ardal yma mae'r rhan fwyaf o siaradwyr Cymraeg y byd yn byw o fewn tri chwarter awr i Gaerfyrddin - dyma lle mae'r niferoedd mwya' o siaradwyr Cymraeg.

"Ond wedi dweud hynny ychydig iawn o sefydliadau sydd yma sy'n gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg, ac felly mae'r Egin a dyfodol yr Egin yn bwysig iawn o ran yr ardal yma, o ran cynnig cyfleoedd am swyddi, swyddi da, a hefyd yn dod a statws i'r Gymraeg o fewn y dre' ei hunan."

Ychwanegodd: "Felly mae'n bwysig iawn o ran dyfodol y Gymraeg bo' ni'n cael y math yna o sefydliadau yma."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae canolfan Yr Egin wedi ei lleoli ar d卯r Prifysgol y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin

Yn 么l Carys Ifan mae'r ymateb i'r swyddi a'r cyfleoedd hyd yma wedi bod yn galonogol.

"Mae e'n gyfle i bobl aros yn yr ardal... ond hefyd ma' ishe rhoi'r cyfle i bobl i symud n么l.

"Be' ni'n gweld ydy patrwm o bobl sydd ychydig yn h欧n, sydd wedi gweithio yn y ddinas am gyfnod ishe symud 'nol a magu teuluoedd yn y gorllewin, yn eu cymunedau eu hunain, ac felly mae 'na gyfle fan hyn i bobl i wneud hynny, i symud i swyddi cyfwerth wedyn.

"Mae e'n gyfle i bobl i fod yn falch o ddatblygiad... mae e'n rhoi balchder ac yn hynny o beth yn rhoi hyder wedyn i bobl i ddatblygu eu busnes, i ddod at yr iaith, mae'n rhoi cyfle ychwanegol i bobl i ystyried ac i greu cynnwys hefyd."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Carwyn Jones gyda'r Hybarch Randolph Thomas a'r Athro Medwin Hughes o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn agoriad swyddogol Yr Egin