Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cynnydd yn nifer y Cymry sy'n dewis astudio meddygaeth
- Awdur, Owain Clarke
- Swydd, Gohebydd Iechyd 成人快手 Cymru
Mae cynnydd eleni yn nifer y myfyrwyr o Gymru sydd wedi dechrau astudio meddygaeth ym mhrifysgolion y DU, yn 么l y ffigyrau diweddaraf.
Yn 2018, cafodd 410 o Gymry lefydd ar gyrsiau meddygol neu ddeintyddol o'i gymharu 芒 330 yn 2017 - cynnydd o 23%.
Dyma'r nifer uchaf am o leiaf 10 mlynedd, ac mae'r cynnydd o Gymru yn uwch o lawer na gwledydd eraill y DU.
Yn 么l arbenigwyr, mae'r ystadegau diweddaraf yn galanogol ac yn hwb i'r ymdrech i daclo prinder staff yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.
Calonogol
Erbyn hyn mae 50% yn rhagor o fyfyrwyr o Gymru yn dechrau cyrsiau meddygol a deintyddol o'i gymharu 芒 phum mlynedd yn 么l.
Yn 么l ffigyrau UCAS - y corff sy'n gyfrifol am geisiadau i brifysgolion - fe welodd Lloegr 10% o gynnydd eleni, a 2% o gynnydd yn Yr Alban.
Ond roedd na ostyngiad o 9% yn y nifer o Ogledd Iwerddon.
Yn 么l Dr Awen Iorwerth, llawfeddyg orthopedig ac uwch ddarlithydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn Ysgol Feddygol Caerdydd, mae'r ystadegau'n galonogol ac yn "arwydd o'r gwaith caled" i annog mwy o Gymry i ystyried bod yn feddygon.
"Mae 'na sicr egin o obaith yma, er nad ydyn ni'n dechre cynllunio am y cynhaeaf eto, ond yn sicr, 'dan ni'n hapus iawn o weld llafur ein gwaith ni yn dechrau dwyn ffrwyth.
"O'r diwedd, ma' 'na sylweddolaeth mai cynllunio gweithlu ar gyfer Cymru ydan ni.
"'Dan ni fel prifysgolion wedi bod yn gweithio gyda'r llywodraeth, gydag ysgolion a 'dan ni gyd yn cydnabod bod rhaid i ni ddechre hyfforddi ein pobl ifanc ni, ysbrydoli ein pobl ifanc ni, rhoi'r hyder i'n pobl ifanc ni i ymgeisio a chael uchelgais fel hyn."
Beth yw'r sefyllfa yn ysgolion meddygol Cymru?
Mae cyfradd y Cymry sy'n astudio yn Ysgol Feddygol Prifysgol Caerdydd wedi cynyddu'n raddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Eleni, bydd dros 30% sy'n dechrau'r cwrs yn dod o Gymru.
Mae'r Ysgol Feddygol wedi datblygu sawl cynllun lle mae myfyrwyr yn ymweld ag ysgolion i ysbrydoli a mentora plant.
I ymateb i'r prinder meddygon teulu mewn rhannau o Gymru, fe fydd y brifysgol yn cydweithio am y tro cyntaf eleni gyda phrifysgolion Bangor ac Aberystwyth i roi cyfle i fyfyrwyr meddygol gael blwyddyn o'u haddysg mewn practisiau meddygon teulu yng ngogledd a chanolbarth Cymru.
Eleni, fe gafodd mwy o ymgeiswyr o Gymru nag erioed - 105 - gyfweliad i gael lle ar gwrs meddygol Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe.
Mae'r ysgol feddygol yn rhedeg rhaglen 'Meddygon i Gymru', sy'n cynnwys cynnig profiad gwaith i ddisgyblion chweched dosbarth gyda meddyg teulu lleol, mentora dros y we a phrosiectau i ddenu mwy o siaradwyr Cymraeg.
Mae'r ddwy brifysgol yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr dreulio cyfnodau'n astudio mewn ardaloedd gwledig, a mewn meddygfeydd yn gwahanol rannau o Gymru.
Yn ogystal ag annog rhagor o fyfyrwyr o Gymru i astudio i fod yn feddygon, mae 'na gydnabyddiaeth hefyd bod angen gwneud rhagor i ddenu cymaint 芒 phosib i aros, dychwelyd neu ddod i Gymru ar 么l graddio er mwyn hyfforddi fel meddygon iau.
"Ma' 'na heriau mawr," meddai Dr Iorwerth, "ond wrth ddatblygu safon yr hyfforddiant 么l-raddedig, er enghraifft, ym maes llawfyddygaeth cyffredinol... mae'r gystadleuaeth am lefydd yn cynyddu a 'da ni bellach yn llenwi ein llefydd [meddygon iau] 100% efo pobl sy' eisiau aros yma a pobl o Gymru sy' 'di bod i ffwrdd ac isio dod 'n么l.
"Ac wrth gynyddu safon yr hyfforddiant a phwyntio allan bod safon byw a safon gweithio yng Nghymru cystal 芒 nunlle - ma' hynny'n bwysig hefyd.
"Mae'n bwysig cadw cysylltiad gyda'r bobl sydd wedi bod mewn prifysgolion y tu allan i Gymru, a'i croesawu nhw efo pethau fel digwyddiadau y Gymdeithas Feddygol a'r Coleg Cymraeg, a rhoid yr hyder iddyn nhw wybod fod eu Cymreictod nhw yr un mor bwysig i ni hefyd."