成人快手

'Angen hyfforddi meddygon yn ysbytai Cymru'

  • Cyhoeddwyd
Meddyg teulu

"Rhaid gwneud pob dim i hyfforddi meddygon mewn ysbytai yng Nghymru er mwyn eu cadw a sicrhau gwasanaeth meddygol Cymraeg" - dyna neges arbenigwyr meddygol mewn rhaglen a fydd yn cael ei darlledu ar 成人快手 Radio Cymru ddydd Llun i nodi pen-blwydd y GIG yn 70.

Yn 么l ffigyrau y Swyddfa Ystadegau Gwladol dim ond 380 o feddygon teulu Cymraeg eu hiaith sy'n gweithio yng Nghymru - ond fel mae'r rhaglen yn nodi does dim rhaid i feddygon gofrestru gallu ieithyddol.

Mae'r rhaglen yn canfod mai Dr Mair Parry yw'r unig feddyg pediatrig Cymraeg yng ngogledd Cymru ac yn ei h么l hi mae sefyllfa denu meddygon yn gyffredinol - yn enwedig meddygon Cymraeg - lawer yn waeth nawr nag ugain mlynedd yn 么l.

'Siom peidio cael ysgol feddygol'

Mae'n dweud: "Os na da'n ni'n gallu hyfforddi meddygon yn lleol mae'n lot anoddach denu nhw n么l wedyn.

"Roedd e'n siom peidio cael ysgol feddygol yn y Gogledd.

"Mae'r Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething yn gwybod ein bod yn poeni ond weithiau dwi'n meddwl nad yw e'n deall pa mor ddrwg ydi hi arnom ni."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yng Ngorffennaf 2017 dywedodd Vaughan Gething nad oedd wedi ei berswadio bod angen ysgol feddygol i'r gogledd

Wrth ymateb i'r prinder staff meddygol Cymraeg mae Vaughan Gething yn dweud mai'r broblem fawr yw deall faint o staff sydd eu hangen.

Mae'n nodi bod angen cynyddu lleoedd hyfforddi ym mhrifysgolion Caerdydd ac Abertawe ac yn awgrymu y gallai hi gymryd gormod o amser i sefydlu ysgol feddygol yn y Gogledd.

Un arall sy'n credu bod hi'n argyfwng o ran denu meddygon yw Dr Margaret Jones sydd wedi bod yn feddyg yn Y Drenewydd ers dro dri deg mlynedd.

"Fi yw'r unig feddyg," meddai, "sy'n siarad Cymraeg yma ac mae Cymry Cymraeg Drenewydd yn ceisio cael apwyntiad 'da fi.

"Pan dwi i'n gadael be sy'n mynd i ddigwydd? Dydan ni ddim yn gallu cael doctor o unrhyw wlad heblaw s么n am rywun sy'n siarad Cymraeg."

'O ddod yma, maent wedi aros'

Yr unig ateb, medd ei merch Dr Siwan Jones sy'n gofrestrydd yn Ysbyty Maelor Wrecsam yw annog Cymry Cymraeg sy'n astudio meddygaeth i aros yng Nghymru.

Dywedodd: "Mae angen annog myfyrwyr i fynd i'r Brifysgol yng Nghaerdydd neu os yn gwneud cwrs 么l-radd eu hannog i fynd i Abertawe fel bod ganddynt y cyfle wedyn i fynd i hyfforddi mewn ysbytai yng Nghymru ac aros yn yr ardaloedd hynny.

"Dwin gwybod am rai sydd wedi cael profiad ffantastig mewn ysbytai yng Nghymru ac o gael cyfle i ddod i hyfforddi yma maent wedi aros."

'Recriwtio yn yr ysgol gynradd?'

Yn 么l Dr Awen Iorwerth, uwch-ddarlithydd clinigol ym Mhrifysgol Caerdydd, mae llai o Gymru wedi bod yn ymgeisio i wneud meddygaeth yn gyffredinol ac mae'r rhai sydd yn ymgeisio yn dewis gwneud hynny allan o Gymru.

Mae Dr Iorwerth yn dweud bod cynlluniau bellach ar y cyd 芒'r Coleg Cymraeg i geisio denu disgyblion ysgol uwchradd i'r maes.

"Ond efallai," meddai, "y dylwn wneud hynny yn gynt - yn yr ysgol gynradd o bosib."

Sioned Wyn, cwmni Chwarel, yw cyflwynydd a chynhyrchydd y rhaglen ac fe fydd i'w chlywed ar Radio Cymru am 12:30.