成人快手

Grant yn 'golygu lot' i chwaraewr rygbi o'r Bala

  • Cyhoeddwyd
Teleri DaviesFfynhonnell y llun, Teleri Davies
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Teleri Davies, 21 oed, wedi cael ei dewis i dderbyn 拢2,000 sy'n cael ei roi i gynorthwyo pobl ifanc addawol yn y byd chwaraeon.

Bydd grant er cof am ddyn ifanc o Lanbedrog fu farw yn China yn 2015 yn hwb enfawr i ferch o'r Bala sy'n chwarae rygbi ac sy'n gobeithio dilyn 么l troed ei thad yn y gamp.

Mae Teleri Davies, 21 oed, wedi cael ei dewis i dderbyn 拢2,000 sy'n cael ei roi i gynorthwyo pobl ifanc addawol yn y byd chwaraeon.

Mae rhieni Robin Llyr Evans o Lanbedrog wedi neilltuo 拢250,000 fydd yn cael ei ddosbarthu dros gyfnod o 25 mlynedd i gynorthwyo unigolion dan 25 oed o siroedd Gwynedd a Chonwy sy'n dangos potensial ym maes chwaraeon.

Fe gafodd Ymddiriedolaeth Goffa Robin Llyr Evans ei lansio brynhawn Gwener yng Nghanolfan Hamdden Glaslyn ym Mhorthmadog

'Colled fawr'

Roedd Robin Llyr Evans yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Loughborough ac fel rhan o'i gwrs yn astudio peirianneg fecanyddol cafodd waith am flwyddyn yn teithio'r byd hefo cwmni Hawkeye Innovations.

Tra'n gweithio i'r cwmni mewn stadiwm denis yn China, cafodd ddamwain, a daeth gyrfa a fyddai wedi bod yn un hynod o ddisglair i ben.

Roedd ei deulu, Gareth a Menai Evans a'i frawd Guto yn credu ei bod hi'n briodol cofio amdano drwy helpu pobol ifanc eraill i ddatblygu eu gyrfa ym myd chwaraeon.

Ffynhonnell y llun, LLUN TEULU
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Robin Llyr Evans yn gyn gapten t卯m ieuenctid Pwllheli

Dywedodd Gareth Evans: "Yn naturiol, roedd hi'n golled fawr i ni pan gollo ni Robin.

"Roedde ni o hyd yn teimlo ein bod ni eisiau gwneud rhywbeth i gofio amdano cyn meddwl am elusen i gefnogi pobl ifanc dan 25 oed i ddatblygu yn y byd chwaraeon."

Mae Rygbi wedi bod yn rhan fawr o fywyd Teleri Davies ers yn ifanc. Yn 2007 cafodd ei thad, Brian 'Yogi' Davies ddamwain ddifrifol yn ystod ei g锚m olaf yn chwarae dros y Bala.

Ers marwolaeth ei thad yn 2013, mae Teleri wedi llwyddo i ennill cap rhyngwladol i Gymru ac yn parhau i chwarae i d卯m merched Caernarfon ac i Rygbi Gogledd Cymru (RGC).

Ar 么l derbyn galwad ff么n annisgwyl gan Gareth Evans, tad Robin, roedd Teleri mewn ychydig o "sioc" ond yn "hynod ddiolchgar" o'r swm fydd yn ei chynorthwyo i ddatblygu ei gyrfa rygbi.

"Mi fydd yr arian yn andros o help i mi gyda fy sesiynau ymarfer.

"Ma mynd i'r gym yn costio tua 拢30 y mis, a gan fy mod yn fyfyrwraig y gyfraith yng Nghaer, mi fydd yr arian yn golygu na fyddai'n gorfod poeni am y costau i deithio i Gaernarfon a Bae Colwyn i ymarfer," meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu farw Brian 'Yogi' Davies yn 2013 yn 56 oed

Mae wyth o bobol ifanc eisoes wedi derbyn arian ac wedi cytuno i fod yn llysgenhadon i hyrwyddo'r ymddiriedolaeth.

Yn 么l Teleri mae ei hagwedd tuag at rygbi wedi newid yn eithriadol ers i'w thad ddioddef anaf difrifol, newidiodd ei fywyd tra'n chwarae i d卯m rygbi'r Bala.

"Dywedais ar 么l damwain dad na fyddwn i byth yn chwarae rygbi eto, hynny er parch i mam fwyaf.

"Ar 么l ychydig fiseodd roeddwn eisiau ail gydiad ynddi, ac ar 么l trafod efo mam mi wnaeth hi gytuno, ond fe eglurodd hi y base hi byth yn dod i'm gwylio'n chwarae."

'Clywed llais dad'

Wedi sawl blwyddyn o chwarae i d卯m Caernarfon fe gafodd Teleri ei galw i garfan Cymru ar gyfer g锚m Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn erbyn yr Alban.

"Ar 么l cymaint o flynyddoedd o beidio dod i'm gwylio yn chwarae rygbi, roedd mam yno ym Mharc Eirias y noson honno.

"Er i dad frifo drwy chwarae rygbi, tydw i byth ofn pan dwi'n chwarae, ond mae fy nhad wastad gyda mi ar y cae, dwi'n clywed ei lais yn dweud wrthai beth i wneud yng nghefn fy mhen.

"Roedd yn fy hyfforddi pan oeddwn yn fengach a dwi wastad yn gofyn wrth fy hun pan dwi'n chwarae - be fasa dad yn ei wneud rwan?"

Mae'r gronfa yn agored i unrhyw un dan 25 oed, a bydd cyfle ddwywaith y flwyddyn i wneud cais am symiau o rhwng 拢200 a 拢2000.

Gobaith teulu Robin ydi y bydd y gronfa yn fodd nid yn unig i gofio amdano ond i fod yn symbyliad i bobl ifanc wireddu eu breuddwydon yn myd chwaraeon.