成人快手

Teleri Davies: "Mi fyddai Dad yn falch iawn ohona i"

  • Cyhoeddwyd

Enillodd Teleri Wyn Davies o'r Bala ei chap cyntaf yn chwarae rygbi merched dros Gymru, yng ng锚m agoriadol Pencampwriaeth y Chwe Gwlad nos Wener.

Fe fyddai ei thad, y diweddar Bryan 'Yogi' Davies, a fu farw yn 2013, chwe blynedd ar 么l torri ei wddf a chael ei barlysu wrth chwarae rygbi, wedi bod yn "falch iawn" ohoni, meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Teleri Wyn Davies yn siarad 芒'r wasg ar 么l y g锚m

"Roedd hi'n anrhydedd cael chwarae dros fy ngwlad, yn enwedig yma i fyny yn y gogledd," meddai Teleri am y g锚m gartref ym Mae Colwyn, lle enillodd Cymru o 18-17 yn erbyn Yr Alban.

Roedd Bryan 'Yogi' Davies yn hyfforddi plant a phobl ifanc Y Bala, cyn cael ei anafu'n ddifrifol - ac hynny wrth chwarae ei g锚m olaf i'r dref cyn ymddeol.

"Oedd 'na lot o deulu a ffrindia yno yn cefnogi fi [nos Wener], oedd o'n brofiad anhygoel. Oedd o mor overwhelming ac oedd cael ennill ar ben bob dim yn anhygoel.

"Oedd Mam ac Ilan fy mrawd, a'n ewythr yna yn gwylio fi, oeddan nhw'n falch iawn. Dwi'n meddwl bod y teulu 'di cael 'chydig o ddagrau yn fy ngweld i'n mynd ar y cae, oeddan nhw'n gwybod faint oedd o'n golygu i fi i gael y profiad.

"Wnes i ddechrau chwara' rygbi yn andros o ifanc, gan bod Dad yn hyfforddi plant lleol a wedyn o'dd o'n llusgo fi lawr efo fo i'r clwb rygbi, ro'n i'n hyfforddi gyda fy mrawd sy' ddwy flynedd yn h欧n na fi.

"Ges i gyfnod lle o'n i ddim yn chwarae, oherwydd oedd 'na ddim timau merched o gwmpas, wedyn ges i gychwyn chwara' efo Caernarfon o dan 16, ac oedd Mam yn mynd 芒 fi yr holl ffordd i Gaernarfon i hyfforddi.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Brian 'Yogi' Davies wedi ysbrydoli ei ferch Teleri i wneud ei marc ar y meysydd rygbi

"Wnes i ganolbwyntio lot ar hyfforddi pan o'n i ym Mlwyddyn 11, a sefydlu adran merched yng Nghlwb Rygbi Bala achos o'n i ddim yn gweld o'n deg bod merched ddim yn cael gymaint o gyfleoedd 芒'r hogia'.

"Yn ein hardal ni oeddan ni'n gorfod trafeilio awr a chwarter i gael hyfforddi, ac o'n i'n andros o lwcus bod Mam yn fodlon, ond o'n i mond yn gweld o'n deg bod genod lleol yn cael y cyfle.

'Cario ei enw fo ymlaen'

"Oedd o'n reit emosiynol nos Wener meddwl bo' fi wedi cyrraedd lle ydw i r诺an yn cynrychioli fy ngwlad.

"Bob un g锚m dwi'n chwarae dwi wastad yn meddwl am Dad gan mai fo sy' wedi cael fi mor bell a fo sy' wedi dysgu'r sgiliau a'r man cychwyn i fi.

"Dwi'n teimlo bod o'n ffordd i gario ei enw fo ymlaen, felly dwi'n gwybod y bysa fo'n falch iawn ohona i, er dwi'n si诺r y bysa fo ddim yn cyfadde' hynny i fy wyneb i chwaith!

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Teleri Davies

"Oedd o wastad yn dweud wrtha i, os ti isho gwneud rhywbeth i'w wneud o'n iawn, ti angen gweithio yn galed amdano fo, a dyna dwi wedi 'neud. Roedd o'n dweud 'Teleri, mae wastad lle i wella' felly dyna sut ydw i dal i fod heddiw, be' bynnag dwi'n 'neud dwi wastad yn gwybod bod 'na ffordd i wella.

"Dwi'n trio ngorau yn bob dim dwi'n 'neud ac os ti isho rhywbeth mewn bywyd rhaid i ti fynd allan i weithio yn galed amdano fo."

Hefyd o ddiddordeb: