Lluniau gig Geraint Jarman: Steddfod yn y Ddinas

Roedd hi'n noson arbennig yng Nghanolfan y Mileniwm nos Fawrth (7 Awst) wrth i Geraint Jarman ddiddanu'r gynulleidfa ar brif lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol.

Ar y llwyfan hefyd roedd Band Pres Llareggub gyda Lisa J锚n a cherddorfa Welsh Pops Orchestra. Dyma rai o'r golygfeydd o'r llwyfan a'r paratoadau cyn y cyngerdd.

Disgrifiad o'r llun, Band Pres Llareggub yn paratoi'r offerynnau a'r gwisgoedd cyn y perfformiad
Disgrifiad o'r llun, Nid band pres cyffredin mo Band Llareggub
Disgrifiad o'r llun, A dydi eu hofferynnau ddim yn rhai cyffredin chwaith!
Disgrifiad o'r llun, Dyma'r drydedd flwyddyn i Huw Stephens gyflwyno Gig y Pafiliwn yn yr Eisteddfod
Disgrifiad o'r llun, Emyr Glyn Williams o label Ankstmusik a Geraint Jarman cyn y perfformiad
Disgrifiad o'r llun, Gethin Evans o Fand Pres Llareggub gefn llwyfan
Disgrifiad o'r llun, Prif leisydd y band 9Bach, Lisa J锚n, gefn llwyfan cyn canu ambell g芒n gyda Band Pres Llareggub
Disgrifiad o'r llun, Lisa Gwilym gyda'r cerddor o Lanuwchllyn, Osian Huw Williams, a oedd yn gyfrifol am drefnu'r gerddoriaeth ar gyfer y gerddorfa
Disgrifiad o'r llun, Lisa Jarman, merch Geraint, yn paratoi - mae hi'n un o leisiau cefndir y band
Disgrifiad o'r llun, Welsh Pops Orchestra yn barod i fynd
Disgrifiad o'r llun, Geraint Jarman
Disgrifiad o'r llun, Geraint Jarman yn ei elfen a'r gynulleidfa yn mwynhau set yn llawn clasuron
Disgrifiad o'r llun, Ar eu traed! Y gynulleidfa yn sefyll ar ddiwedd set Geraint Jarman

Efallai o ddiddordeb: