成人快手

Lluniau: Cofio Cymru yn yr 80au

  • Cyhoeddwyd

Rhwng 1984 a 1990 bu 10 o ffotograffwyr, yn cynnwys David Bailey a Paul Reas, yn cofnodi bywyd a thirwedd cymoedd y de yn ystod cyfnod o newid mawr.

, a sefydlwyd yn 1978, oedd yn gyfrifol am y prosiect, ac i ddathlu eu pen-blwydd eleni maen nhw'n cynnal arddangosfa er mwyn adrodd hanes y sefydliad dros y 40 mlynedd ddiwethaf.

Dyma rhai o'r delweddau trawiadol sy'n cofnodi'r 80au yn y cymoedd:

Mike Berry

Ffynhonnell y llun, Mike Berry, Ffotogallery
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu Mike Berry yn tynnu lluniau ym mhentref Glyncorrwg yng Nghwm Afan yn 1985 (ddim ymhell o Gastell-nedd).

Ffynhonnell y llun, Mike Berry, Ffotogallery
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Tom Leyshon yn gwylio Margaret Thatcher ar y newyddion yn 1985. Roedd Prif Weinidog y DU yn amlwg iawn yn y wasg a'r cyfryngau yng nghanol yr 80au, yn enwedig yn ystod Streic y Glowyr.

Ffynhonnell y llun, Mike Berry, Ffotogallery
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Glyncorrwg, 1985.

David Bailey

Ffynhonnell y llun, David Bailey, Ffotogallery
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Glofa Lewis Merthyr, Trehafod yng Nghwm Rhondda, oedd wedi cau dwy flynedd yn gynharach yn 1983. Dyma gyfnod o newid mawr yn yr ardal wrth i nifer o byllau glo gau.

Ffynhonnell y llun, David Bailey, Ffotogallery
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd y prosiect yn cynnig her o fath gwahanol i David Bailey, sy'n enwog am ei luniau o s锚r rhyngwladol ac eiconau'r byd ffasiwn.

Francesca Odell

Ffynhonnell y llun, Francesca Odell, Ffotogallery
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Pentref glofaol Glifach Goch yng Nghwm Ogwr Fach yn 1985.

Ffynhonnell y llun, Francesca Odell, Ffotogallery
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Si芒n a'i mam yn Nhonypandy, Rhondda Fawr, yng Ngorffennaf 1985.

Ffynhonnell y llun, Francesca Odell, Ffotogallery
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Plant yn chwarae mewn ystafell wely ar st芒d Gurnos, Merthyr Tudful, Rhagfyr 1985.

John Davies

Ffynhonnell y llun, John Davies, Ffotogallery
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu John Davies yn tynnu lluniau o Gwm Rhymni. Mae graffiti 'Duran Duran' ar y creigiau yma yn Ystrad Mynach yn adlewyrchu poblogrwydd y gr诺p pop yn 1984.

Ron McCormick

Ffynhonnell y llun, Ron McCormick, Ffotogallery
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Pentref Llanhiledd ym Mlaenau Gwent. Mae Neuadd y Gweithwyr ar y dde - sefydliad pwysig yn niwylliant glofaol y de.

Paul Reas

Ffynhonnell y llun, Paul Reas, Ffotogallery
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd gwaith Paul Reas yn edrych ar effaith technoleg newydd ar gymunedau a gweithfeydd yn ne Cymru yn ystod y cyfnod.

Ffynhonnell y llun, Paul Reas, Ffotogallery
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'n syndod mai yn yr 1980au y tynnwyd y llun yma - delwedd drawiadol sy'n dangos yn glir pa mor gorfforol oedd gwaith yn y diwydiant glo.

Peter Fraser

Ffynhonnell y llun, Peter Fraser, Ffotogallery
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Peter Fraser ei fagu yn y cymoedd ac, yn 1985, bu'n tynnu lluniau o leoliadau cyfarwydd ei blentyndod, fel y parc yma ym Mhontypridd.

Roger Tiley

Ffynhonnell y llun, Roger Tiley, Ffotogallery
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y nos yn cau ar Lofa Lewis Merthyr, Trehafod. Erbyn heddiw, dyma leoliad amgueddfa Parc Treftadaeth y Rhondda.

William Tsui

Ffynhonnell y llun, William Tsui, Ffotogallery
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd gwaith William Tsui yn canolbwyntio ar bentrefi Abergwynfi a Blaengwynfi yng Nghwm Afan. Bu'n tynnu lluniau o'r trigolion lleol yn eu cartrefi a'u gwaith, fel y llun yma o Ann Williams tu 么l i far.

Ffynhonnell y llun, William Tsui, Ffotogallery
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mrs Little a Mrs Evans.

Wally Waygood

Ffynhonnell y llun, Wally Waygood, Ffotogallery
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 1936 daeth y Brenin Edward VIII i Ferthyr Tudful a datgan bod 'rhywbeth yn mynd i ddigwydd' i helpu'r bobl oedd yn ddi-waith. Mae'r ddelwedd o l枚wr wrth y geiriau 'Something will be done', o 1989, yn gofeb i'r foment honno.

Mae'r , sy'n gasgliad o bosteri arddangosfeydd Ffotogallery yn ystod y 40 mlynedd ddiwethaf, i'w gweld yn Oriel Turner House ym Mhenarth tan 4 Awst 2018.

Mwy o orielau lluniau ar Cymru Fyw: