成人快手

Sychder yn datgelu rhai o olion Capel Celyn

  • Cyhoeddwyd
Arwydd Garnedd LwydFfynhonnell y llun, Mabon ap Gwynfor

Ymysg yr olion sydd wedi dod i'r golwg yn y tywydd sych mae arwydd ag arno enw un o'r tai a foddwyd yng Nghapel Celyn i greu cronfa dd诺r Llyn Celyn ger y Bala.

Wrth ar lannau sych y llyn sylwodd Mabon ap Gwynfor ar arwydd ffermdy Garnedd Lwyd wedi ei folltio ar graig a'i olchi gan flynyddoedd o dd诺r Tryweryn.

"O'r holl bethau oedd i'w gweld, y Garnedd Lwyd oedd y tristaf," meddai Mabon ap Gwynfor.

"Roedd yr arwydd yn dod 芒'r holl beth yn fwy byw rywfodd.

"Hefyd oddi tan y garreg honno roedd yna lechi mawr - llawr y t欧 neu sied mae'n si诺r.

"Roedd y cyfan yn creu'r argraff o fedd, oedd yn teimlo'n addas iawn rhyw ffordd."

Roedd Garnedd Lwyd yn un o 12 fferm a foddwyd gyda'r pentref yn 1965 pan gr毛wyd y gronfa dd诺r ar gyfer dinas Lerpwl, ac effeithiwyd ar diroedd pedair fferm arall.

Mr John William Evans a Mrs Mabel Evans oedd yn byw yno ac mae yng nghasgliad enwog Geoff Charles o ddyddiau olaf Capel Celyn.

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mr a Mrs Evans yn gwagu a gadael y Garnedd Lwyd am y tro olaf

Cafodd Mr a Mrs Evans eu lladd mewn damwain car ger Cerrigydrudion yn fuan wedi i'r lluniau gael eu tynnu.

Ond nid arwydd gwreiddiol yr hen ffermdy yw'r plac.

Mae yn dangos ei fod yn un o nifer a osodwyd ar safle'r hen dai yn ystod haf sych 1989 pan ostyngodd lefel y d诺r yn y llyn i ddatgelu olion y pentref, gan gynnwys y bont a lleoliad yr hen fynwent.

Gwnaed y cais i D诺r Cymru am y placiau bryd hyn gan y cynghorydd lleol, Elwyn Edwards fel bod pobl yn gallu gweld lle roedd yr hen dai.

Ffynhonnell y llun, Mabon ap Gwynfor
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gosodwyd y plac yn 1989 i ddangos lleoliad y ffermdy

Cyhoeddodd Corfforaeth Lerpwl ei bod am adeiladu cronfa dd诺r newydd yng Nghwm Tryweryn ar gyfer y ddinas yn 1955.

Er y protestiadau a gwrthwynebiad gwleidyddion ac aelodau seneddol Cymru cafodd mesur ei basio yn y senedd yn 1957 i foddi pentref Capel Celyn a dechreuodd y gwaith yn 1958.

Roedd y gwaith wedi ei orffen yn 1965. Yn ogystal 芒'r ffermydd boddwyd 800 erw o dir y cwm, yr ysgol, llythyrdy, capel a'r fynwent i greu'r gronfa.

Yn 1989 doedd D诺r Cymru ddim yn gwybod pryd y byddai'r placiau'n dod i'r golwg eto.

Os yw d诺r y llyn yn gostwng ymhellach gyda'r tywydd sych, tybed pa olion eraill ddaw i'r golwg?

Hefyd o ddiddordeb: