成人快手

Ateb y Galw: Yr awdur Llwyd Owen

  • Cyhoeddwyd
Llwyd OwenFfynhonnell y llun, Elian Owen

Yr awdur, Llwyd Owen, sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma, wedi iddo gael ei enwebu gan Rufus Mufasa yr wythnos diwetha'.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Gwylio Bagpuss a bod yn ofnus iawn o Professor Yaffle (y cnocell y coed).

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Bungle. Michaela Strachan. Jeifin Jenkins. Ddim o reidrwydd yn y drefn yna.

Ffynhonnell y llun, Antena
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Jiw Jiw Jeifin Jenkins!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Anghofio troi lan i ddigwyddiad a drefnwyd i hyrwyddo un o fy nofelau. Ro'n i'n gwylio Greg Davies, y digrifwr, yn Neuadd Dewi Sant ar y pryd, a llond stafell o bobl yn aros amdanaf yng Nghanolfan y Mileniwm. Disgr锚s!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?

Fi'n crio fel babi ar y pethau mwyaf dibwys - fideos twymgalon ar Twitter, ffilmiau plant, hysbysebion.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Rhegi fel b*.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Bryncelyn, cartref fy niweddar mam-gu a dad-cu. Bwthyn hudolus yng nghefn gwlad Ceredigion a chist llawn atgofion melys o fy mhlentyndod.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

31 Mawrth 1993: Y noson y collais fy nghwyfyrdod a'r noson sgoriodd Ryan Giggs ac Ian Rush g么l yr un i guro Gwlad Belg yn y stadiwm cenedlaethol.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Nid Ian Rush a Ryan Giggs oedd yr unig rai a sgoriodd ar y noson dyngedfennol honno ym mis Mawrth 1994...

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Ffyddlon. Gweithgar. Hoffus.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Hoff lyfrau: Rifiera Reu (Dewi Prysor); Y D诺r (Lloyd Jones); Sheepshagger (Niall Griffiths); Cardiff Cut (Lloyd Robson); The Winter of Frankie Machine (Don Winslow); Transition (Iain Banks).

Hoff ffilmiau: The Big Lebowski, Chopper, Twin Town, Frank, Get Out, Before the Devil Knows You're Dead, Bill & Ted's Excellent Adventure.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Mam. Achos nath hi farw yn llawer rhy ifanc.

O Archif Ateb y Galw:

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Mae gen i bump tat诺. Dau ar fy mraich chwith a thri ar fy m诺bs!

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Yfed. Smocio. Canu. Caru.

Beth yw dy hoff g芒n a pham?

The Most Beautiful Girl in the Room gan Flight of the Conchords. Dyma 'g芒n' fi a fy ngwraig, Lisa.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Llwyd, fel llawer ohonom ni, yn ffan o'r ffilm eiconig o Abertawe, Twin Town

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Cwrs cyntaf - corgimychiaid mewn tsili a choriander.

Prif gwrs - cyrri paneer, madarch, ffacbys ac ysbigoglys.

Pwdin - tarte au citron.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Jacob Rees-Mogg, er mwyn gallu trosglwyddo ei ffortiwn i fy nghyfrif banc personol a'i adael e heb yr un geiniog.

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Esyllt Sears