成人快手

'Enwau Cymraeg llefydd mewn perygl o ddiflannu'

  • Cyhoeddwyd
Tudur Owen
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Tudur Owen ym Mhorth Trecastell - neu 'Cable Bay' yn Saesneg

Mae'r enwau mwyaf dyfeisgar sydd wedi eu rhoi ar lefydd yng Nghymru, a'r straeon tu 么l iddyn nhw, mewn perygl o ddiflannu am byth.

Dyna mae'r digrifwr a'r cyflwynydd Tudur Owen yn ei rybuddio mewn eitem fer i raglen Wales Live nos Fercher, 13 Mehefin.

Fe ddylen ni ymfalch茂o yn yr enwau yma, meddai, a pheidio mabwysiadu enwau Saesneg am fod pobl yn cael trafferth ynganu'r fersiynau Cymraeg.

"Dwi ddim yn meddwl y ddylia ni orfodi pobl i ddefnyddio enwau Cymraeg llefydd - mae'n rhaid iddo fo fod yn ddewis," meddai.

"Ond y peth lleia' fedrwn ni ei wneud ydy gwneud hwnnw'n ddewis gwybodus."

Mae'r arferiad yma'n cael gwared ar yr iaith Gymraeg "un enw lle ar y tro" ac mae'n awgrymu bod y cyfieithiadau yn rhai di-ddychymyg - Llyn Bochlwyd (Lake Australia), Cwm Cneifion (The Nameless Cwm), a Foel Fawr (Jam Pot Hill).

I ddyfynnu Winston Churchill...

"Dywedwch wrth bobl fod gan bob cae, pob ogof, pob afon, pob ffermdy enw a stori," meddai Tudur.

"Os ydan ni'n dewis peidio defnyddio'r enwau yma yna mi fyddan ni wedi'u colli nhw, a hynny am byth.

"Dydw i ddim yn dyfynnu Winston Churchill yn aml iawn os alla i helpu'r peth, ond mi oedd o'n iawn pan ddy'dodd o: 'A nation which forgets its past has no future'.

"Mae'n gorffennol ni, ein stori ni, yn un o'r rhai gorau gafodd ei hadrodd erioed."

Wales Live, 成人快手 One Wales, 22:30, dydd Mercher, 13 Mehefin.