成人快手

Ateb y Galw: Tudur Owen

  • Cyhoeddwyd
"Mae'r Cymru Fyw 'na yn gofyn cwestiynau anodd i fi!"
Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Mae'r Cymru Fyw 'na yn gofyn cwestiynau anodd i fi!"

Mae Tudur Owen wedi ateb yr alwad! Mae'r digrifwr a'r cyflwynydd wedi ateb nifer o gwestiynau y mae Cymru Fyw wedi eu gofyn iddo.

Mi wnewch chi ddysgu mwy am y g诺r o F么n ac mi gewch chi wybod pwy mae Tudur wedi ei ddewis i dderbyn yr her wythnos nesa':

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Edrych ar fy nhraed a meddwl 'mod i'n licio fy sgidia newydd yn fawr iawn.

Pwy oeddat ti'n ffansio pan yn ieuengach?

Agnetha (yr un gwallt melyn) yn ABBA a Lyndsey Wagner (Bionic Woman).

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Agnetha o ABBA - y 'Dancing Queen' gwreddiol?

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnatti erioed?

Chwerthin tra'n darllen mewn gwasanaeth ysgol a llwyth o snot yn hedfan allan o fy nhrwyn.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Fyddai'n crio o leiaf unwaith bob diwrnod.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Dweud celwydd.

Dy hoff ddinas yn y byd?

Llundain.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Y noson gynta' i mi berfformio yn y Comedy Store yn Llundain - gwireddu breuddwyd.

Ffynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o鈥檙 llun,

The Comedy Store yn hoff ddinas Tudur, Llundain

Oes gen ti 诲补迟诺?

Na.

Beth yw dy hoff lyfr?

Catch 22.

Pa ddilledyn fyddetti'n methu byw hebddo?

Fy Converses. Hanfodol i gomed茂wr canol oed sy'n smalio'i fod o'n ifanc.

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welais di?

'Divergent' hefo fy merch. Oedd o'n well na nes i feddwl.

Ffynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Golygfa o 'Divergent' - "Na! Dwi'm isio mynd i gig Tudur Owen!"

Dy hoff albwm?

Queen - A Day At The Races.

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin- pa un ydi dy ffefryn?

Prif gwrs - ac mae'n rhaid fod 'na gig ynddo fo.

Pa un sydd orau, gyrru neges tecst neu ffonio?

Ffonio ffrind - tecstio teulu.

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Huw Edwards a chael rant ar newyddion 10 am y byd a'i broblemau.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dydi Huw Edwards ddim wedi ei argyhoeddi y byddai'n syniad da i Tudur ddarllen y newyddion!

Pwy fydd yn Ateb y Galw wythnos nesa'?

Rhys Meirion. Pob lwc Rhys. Mi fydd ei angen o arnat ti!