成人快手

Britain's Got Talent: Seren Aur i Gruff Roberts o Amlwch

  • Cyhoeddwyd
Gruff RobertsFfynhonnell y llun, ITV

Mae canwr ifanc o Ynys M么n wedi sicrhau ei le yn rownd gynderfynol y rhaglen Britain's Got Talent ar 么l ennill 'Golden Buzzer' gan un o'r beirniaid.

Roedd Gruffydd Wyn Roberts, 22 oed, o Amlwch yn perfformio aria enwog Giacomo Puccini, Nessun Dorma, allan o'r opera Turandot ar y rhaglen nos Sadwrn.

Fel arfer, mae'n rhaid i gystadleuydd sicrhau pleidlais mwyafrif o'r beirniaid, ond mae gan bob un o'r beirniaid bleidlais euraidd yr un, y 'Golden Buzzer'- sy'n gwarantu i'w hoff gystadleuydd yn y gyfres fynd syth ymlaen i'r rownd gyn derfynol.

Un o'r beirniaid yw'r actores Amanda Holden, ac roedd wedi ei gwefreiddio gan berfformiad Gruffydd, ac felly fe roddodd ei phleidlais aur i'r g诺r ifanc o F么n.

Disgrifiad,

Mae Gruffydd Roberts yn gyn-aelod o G么r Ieuenctid M么n

Dywedodd Gruffydd, sy'n gweithio fel swyddog blaen t欧 yng Nghanolfan Pontio ym Mangor, wrth Cymru Fyw ei fod yn "edrych ymlaen yn arw iawn at gael mynd ymlaen i'r rownd nesaf yn y gystadleuaeth.

"Mae'r ffrindiau a theulu yn Amlwch wedi bod yn gefnogol iawn i'r hyn dwi wedi bod yn neud hyd yma, a dwi'n gobeithio y bydda nhw i gyd yn pleidleisio amdanai yn y rowndiau cyn-derfynol.

"Dwi'n edrych ymlaen at roi Cymru ac Amlwch ar y map gobeithio," ychwanegodd.

Fe fydd Gruffydd, sy'n gyn-ddisgybl yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch, a Choleg y Drindod Caerfyrddin yn dychwelyd i Lundain yn ystod yr wythnosau nesaf i berfformio yn y rownd gynderfynol.