成人快手

Cynlluniau i daclo cwymp pysgod wedi'u gohirio tan 2019

  • Cyhoeddwyd
Pysgodyn yn yr afon
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn dweud bod yn rhaid taclo'r stociau isel o eog a brithyll yn afonydd Cymru

Mae cynigion Cyfoeth Naturiol Cymru, sy'n cynnwys gorfodi pysgotwyr i ryddhau pysgod yn 么l i'r d诺r, wedi eu gohirio tan 2019.

Osgoi creu ansicrwydd i'r diwydiant yw'r rheswm mae'r corff amgylcheddol wedi ei roi gan ddweud bod y gweithdrefnau er mwyn cyflwyno'r is-ddeddfau newydd yn broses hir.

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn ystyried yr is-ddeddfau pysgota newydd.

Dywedodd Dave Mee, Uwch-ymgynghorydd Pysgodfeydd CNC: "Ar hyn o bryd, mae'r amserlen ar gyfer penderfynu yn ansicr, felly rydym yn cynnig y dylid gohirio cyflwyno unrhyw fesurau newydd nes dechrau tymor pysgota 芒 gwialen a rhwydi 2019.

"Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn egluro'r sefyllfa i enweirwyr, rhwydwyr, perchnogion pysgodfeydd a chlybiau a chymdeithasau."

Pan gafodd y cynigion eu cyhoeddi roedd gwrthwynebiad ymhlith pysgotwyr oedd yn dweud eu bod yn cael eu cosbi'n annheg, a'r Ymddiriedolaeth Bysgota yn dweud mai'r broblem wirioneddol yw llygredd amaethyddol.

Atal y lleihad

Y rheswm am eu cyflwyno meddai CNC yw ceisio atal y cwymp mewn niferoedd eog a brithyll yn afonydd Cymru, ac maen nhw'n rhybuddio bod stociau eog mewn "sefyllfa beryglus".

Ymhlith y cynigion eraill mae uchafswm ar faint o bysgod sy'n cael eu dal, a chyfyngu ar y math o abwyd sy'n cael ei ddefnyddio.

Er y gwrthwynebiad gan rai, dywed y corff amgylcheddol bod angen eu cyflwyno.

Ffynhonnell y llun, Cyfoeth Naturiol Cymru

Meddai Peter Gough, Prif Ymgynghorydd Pysgodfeydd CNC: "Mae'r oedi yma'n ateb pragmataidd ar gyfer datrys yr ansicrwydd sy'n bodoli ar hyn o bryd.

"Serch hynny, mae'n bwysig nodi nad yw hyn yn golygu y bydd trafodaeth bellach ar y pwnc am fod CNC wedi dod i benderfyniad, ac mae'r achos am gyfyngiadau pellach wedi cael ei wneud a'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru ac yn parhau heb ei newid.

"Mae gwarchod adnoddau bridio'r pysgod rhyfeddol hyn yn rhan sylfaenol o'n gwaith o reoli'r adnodd naturiol pwysig hwn mewn modd cynaliadwy."