成人快手

Ceri Wyn Jones sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma

  • Cyhoeddwyd
Ceri Wyn Jones

Y Prifardd a Meuryn Talwrn y Beirdd, Ceri Wyn Jones sy'n Ateb y Galw yr wythnos hon, wedi iddo gael ei enwebu gan Llinor ap Gwynedd wythnos diwetha'.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Fy mrawd yn gollwng bricsen goch ar fy mhen yn yr ardd gefn yn Y Rhos, Aberteifi.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Purdey, cymeriad Joanna Lumley ar The New Avengers.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Mae gen i gof mynd gyda 'mrawd yn blentyn i'r Band of Hope yng Nghapel Mair, yn 么l ein harfer ar nos Fawrth, ond wedi mynd mewn i'r festri, sylweddoli'n raddol nad oedden ni'n nabod yr un enaid byw yno, ac nad oedd y Band of Hope yn cyfarfod y noson honno wedi'r cwbwl.

Bu rhaid i ni eistedd o flaen criw dieithr o blant a phobol ifainc am awr gyfan, tra'n bod ni'n aros i'n rhieni ddod 'n么l i'n casglu ni. Nid cywilydd yn gwmws ond embaras llwyr!

O Archif Ateb y Galw:

Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?

Dwi'n gorfod ymladd deigryn yn amlach nag sy'n gweddu i gyn-chwaraewr rygbi, mae'n si诺r.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Oes, diolch. Gweler y rhestr hirfaith yn yr atodiad a baratowyd gan Catrin, fy ngwraig...

[Ni dderbyniodd Cymru Fyw yr atodiad - efallai fod y rhestr yn rhy hir i gael ei anfon? - gol.]

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Aber Afon Teifi mewn man a elwir yn Patch, ond sy'n dwyn yr enw Pen yr Ergyd ar rai mapiau. Mae'r llanw a'r trai - a'r tywydd a'r tymhorau - yn sicrhau bod yr olygfa yno yn newid o hyd. Ond yr un man yw e, ni waeth beth. Dyma'r man dwi'n hoff o jiengyd iddo.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Patch yn brydferth ym mhob tywydd

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Yn y Pentre Arms, Llangrannog, drannoeth diwrnod ein priodas: rhyw ddathliad bach ychwanegol ac annisgwyl gyda chriw bach o ffrindie, 'cymundeb wedi'r cwrdd', chwedl Dafydd Rowlands.

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Amyneddgar, diamynedd ac ymroddedig.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Dwi fawr o foi ffilm, a dweud y gwir - dyna pam taw Zulu yw'r ateb. Llyfr? Gulliver's Travels yn Saesneg a Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi 1976 yn Gymraeg.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Alan Llwyd enillodd y Goron a'r Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol 1976. Awdl Dic Jones oedd dewis cyntaf y beirniaid i ennill y Gadair, ond cafodd ei wahardd gan ei fod yn aelod o'r pwyllgor ll锚n. Mae'r ddwy awdl yn ymddangos yn y Cyhoeddiadau.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Carwyn James. Roeddwn wrth fy modd yn gwrando arno ar y teledu a'r radio slawer dydd yn dadansoddi gemau rygbi. Yn hwyrach, des i wybod hefyd am ei ddysg a'i ddiwylliant. Byddai gallu trafod llenyddiaeth, Llanelli a'r Llewod yn yr un sgwrs yn brofiad braf.

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod

Rwy'n ffanatig DIY.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Cyfaddef fod fy ateb i'r cwestiwn blaenorol yn gelwydd noeth.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae gw锚n ar wyneb Ceri yn aml (yn enwedig ar 么l iddo ennill Cadair eisteddfodol!)

Beth yw dy hoff g芒n a pham?

Mae honno'n altro'n wythnosol. Wythnos dwetha' (wythnos Steddfod gylch yr Urdd), Fi 'Di'r Deinosor oedd hi. Yr wythnos flaenorol, aria gwely angau Rodrigo allan o Don Carlos ydoedd (a Dmitri Hvorostovsky neu Gwyn Morris yn ei chanu). A'r wythnos hon, You'll Never Walk Alone yw hi (dwi'n gefnogwr brwd o d卯m p锚l-droed Lerpwl ers o'wn i'n chwech oed).

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Cawl Mam. Chilli Catrin. A phwdin yr un mor ddiplomataidd. (Ond bwyd Indiaidd yw'r ffefryn go iawn!)

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Arbenigwr DIY.

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Neil Rosser