成人快手

Clwb Ifor Bach yn ceisio atal towtiaid drwy docyn digidol

  • Cyhoeddwyd
Clwb ifor bach

Mae clwb nos yng Nghaerdydd yn dechrau system newydd o werthu tocynnau i geisio atal rhai sy'n gwerthu tocynnau ymlaen am lawer mwy na'u gwerth gwreiddiol.

Bydd tocynnau digidol ar gyfer gigs a chyngherddau yng Nghlwb Ifor Bach ar gael drwy ap neu ar eu gwefan yn unig.

Drwy ddefnyddio ap DICE, mae modd i gwsmeriaid brynu tocyn ar-lein, a does dim modd ei werthu ymlaen i berson arall na chwaith i dowtiaid.

Yn 么l Prif Weithredwr Clwb Ifor Bach, Guto Brychan, tocynnau technolegol yw "dyfodol y diwydiant cerddoriaeth".

'Cynulleidfa darged'

Ychwanegodd: "Mae lot o bobl yn prynu o'i ffonau a dani'n ceisio hwyluso'r broses i bobl. Mae lot o'r gigs yn gwerthu mas yn gyflym.

"Os yw rhywun methu mynd i'r gig yna mae system rhestr aros ble allai'r person nesaf gael cyfle i brynu'r tocyn.

"Dydy system fel hyn ddim yn creu secondary marketing ac mae'n apelio at ein cynulleidfa darged ni."

Ffynhonnell y llun, Empics
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l Prif Weithredwr Clwb Ifor Bach, Guto Brychan, tocynnau technolegol yw "dyfodol y diwydiant cerddoriaeth"

Mae'r math yma o werthu tocynnau yn boblogaidd iawn mewn sefydliadau yn Llundain ac yn America.

Dywedodd Pennaeth cerddoriaeth cwmni DICE, Russ Tannen eu bod yn "benderfynol o roi profiad y cefnogwr yn gyntaf a chadw towtiaid allan".

Ychwanegodd Guto Brychan: "Roeddem eisiau dod o hyd i ffordd rwydd i bobl brynu tocynnau a drwy ddefnyddio'r system bydd awgrymiadau yn cael eu gwneud i bobl o ran gigs eraill allai fod o ddiddordeb iddyn nhw."