Beirniadu agwedd Carchar Abertawe at garcharorion bregus
- Cyhoeddwyd
Mae Carchar Abertawe wedi ei feirniadu'n hallt am ei agwedd tuag at garcharorion bregus.
Yn 么l adroddiad gan Arolygiaeth Carchardai Ei Mawrhydi, does dim digon wedi ei wneud i ddelio 芒 lefelau uchel o hunan-niweidio a hunanladdiad o fewn y tair blynedd ddiwethaf.
Ers 2014, mae pedwar carcharor wedi lladd eu hunain yng Ngharchar Abertawe, ac mae'r niferoedd sy'n niweidio eu hunain wedi treblu.
Mae Prif Weithredwr Carchardai a Gwasanaethau Prawf Ei Mawrhydi'n dweud bod rheolwr y carchar wedi "cryfhau trefniadau diogelwch".
22 awr mewn cell
Mae'r adroddiad hefyd yn dweud bod y carchar wedi dechrau rhoi swyddogion i oruchwilio waliau'r safle, er mwyn ceisio atal cyffuriau a ffonau symudol rhag cael eu taflu mewn i'r carchar.
Pryder arall sydd wedi codi yw bod rhai carcharorion yn treulio 22 awr y dydd mewn cell - ac mae'r nifer sy'n ymwneud 芒 gweithgareddau dysgu a hyfforddiant yn isel.
Dywedodd Gwasanaeth y Carchardai a'r Gwasanaeth Prawf bod gwelliannau wedi dechrau cael eu cyflwyno'n barod.
Dywedodd Prif Arolygydd y Carchardai, Peter Clarke, fod yr arolwg ym mis Awst 2017 yn "hynod siomedig".
"Rhwng ein harolwg diwethaf yn 2014 a phan aethon yn 么l y llynedd, roedd yna bedwaredd farwolaeth bellach wedi bod - pob un dan amgylchiadau tebyg, a phob un yn fuan wedi i'r unigolyn gael ei garcharu yng ngharchar Abertawe," meddai.
"Yn syml, does dim digon wedi ei wneud i ddeall pa fath o broblemau maen nhw'n eu hwynebu er mwyn eu hatal rhag niweidio'u hunain neu ladd eu hunain."
Yn y chwe mis cyn yr arolwg diweddaraf, roedd 134 o achosion o hunan-niweidio, ffigwr, medd Mr Clarke, oedd yn "gwbl annerbyniol".
Camau
Ychwanegodd, serch hynny, fod gan bennaeth y carchar nifer o gynlluniau i wella'r sefyllfa a bod pethau wedi datblygu.
Dywedodd Prif Weithredwr Carchardai a Gwasanaethau Prawf Ei Mawrhydi, Michael Spurr: "Mae'r pennaeth a'i d卯m wedi cymryd camau yn syth ers yr arolwg i gryfhau trefniadau diogelwch yn y carchar ac i leihau hunan-niweidio.
"Mae hyn yn cynnwys gwaith i wella'r lefel o ofal a chefnogaeth sy'n cael ei gynnig i garcharorion newydd yn y ganolfan noson gyntaf."
Ar raglen y Post Cyntaf ar 成人快手 Radio Cymru, dywedodd Aelod Cynulliad Gorllewin De Cymru, Dai Lloyd, bod carcharorion yn dioddef o amrywiaeth o broblemau, fel problemau iechyd meddwl, cyffuriau ac alcohol, a thrais: "Rhaid cofio, mae rhai pobl wedi gorfod diodde'r plentyndod a magwraeth mwyaf erchyll, ac mae'n cael ei drosglwyddo'n aml wedyn i fod yn droseddu yn nes ymlaen.
"Y dystiolaeth ydy, o fewn y carchar yma, dy' nhw ddim yn delio'n ddigonol a'r problemau yma.
"Mae 'na feirniadaeth ynghylch sut mae'r staff yn mynd i'r afael a'r carcharorion bregus yma."
'Datganoli'
Mynnodd Mr Lloyd y byddai modd rheoli'r sefyllfa yn well yn Abertawe, petai carchardai'n cael eu datganoli: "Yn y pendraw, yr angen yma i atal aildroseddu yw'r bwgan mawr, ac mae'n anodd cydlynu gwasanaethau fel y mae hi ar hyn o bryd, achos dydy carchardai ddim wedi cael eu datganoli.
"Ond mae nifer o'r gwasanaethau mae'n carcharorion ni'n dibynnu arnyn nhw i fynd allan a bod yn llwyddiant yn y byd wedi eu hamser nhw yng ngharchar Abertawe, wedi datganoli, megis gwasanaethau tai, gwasanaethau iechyd meddwl, hyfforddiant am swyddi ac ati, ac mae'n anodd iawn i gael y cydlynu yna i atal aildroseddu wedi hynny.
"Dwi'n credu y dylen ni fod yn datganoli carchardai. Fe ddylen ni ddechrau drwy ddatganoli'r heddlu i Gymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2014