'Tystiolaeth' o gam-drin rhyw gan fynach ar Ynys B欧r
- Cyhoeddwyd
Mae tystiolaeth wedi dod i law 成人快手 Cymru sy'n dangos bod honiadau o gam-drin rhyw gan y Tad Thaddeus Kotik ar Ynys B欧r wedi ei adrodd yn 1990.
Er i honiadau o'r fath ddod i'r amlwg drwy lythyr gan y Brawd Robert O'Brien ar ddechrau'r 90au, ni chafodd hyn ei adrodd i'r heddlu ar y pryd.
Daw'r dystiolaeth wedi i newyddiadurwr sy'n ymchwilio i honiadau o gam-drin rhyw ar Ynys B欧r yn y 70au a'r 80au ddweud wrth 成人快手 Cymru ei bod hi'n poeni bod nifer fawr o blant wedi dioddef.
Dywedodd Amanda Gearing wrth 成人快手 Cymru fod cyn-fynach wedi ymosod ar blant tra'n cerdded ar yr ynys oddi ar arfordir Sir Benfro.
Ymchwiliad heddlu
Fe wnaeth y Brawd O'Brien gydnabod y gamdriniaeth gan ddweud ei fod wedi rhybuddio Kotic am y "gosb eithriadol" o ganlyniad.
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi dweud eu bod wedi derbyn adroddiadau o'r gamdriniaeth gan Kotik yn 2014 ac yn 2016.
Er i'r heddlu ymchwilio i'r honiadau, doedd dim modd erlyn Kotic gan iddo farw yn 1992.
Dywedodd y llythyr: "Mae ymddygiad y Tad Thaddeus Kotic yn ofid mawr i mi ac fe roddais bryd o dafod iddo'n sydyn iawn, gan annog lles y rhai bach hyn, gan roi rhybudd iddo am y cosbau difrifol sydd wedi'i gosod yn y wlad yma, sy'n gwbl iawn."
Roedd y Brawd O'Brien hefyd yn ymwybodol o ddulliau Kotik.
"Roedd yn hoffi 'sbwylio' cymaint ag oedd yn hoffi 'cael ei sbwylio' ei hun, felly roedd yn ennill eu cyfeillgarwch drwy fisgedi a phethau da.
"Pan oeddwn yn dechrau pryderu roeddwn yn ei wahardd rhag mynd i dai'r dioddefwyr.
"Fe wnes i alw'r Tad Thaddeus a'i rybuddio bod yr hyn yr oedd yn ei wneud i'r plant yn anghywir.
"Roedd yn frwd iawn, a dywedodd wrtha'i yn bendant nad oedd pethau wedi mynd dim pellach."
Ychwanegodd iddo "geisio cadw llygaid" ar Kotik, a'i fod yn "credu iddo wella am gyfnod".
Ond dywedodd: "Dwi'n credu mai cyffwrdd drwy eu dillad ac yn anffodus nhw yn ei gyffwrdd ef drwy ei ddillad. Mae'n bosib, a dwi'n gobeithio ddim, fod y Tad Thaddeus wedi cam-drin...yn fwy difrifol."
Ychwanegodd: "Dwi'n credu'n gryf gallai atal unrhyw ailadrodd [o'r gamdriniaeth] gyda'r plant ifanc ar yr ynys."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2017