Croeso i Coleman wrth i Osian Roberts alw am benodi Cymro

Mae Sunderland yn dweud eu bod yn croesawu cyn reolwr t卯m p锚l-droed Cymru yn fawr ar 么l iddo arwyddo cytundeb dwy flynedd a hanner yn y Stadium of Light.

Hwn yw'r pumed clwb i Coleman ei reoli, ar 么l cyfnodau wrth y llyw gyda Fulham, Real Sociedad, Coventry City ac AEL.

Fe gymerodd Coleman ei sesiwn ymarfer cyntaf fore Sul a chanol yr wythnos bydd ei d卯m newydd yn wynebu Aston Villa.

Yn ei gyfweliad cyntaf 芒'r 成人快手 ers i Coleman ymddiswyddo fel rheolwr Cymru, dywedodd is-reolwr Cymru Osian Roberts ddydd Sadwrn mai ei ddymuniad ef fyddai i Gymro olynu Coleman.

Mewn cyfweliad ar raglen Camp Lawn, dywedodd Mr Roberts: "I mi yn bersonol fel Cymro angerddol, buaswn i'n dymuno mai Cymro sydd wrth y llyw ond ar yr un pryd mae fy meddwl i'n hollol agored.

"Does dim rheolau, wrth gwrs, yn nodi bod yn rhaid i'r rheolwr nesaf fod yn Gymro."

Yn 么l y bwcis, Osian Roberts ei hun yw'r trydydd ffefryn i olynu Chris Coleman ond doedd e ddim am gadarnhau a fyddai'n dymuno'r swydd.

"Mae nifer yn mynd i fod ar y rhestr gan ei bod yn swydd arbennig iawn rheoli dy wlad," meddai.

"Yr un peth da yw nad oes dim byd r诺an tan fis Mawrth sef y gwpan yn China.

"Am wn i y dymuniad yw cael rheolwr mewn lle wythnosau cyn y gystadleuaeth fel bod paratoadau yn gallu cael eu gwneud."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Osian Roberts yn dweud nad oes modd cystadlu 芒'r clybiau mawr yn ariannol

"O ran fi fy hun dwi erioed wedi treulio amser yn meddwl am y ffasiwn beth.

"Mae hi wedi bod yn daith saith mlynedd union i fi yn teithio gyda Gary Speed a Chris Coleman - taith orau fy mywyd ond pwyntiau isel a thrasig hefyd wrth gwrs.

"Mae p锚l-droed yn fyd rhyfedd iawn, dwi erioed yn fy nghyrfa wedi cynllunio un cam. Mae pethau'n gallu newid mor sydyn a gawn ni weld beth fydd yn digwydd yn y dyfodol."

'Methu cystadlu gyda chlybiau mawr'

Wrth gael ei holi a oedd ymadawiad Chris Coleman yn sioc iddo dywedodd Roberts ei fod yn grediniol fod Coleman yn dymuno aros ond bod clybiau mawr yn gallu cynnig llawer mwy o arian.

"Y realiti yw nad yw'r Gymdeithas B锚l-Droed yng Nghymru yn gallu cystadlu gyda'r math o arian y mae'r clybiau mawr yn ei gynnig.

"Ond dyma gyfle i Chris fynd yn 么l mewn i'r gynghrair ac mae e'n gorfod meddwl am ddyfodol ei deulu.

"Ro'n i wedi gobeithio y byddai'r ddwy ochr yn gallu dod ynghyd a chytuno i symud ymlaen.

"Dwi'n meddwl bod y ddwy ochr wedi trio... ond y realiti ydy mae p诺er ariannol y clybiau mawr yn aruthrol."

O gael ei holi a yw Mr Coleman wedi gwneud y penderfyniad iawn awgrymodd Roberts ei fod yn benderfyniad mawr gan nad yw Sunderland yn glwb sy'n perfformio'n dda ar hyn o bryd.

"Amser a ddengys. Mae Sunderland yn glwb sy'n wynebu peryglon," meddai.

"Ond mae rhywun yn tybio ei fod wedi cael y trafodaethau yma a'i fod wedi cael ei argyhoeddi y gallai wneud llwyddiant o'r clwb.

"Os geith e lwyddiant, mi fyddai hynny yn bluen yn ei het."