成人快手

Chris Coleman wedi ymddiswyddo fel rheolwr Cymru

  • Cyhoeddwyd
chris coleman

Mae Cymdeithas B锚l-Droed Cymru wedi cadarnhau bod Chris Coleman wedi ymddiswyddo fel rheolwr Cymru.

Cafodd Coleman gael ei gyhoeddi fel rheolwr newydd Sunderland, sydd ar waelod y Bencampwriaeth.

Mewn datganiad, dywedodd Prif Weithredwr Cymdeithas B锚l-Droed Cymru, Jonathan Ford ei fod yn "hynod siomedig fod cyfnod Chris Coleman fel rheolwr Cymru wedi dod i ben".

Daeth cadarnhad hefyd bod Kit Symons wedi ymddiswyddo fel hyfforddwr.

Ychwanegodd Mr Ford: "Bydd y Gymdeithas B锚l-Droed a Chymru fel cenedl yn hynod o ddiolchgar o'r gwaith mae wedi ei wneud dros y chwe blynedd diwethaf fel rheolwr y t卯m cenedlaethol.

"Rydym yn dymuno'n dda iddo wrth iddo ddychwelyd i reoli clwb, bwriad mae wastad wedi bod yn onest ac yn agored amdano."

'Sioc'

Wrth siarad 芒 成人快手 Cymru mae Iwan Roberts, cyn-ymosodwr Cymru, wedi dweud ei fod wedi "cael sioc" fod Coleman wedi ymddiswyddo.

Dywedodd: "Y tebyg yw ei fod o'n teimlo ei fod wedi mynd 芒'r t卯m mor bell ac y gallai.

"Mae o hefyd siwr o fod yn hynod o siomedig na lwyddodd e i arwain y t卯m i Gwpan y Byd yn Rwsia."

"Allai'm credu ei fod am fynd am swydd rheoli Sunderland, maen nhw mewn tipyn o fes."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Cymdeithas B锚l-Droed Cymru wedi cadarnhau bod hyfforddwr Cymru, Kit Symons hefyd wedi ymddiswyddo

Daw'r newyddion wedi i fwrdd Cymdeithas B锚l-Droed Cymru gwrdd ddydd Gwener i drafod ei ddyfodol.

Roedd cytundeb Coleman, gafodd ei arwyddo wedi iddo arwain y t卯m i Euro 2016, yn dod i ben ddiwedd y mis.

Methodd y t卯m 芒 chyrraedd Cwpan y Byd 2018 yn Rwsia ar 么l colli yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yng ng锚m olaf eu gr诺p rhagbrofol.

Ei g锚m olaf wrth y llyw oedd y g锚m gyfartal yn erbyn Panama yng Nghaerdydd nos Fawrth pan gafodd y cefnogwyr flas ar dalent ifanc y garfan.

Yn dilyn diwedd yr ymgyrch fe wnaeth rhai o'r prif chwaraewyr yn ogystal 芒'r is-reolwr Osian Roberts ddweud eu bod eisiau gweld Coleman yn aros yn ei swydd.

Pwy fydd nesaf?

Bydd sylw'r Gymdeithas B锚l-droed nawr yn troi at ganfod olynydd, gyda chyn-chwaraewyr fel Ryan Giggs, Mark Hughes a Craig Bellamy eisoes wedi'u crybwyll.

Does gan y t卯m ddim gemau cystadleuol nawr nes fis Medi 2018, pan fydd cystadleuaeth newydd Cynghrair y Cenhedloedd yn dechrau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Cafodd Coleman ei benodi yn 2012 yn dilyn marwolaeth y cyn-reolwr, Gary Speed ac fe gafodd ddechrau anodd i'w gyfnod wrth y llyw.

Gorffennodd Cymru'n bumed yn eu gr诺p rhagbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 2014, ac roedd adroddiadau tua diwedd yr ymgyrch y gallai'r rheolwr golli ei swydd.

Ond fe newidiodd pethau yn yr ymgyrch nesaf, gyda Chymru'n trechu Andorra, Cyprus, Israel a Gwlad Belg ar eu ffordd i gyrraedd Euro 2016.

Yno fe lwyddon nhw i ennill eu gr诺p a chyrraedd yr holl ffordd i'r rownd gynderfynol, cyn colli yn erbyn Portiwgal.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Hal Robson-Kanu yn dathlu'i g么l yn erbyn Gwlad Belg yn yr Euros - y fuddugoliaeth orau dan deyrnasiad Coleman?

Er gwaethaf diddordeb gan glybiau yn Uwch Gynghrair Lloegr fe benderfynodd Coleman i aros gyda Chymru, mewn ymgais i geisio cyrraedd Cwpan y Byd.

Wnaeth pethau ddim mynd cystal fodd bynnag, gyda'r t卯m yn cael pum canlyniad cyfartal yn eu chwe g锚m gyntaf gan olygu eu bod nhw ar ei h么l hi.

Fe wnaeth buddugoliaethau yn yr hydref yn erbyn Awstria, Moldofa a Georgia roi gobaith y gallen nhw gyrraedd Rwsia o hyd.

Ond yn absenoldeb Gareth Bale fe sicrhaodd y Gwyddelod yn yr ornest olaf mai nhw, ac nid y Cymry, fyddai'n mynd i'r gemau ail gyfle er iddyn nhw golli'n drwm yn erbyn Denmarc.