成人快手

Ateb y Galw: Amy Wadge

  • Cyhoeddwyd
Amy Wadge

Tro'r cerddor Amy Wadge, yw hi i Ateb y Galw yr wythnos hon, wedi iddi gael ei henwebu gan Carwyn Glyn wythnos diwetha'.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Dal fy mys mewn drws pan o'n i'n ddwy a'i gael wedi ei bwytho n么l 'mlaen - does gen i ddim teimlad ym mlaen fy mys hyd heddiw.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Michael Hutchence o INXS. O'n i'n rhoi cusan i boster ohono bob nos cyn mynd i gysgu.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Does 'na ddim yn llawer codi cywilydd arna i, ond unwaith 'nath fy merch ieuengaf, Nel, ddweud wrth Ed Sheeran - 'ni'n gwrando arnat ti 'chydig yn y car, ond mae'n well gen i Katy Perry'! Yn lwcus, roedd e'n meddwl ei fod e'n hilarious!

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'n amlwg fod Amy'n fwy o ffan o Ed Sheeran na'i merch ieuengaf!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?

Dwi'n LA yn ysgrifennu ar hyn o bryd, ac mae gadael Al a'r merched bob amser yn boenus, felly 'nes i gr茂o wrth eu gadael nhw.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Ro'n i'n arfer 'smygu ac yfed, ond nawr ddim yn gwneud yr un o'r ddau - mae pobl yn dweud wrtha i mod i nawr yn glanhau gormod. Alla i ddim sefyll a siarad 'da rhywun pan dwi adre - mae'n rhaid i mi lanhau o'u cwmpas.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Mae'n rhaid i mi ddweud lle dwi'n byw - Pentre'r Eglwys - dyna yw adre', a dwi i ffwrdd gymaint. Dwi wrth fy modd 芒'r bobl yno - mae gennyn ni ffrindiau gr锚t, ac mae fy merched yn tyfu lan mewn cymuned sydd mor bwysig i mi.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Roedd y Grammys yn eitha' anhygoel, i fod yn deg!

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Byr, swnllyd, hapus.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

To Kill a Mockingbird, Harper Lee.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Byr, swnllyd, hapus: mae gan Amy a Dolly lawer yn gyffredin!

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Dolly Parton - mae hi'n ffenomenon, un o sgrifenwyr caneuon gorau'r byd a dwi wedi clywed yn aml mai hi yw'r person neisia' ar y blaned! 'Swn i wrth fy modd yn clywed ei straeon.

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Fi ganodd y llinell 'Gladstone Brookes' yn yr hysbyseb.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Treulio pob eiliad gartre' gydag Al a'r merched - dim byd arallfydol - neis a syml.

Beth yw dy hoff g芒n a pham?

Case of you, Joni Mitchell. Bob tro dwi'n ei chlywed, mae'n f'atgoffa i bod rhaid i mi drio'n galetach.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r gantores Joni Mitchell yn ysbrydoliaeth i Amy

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Wystrys, stecen, cr猫me br没l茅e.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Ma' hwnna'n un anodd, ond basai hi'n c诺l i fod yn Tom Hanks am y dydd - mae pawb yn hoffi Tom Hanks!

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Emily Tucker