成人快手

Her i ostwng marwolaethau alcohol yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Marwolaethau alcoholigFfynhonnell y llun, Thinkstock

Mae elusen yn rhybuddio y bydd hi'n cymryd degawdau i ostwng nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol.

Fe ddaw'r rhybudd wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi adroddiad sy'n dangos fod nifer y marwolaethau wedi sefydlogi ar 么l cyfnod o gynnydd yn y degawd diwethaf.

Bu 463 o farwolaethau yn 2015 o'i gymharu 芒 504 yn 2012, tra bo marwolaethau o glefyd yr afu neu'r iau wedi cynyddu 19.4% dros y pum mlynedd diwethaf.

Ond dywedodd elusen Cais fod llawer o bobl h欧n yn parhau i fod 芒 phroblemau yfed.

Diwylliant yfed

"Dwi'n meddwl bod angen i ni fod yn ofalus o optimistaidd am y ffigyrau yma," meddai prif weithredwr yr elusen, Clive Wolfendale.

"Mae nifer y marwolaethau'n parhau'n rhy uchel. Mae gyda ni ddegawdau o afiechyd yn ein poblogaeth.

"Yn bendant, mae yna ddiwylliant o yfed gormod ymhlith y genhedlaeth h欧n, sy'n mynd i gymryd degawdau i'w ddatrys.

"Mae yna arwyddion fod yfed ymhlith pobl yn eu harddegau ar i lawr, ond mewn rhai achosion, maen nhw'n troi at sylweddau seicoweithredol newydd."

Ychwanegodd Mr Wolfendale ei fod yn falch clywed y gallai Llywodraeth Cymru atgyfodi cynlluniau i gyflwyno cyfraith newydd i osod isafswm ar bris alcohol.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae elusen Cais yn croesawu cynlluniau i osod isafswm ar bris alcohol

Yn y cyfamser, dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething fod adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru ar glefyd yr afu yn dangos bod rhagor o waith i'w wne

Yn ogystal ag alcohol, mae gordewdra a hepatitis C yn gallu achosi'r clefyd.

"Rydyn ni eisiau gostwng nifer y bobl sy'n dioddef ac yn marw o glefyd yr afu," meddai.

"Rydyn ni eisiau sicrhau fod pobl - beth bynnag fo'u hoed - yn gwerthfawrogi cadw'u hafu yn iach, a'u bod yn ymwybodol o beryglon yfed gormod o alcohol, gordewdra a hepatitis feirol sy'n cael ei drosglwyddo drwy'r gwaed.

"Fe hoffem i bawb gymryd cyfrifoldeb personol am eu ffordd o fyw a gostwng y perygl o ddatblygu clefyd yr afu.

"Yn ystod 2015-16, fe fu gwellhad yn y gofal i bobl sydd 芒'r clefyd yng Nghymru. Rydym wedi gweld gostyngiad yn nifer y marwolaethau sydd 芒 chysylltiad ag alcohol dros y blynyddoedd diwethaf, ond rydym yn gwybod fod llawer mwy i'w wneud.

"Mae gwasanaethau'n gwella ledled Cymru, er gwaetha gorfod delio 芒 galw cymhleth. Mae angen i'r gwasanaethau barhau i weddnewid os am ymdopi 芒 nifer cynyddol y cleifion a'u hanghenion cymhleth."ud.