成人快手

Prifysgol Bangor: 115 o ddiswyddiadau gorfodol

  • Cyhoeddwyd
BangorFfynhonnell y llun, Geograph

Mae Prifysgol Bangor yn paratoi i ddiswyddo 115 o staff wrth iddyn nhw geisio gwneud arbedion o 拢8.5m.

Yn wreiddiol roedd y coleg wedi dweud y gallai 170 gael eu diswyddo yn orfodol, ond mae'r brifysgol yn dweud fod cynllun diswyddo gwirfoddol ac arbedion eraill wedi lleihau'r nifer o bobl fydd yn gorfod gadael.

Yn 么l datganiad gan y coleg, "mae rhagolygon ariannol diweddar, sy'n cymryd i ystyriaeth newidiadau pellach i incwm a gwariant, yn dangos y bydd angen arbedion o 拢8.5m er mwyn sicrhau y gall y Brifysgol gwrdd 芒'r heriau sy'n ei hwynebu."

"Byddai hyn gyfystyr 芒 cholli oddeutu 170 o swyddi pe na baem yn cymryd camau eraill.

"Fodd bynnag, oherwydd y camau sydd eisoes ar waith, gan gynnwys cynllun diswyddiadau gwirfoddol, mae nifer y diswyddiadau gorfodol posibl wedi gostwng i 115 fel y mae pethau'r wythnos hon."

Dywedodd Is-Ganghellor y Brifysgol yr Athro John G Hughes: "Er bod nifer y swyddi sy'n y fantol wedi gostwng, mae'n nifer sylweddol o hyd, a byddwn yn parhau i geisio ffyrdd o leihau ymhellach ar yr angen am ddiswyddiadau gorfodol."