成人快手

Diwygio polisi cynllunio i gefnogi cerddoriaeth fyw

  • Cyhoeddwyd
Womanby
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Stryd Womanby yng Nghaerdydd yn gartref i nifer o glybiau nos a lleoliadau cerddoriaeth fyw

Mae Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, wedi cyhoeddi ei bod yn bwriadu diwygio'r polisi cynllunio mewn ymgais i gefnogi lleoliadau cerddoriaeth fyw.

Daw'r newid arfaethedig wedi i berchnogion clybiau a thafarndai ar Stryd Womanby yng Nghaerdydd alw ar gyngor y ddinas i newid statws y stryd yn un "diwylliannol", er mwyn gwarchod s卯n gerddoriaeth y brifddinas.

Roedd ymgyrchwyr yn pryderu nad oedd rheolau mewn grym i amddiffyn y clybiau a'r tafarndai, yn dilyn nifer o ddatblygiadau adeiladu yn yr ardal.

Dywedodd Lesley Griffiths ddydd Gwener ei bod am gyfeirio at yr egwyddor o 'Asiant dros Newid' o fewn y polisi cynllunio cenedlaethol.

Polisi cynllunio

O dan yr egwyddor yma, os caiff datblygiadau newydd fel fflatiau neu westai eu hadeiladu yn agos at leoliad cerddoriaeth fyw, cyfrifoldeb y datblygwr fydd rheoli effaith y newid a rheoli'r s诺n.

Fe wnaeth Lesley Griffiths gadarnhau hefyd y bydd Polisi Cynllunio Cymru yn cael ei ddiweddaru i ddynodi "ardaloedd o bwysigrwydd diwylliannol" ym maes cerddoriaeth o fewn Cynlluniau Datblygu Lleol.

Yn ystod yr ymweliad 芒 Stryd Womanby dywedodd: "Mae lleoliadau cerddoriaeth fyw yn cyfrannu'n fawr at ddiwylliant Cymru a'n heconomi liw nos.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae yna fwriad i weddnewid yr ystafelloedd uwchben tafarn y Gatekeeper ar Stryd Womanby i lety - cam sy'n pryderu perchnogion clybiau cyfagos

"Dwi'n ymwybodol o'r ymdrechion i ddiogelu'r lleoliadau hyn at y dyfodol, gan gynnwys ymgyrch "Achub Stryd Womanby" yng Nghaerdydd, a hoffwn dalu teyrnged i waith caled ac ymrwymiad pawb fu'n rhan o hyn.

"Er bod bywiogrwydd ardaloedd fel Stryd Womanby yn dibynnu ar nifer o wahanol garfanau, gan gynnwys awdurdodau lleol, y lleoliadau eu hunain a'u cwsmeriaid, rwyf wedi clywed y galwadau i ddiweddaru ein polisi cynllunio cenedlaethol er mwyn diogelu lleoliadau cerddoriaeth fyw.

"Dwi'n falch iawn, felly, o gadarnhau fy mod wedi gofyn i'm swyddogion ddechrau diwygio Polisi Cynllunio Cymru cyn gynted 芒 phosib."

Wrth ymateb i'r newyddion, dywedodd Guto Brychan, Prif Weithredwr Clwb Ifor Bach ar Stryd Womanby, ac un fu'n ymgyrchu i ddiogelu cerddoriaeth fyw ar y stryd: "Ers i ni ddechrau'r ymgyrch rhyw ddau fis yn 么l, dau brif amcan oedd ganddo ni.

"Un oedd dod a'r egwyddor 'Asiant dros Newid' i mewn i'r canllawiau cynllunio cenedlaethol a'r llall oedd i newid designation y stryd i fod yn un diwyllianol a bod hwnna'n rhywbeth oedd yn cael ei fabwysiadu o fewn polisiau lleol y cyngor.

"Dyma'r ddau beth sy'n cael ei gyfeirio ato yn y datganiad yma felly mae hyn yn arwyddocaol iawn."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Stryd Womanby wedi bod yn ganolbwynt ymgyrch i ddiogelu cerddoriaeth fyw yng nghysgod nifer o ddatblygiadau lleol